Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awdurdodir

awdurdodir

Pan fydd y Cyngor yn gweithredu mewn unrhyw lys barn neu unrhyw dribiwnlys arall boed fel pleintydd, diffynnydd erlynydd neu mewn unrhyw ffordd arall, awdurdodir Cyfreithiwr y Cyngor ac unrhyw gyfreithiwr arall a fo o bryd i'w gilydd yn gweithredu ar ran y Cyngor ac i bob swyddog arall a gyflogir gan y Cyngor i wneud unrhyw beth a fydd ei angen er mwyn hyrwyddo'r achos ar ran y Cyngor gan gynnwys, ond heb ragfarn i unrhyw beth arall a fyddai angen ei wneud, cymryd pob cam gweinyddol i ddwyn yr achos gerbron y llys ac yn y llys, ymddangos mewn achosion i gyflwyno achos y Cyngor, casglu tystiolaeth ar gyfer yr achos, rhoddi tystiolaeth yn y llys, gwneud affidafidiau, cymryd pob cam angenrheidiol i orfodi penderfyniad y llys, adennill costau ac amddiffyn yn erbyn a negodi costau a ganiateir yn erbyn y Cyngor.

(b) Mynychu unrhyw gyfarfod arall a awdurdodir gan y Cyngor, neu bwyllgor neu is- bwyllgor o'r Cyngor neu gyd-bwyllgor o'r Cyngor ac un neu fwy o awdurdodau eraill, neu is-bwyllgor o'r cyfryw gyd-bwyllgor, yn amodol ar ei fod yn gyfarfod i ba un y gwahoddwyd o leiaf ddau aelod o'r Cyngor.