Fel yr oedd teimladau'n poethi, a pherygl i'r Rhyddfrydwyr dynnu'n ôl, daeth yr Henadur William George i'r adwy ac apelio at ei blaid ail ystyried a rhoi'r Ymgyrch, fel yr awgrymasai Plaid Cymru, yn llaw mudiad unol nad oedd yn rhwym wrth na phlaid nac enwad, cyngor na mudiad o unrhyw fath.
Ym Mawrth, awgrymasai nad oedd diben i'r Blaid, gan fod brwydrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg eisoes wedi eu hennill.