Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awdurdodwyd

awdurdodwyd

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, i roddi rhybuddion gorfodaeth dan y deddfau cynllunio ynglŷn ag unrhyw ddatblygiad marchnad awyr agored (ar y Sul neu unrhyw ddiwrnod arall) ac i erlyn mewn unrhyw achos yn codi o'r rhybuddion hynny.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Staff neu Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli a'r Prif Swyddog perthnasol neu Reolwr y Gwasanaethau Uniongyrchol i ddelio'n derfynol ag achosion o'r natur hwn.

'Roedd yn orfodol gweithredu prosesau gorfodi yn erbyn datblygu nas awdurdodwyd yn effeithiol ac ar fyrder er mwyn i reolaeth cynllunio fod yn effeithiol.

(dd)NODER yr awdurdodwyd yr Ysgrifennydd Dosbarth i arwyddo dyfarniadau ar geisiadau cynllunio.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor, i erlyn mewn achosion clir (yn eu barn hwy) dan y ddeddfau cynllunio heb gyflwyno'r achosion i'w hystyried gan y Pwyllgor ond ei fod i roi gwybod i'r aelod lleol am y sefyllfa cyn erlyn.

NODER yr awdurdodwyd y Pwyllgor Cynllunio i benderfynu pa geisiadau y dylid eu cyflwyno i'r Cyngor i'w penderfynu oherwydd y rhesymau uchod.

Awdurdodwyd y Trysorydd i newid yr uchafswm benthyciad yn ôl yr angen o bryd i'w gilydd a chyflwyno adroddiad i'r Is-bwyllgor Staff.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddogion perthnasol, i benderfynu ar geisiadau am gael gweithio rhan-amser mewn achosion lle bo Meddyg y Cyngor yn cefnogi'r cais - ac yna i adrodd er gwybodaeth i'r Is-bwyllgor Staff.

Awdurdodwyd Cyfreithiwr y Cyngor i ymateb i apeliadau mewn unrhyw ffordd y gwêl yn briodol er gwarchod buddiannau'r Cyngor ac i gyflogi bargyfreithiwr ar gyfer apeliadau cynllunio lle bo angen.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Staff, Cadeirydd y pwyllgor perthnasol, y Trysorydd a'r Prif Swyddog perthnasol i godi cyflog drwy ailraddio neu o fewn y raddfa fyddai'n bodoli.

(b) Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol i ddefnyddio'i ddoethineb parthed cyfarwyddiadau ar arwyddion (ar wahân i enwau'r strydoedd).

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a'r Trysorydd, i roddi caniatâd y Cyngor, fel lanlord, i unrhyw estyniad neu newid saerni%ol i eiddo dan les neu i osod arwydd ar y fath eiddo cyn belled â bod y cyfryw waith neu arwydd wedi derbyn hawl cynllunio neu, os nad oes angen y fath hawl am unrhyw reswm, nad oes gan y Prif Swyddog Cynllunio wrthwynebiad iddo.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio i roddi hysbysiadau yn y Wasg o unrhyw gais a fydd, yn ei farn ef, o ddiddordeb arbennig i bentref, ardal neu'r Dosbarth (mae hyn yn ychnwanegol i unrhyw geisiadau y bydd yn rhaid eu hysbysebu'n unol â gofynion y Ddeddf - gan yr ymgeisydd neu'r Cyngor).

(b) Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio:-

Awdurdodwyd Swyddog Diogelwch y Cyngor sef y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Trysorydd, a'r Prif Swyddog Technegol mewn perthynas ag adeiladau'r Cyngor ac mewn achosion eraill unrhyw Brif Swyddog perthnasol i gytuno ar wariant ar unrhyw waith a fydd yn angenrheidiol yn eu barn hwy ar ôl gwneud arolwg dan y cyfryw reoliadau, - ond yn amodol ar gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith priodol cyn cytuno ar unrhyw wariant neu waith sylweddol.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor i erlyn mewn achosion clir o droseddu dan y ddeddf uchod i'r dyfodol ac i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol ar ran y Cyngor yn deillio o hynny.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr i weithredu, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog perthnasol, ynglŷn â gwahoddiadau i gyrsiau byrion.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog perthnasol, i gymryd camau i derfynu gwasanaeth os bydd archwiliad meddygol yn tystio nad yw swyddog yn atebol ar gyfer y swydd ar ôl sicrhau na all ymgymryd â swydd ysgafnach os bydd un ar gael.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Staff a'r prif Swyddog priodol, i ymestyn y cyfnod hanner cyflog hyd gyfarfod dilynol yr Is-bwyllgor Staff mewn achosion priodol, gan adrodd i gyfarfod dilynol yr Is- bwyllgor Staff ar unrhyw sefyllfa lle y defnyddir yr hawl hwn.

Awdurdodwyd yr Ysgrifennydd Dosbarth i weithredu'r cynllun mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr a Chadeirydd yr Is-bwyllgor.

(b) Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is- bwyllgor Staff, i weithredu mewn achosion eraill anarferol lle mae hawl i'r Awdurdod weithredu'i ddisgresiwn a bod adroddiad i'w gyflwyno ymhob achos i'r Is- bwyllgor er gwybodaeth.

Awdurdodwyd Cyfreithiwr y Cyngor i gadarnhau Gorchmynion gwyro i'r dyfodol lle na dderbynnir gwrthwynebiadau iddynt ond eu bod fel arall i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog perthnasol, i benderfynu ar geisiadau.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog perthnasol i wneud penodiadau dros dro, llawn neu ran amser, fel bo'r angen - ond er llenwi bwlch yn unig.