Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awyren

awyren

Edrychodd unwaith eto ar y dyn du a oedd yn rheoli'r awyren.

Diolch iddi hi, cafwyd tocynnau awyren i'r tri ohonom am chwarter y pris arferol.

Daeth yr awyren i lawr yn esmwyth gan redeg ar hyd rhyw gae.

Gwyddai fod yr awyren yn troi gan ei fod yn teimlo fel pe bai pwysau mawr ar ei gefn a'i ben.

'Roedd yr awyren yn hedfan yn esmwyth mewn awyr glir.

Aeth yr awyren hebddo ac wedi ail-bacio'i fagiau roedd ar ei ffordd i dde-ddwyrain Twrci.

Ond fel y digwyddodd hi, dyma'r dyn yn tynnu pedwar o bobol oddi ar yr awyren heb droi blewyn, ac fe gymerson ninnau eu seddau hwy.

Yn bersonol, roeddwn yn falch iawn o'r esgus i ymuno gyda'r dorf oedd yn codi ar eu traed ac yn y martsio o gwmpas yr awyren bob awr.

Roedd yn llythrennol yn rhoi ei droed ar awyren a fyddai'n ei gludo ar daith rygbi i'r Unol Daleithiau pan alwyd arno i fynd i Irac.

Mae disgwyl y bydd consortiwm Airbus yn cadarnhau ddydd Mawrth y bydd yn mynd ymlaen i gynhyrchu'r awyren A3XX.

Credant ei fod yn beth anlwcus iawn i fynd â blodau ar awyren, yn enwedig rhai coch a gwyn.

Nid oedd pethau'n edrych yn obeithiol o bell ffordd, yn enwedig wrth i lyngeswyr, a oedd yn barod i fyw yn ôl yn y dyddiau cyn dyfodiad yr awyren, anfon dwy long ryfel fawr gyda'u miloedd o forwyr i gael eu chwythu allan o'r dŵr rywle ym mhendraw'r byd.

Y 'Comet', yr awyren jet gyntaf i deithwyr, yn hedfan.

Bydd peilotiaid Americanaidd bob amser yn croesi gwregysau diogelwch ar seddau gwag yn yr awyren er mwyn plesio'r ysbrydion anhysbys.

Yr oedd y peilotiaid eraill yn drist iawn wrth feddwl na châi o chwarae rygbi na llywio awyren byth wedyn.

Eto, mae peilotiaid a chriwiau awyrennau yn ofni defnyddio'r gair 'crach' na sôn am unrhyw ddamwain i awyren cyn cychwyn allan ar siwrnai.

Toc dechreuodd y car droi yn ei unfan gan wneud sŵn tebycach i awyren yn hwylio i godi nag i ddim arall, ac fel y sathrai JR ar y sbardun suddai'r cerbyd yn is ac yn is nes o'r diwedd iddo gloi yn ei unfan.

Wedi pasio drwy'r mannau angenrheidiol heb gael fy holi neu fy amau - mae edrych yn betrusgar mewn maes awyr yn wendid - dyma fi'n setlo ar yr awyren.

Bydd tair awr ar ddeg ar awyren Cathay Pacific wrth hedfan o Heathrow wedi rhoi cyfle i sylwi ar y penawdau yn y South China Morning Post.

NEIDIWCH!' Roedd yn rhaid i'r hyfforddwr parasiwt weiddi am fod peiriant yr awyren yn rhuo cymaint.

O'r awyren gwelwn oddi tanom wlad wastad, isel, yn ymestyn bob ochr i'r afon Mekong, afon sydd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y wlad, afon sydd yn chwyddo i ffurfio llyn Tonle Sap ar ei ffordd i'r môr.

Past pysgodyn oedd rhwng y tafelli, ond roedd y dafell uchaf yn codi i fyny fel adain awyren Delta, oddi wrth y past.

Yr awyren gyntaf i'w chynllunio a'i adeiladu yng Nghaerdydd, y 'Robin Goch', yn cael ei chwblhau gan C.H. Watkins.

Fe ddechreuodd y dryswch o'r eiliadau cynta', pan gliriodd y cymylau uwch Vilnius ac y trawodd yr awyren DanAir y tarmac ym maes awyr digysur y dref.

Cyn ei araith cyhoeddodd Eritrea ei bod wedi saethu i lawr tair awyren ymladd.

Cawsant drafferth fawr i'w gael allan o'r awyren gan fod ei goesau'n sownd.

Taflodd Archie ei hun allan trwy ddrws yr awyren.

Awgrymodd y dyn camera y byddai'n ddarn mwy trawiadol pe bai modd gweld blaen gwn un o'r pedwar gwarchodwr arfog yr oedden ni wedi'u llogi cyn camu o'r awyren.

Cofiodd fod peilat otomatig yn rheoli awyrennau modern ac yr oedd yn sicr fod Abdwl wedi pennu'r cwrs gan adael rheolaeth yr awyren i'r peilat otomatig.

Wilbur ac Orville Wright yn llwyddo i hedfan awyren.

O'r gorau,' meddyliodd Glyn, mi gei di lonydd yr hen foi.' Eisteddodd yn ôl yn ei sedd i edrych ar y sêr drwy'r ffenestri yn nho ac yn nhrwyn yr awyren.

Ystyriwn ei ganllawiau yn fympwyon hen ddyn, ac eto fe fu+m i'n ofalus iawn fy hunan - teithio gyda'r trên araf i Frankfurt, a dim ond wedyn, yn Frankfurt, codi tocyn awyren i Efrog Newydd, gan nodi a oedd unrhyw un a oedd yn y trên gyda fi yn codi'r un tocyn.

Dysgodd Douglas Bader yn gyflym sut oedd gyrru awyren.

Ag yntau ar fin mynd ar yr awyren, arestiwyd ef a'i gyfieithydd Iranaidd.

Nid oedd compiwtar gan Galileo, na radar gan Columbus, dim awyren gan Marco Polo, na dril trydan gan Michel Angelo, Handel heb stereo a Phantycelyn heb Volkswagen.

Dro arall, chwarddai peilot Messerschmitt wrth weld awyren o Brydain yn ffrwydro, a'r gweddillion yn plymio fel tân gwyllt i'r môr.

Pan oedd ar fin dychwelyd gwnaed cyhoeddiad fod bom ar yr awyren, ac ymhen y rhawg daliwyd un terfysgwr.

Plymiodd un amdano yn wyllt, fel awyren yn sgrechian cyn gollwng bom ar long adeg rhyfel.

Eglurodd bod y sach yn dod i fewn i'r awyren efo nhw.

Bu anferth o glec, a chwympodd yr awyren i'r ddaear.

Yna ymhen dipyn fe gei di ddringo i ran uchaf un o'r mastiau er mwyn edrych allan am dy ffrind." Yn anffodus, doedd yr un awyren ar gael.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Ffurfio'r mudiad gwrth-arfau niwcliar, CND. Tywysog Charles yn derbyn y teitl 'Tywysog Cymru'. Wyth aelod o dîm pêl-droed Manchester United yn marw mewn damwain awyren ym Munich.

Bai y peilot oedd pob damwain awyren.

"Taith mewn dau dacsi, dau fws, dwy awyren ac un picyp a barhaodd 35 awr ac yr oeddwn wedi cyrraedd y Gaiman," meddai Dafydd.

Trychineb Lockerbie pan ffrwydrodd awyren a lladd 259 ar ei bwrdd ac 11 ar y llawr.

Mae'r stori yn cychwyn gyda dau fachgen bach yn chwarae ar awyren sy'n cael ei chadw i ddiheintio cropiau ar fferm yn Tennesee ym 1923.

Trawodd y ddwy awyren yn erbyn ei gilydd.

Ond, wrth i ni eistedd i ddisgwyl galwad i fynd i'r awyren, gwireddwyd ei hofnau mwyaf.

Roedd eisoes yn un ar ddeg o'r gloch, a byddai'r awyren yn gadael ymhen dwyawr.

Wyth aelod o dîm pêl-droed Manchester United yn marw mewn damwain awyren ym Munich.

Un bore Llun yn ystod yr Ail Ryfel Byd disgynnodd awyren fechan ar gae chwarae'r ysgol.

Hedfan am bump awr mewn cocpit awyren y Groes Goch, yn cario nwyddau allan i geisio lleddfu dioddefaint y Cwrdiaid.

Teimlai'n sicr mai yn hwnnw y cedwid yr awyren.

O Efrog Newydd i Rio, ac yna, yn Rio, archebu sedd mewn awyren i Belem, nodi a oedd unrhyw un arall o'r awyren o Rio yn gwneud yr un peth.

Louis Bleriot yn llwyddo i hedfan awyren ar draws Môr Udd.

Synnai Glyn nad oedd yn cyffwrdd y llyw nac yn rhoi ei law ar y pilar a reolai'r awyren.

Ond wrth frysio yno ar gefn ei fotor beic newydd, ac edrych ar awyren uwch ei ben yr un pryd, syrthiodd i ffos.

Doedd yna fawr o siâp ar ddim arall ac fe fyddai'r `bws' i'n cario o'r awyren i'r adeiladau - hen, hen lori gyda threlyr rhydlyd - wedi methu ei MOT gwpwl o ddegawdau ynghynt.

Trodd Abdwl drwyn yr awyren i gyfeiriad y golau hwnnw ac yn fuan safodd yr awyren o flaen cwt mawr.

Amelia Earhart yn glanio awyren fôr, 'Friendship', ym Mhorth Tywyn.

Tacsi o dy Nain a Taid yn Maes Barcer i Stesion Gaernarfon i ddal y trên i Fangor a newid ym Mangor i fynd i Heathrow i ddal yr awyren i Awstralia.

A dywed wrth wylwyr y glannau yn Acapulco i drefnu i awyren neu ddwy ddod i'n cynorthwyo.

Pan ofynnodd Powell beth achosodd i'r awyren orfod glanio, daeth yr ateb sotto voce gan Gareth, "Sgido yn yr awyr." a'r prifathro'n methu a deall pam fod gweddill y dosbarth yn eu dyblau.

Protestio ar faes awyr Abertawe rhag defnyddio awyren a logwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru i allforio lloi.

Ddrwg gen i bod ni'n hwyr, yr awyren yn hwyr a nawr i ni wedi cael puncture.

Hon oedd un o'r teithiau awyr uniongyrchol cynta' i mewn i'r wlad; o'n cwmpas ar yr awyren, roedd ambell Lithuaniad cefnog a haid o bobl fusnes o'r Gorllewin yn barod i chwilio am ddêl.

Ddeng mlynedd yn ôl, dim ond un awyren achlysurol a fyddai'n teithio yno yn ôl y galw o Lundain; erbyn heddiw, gellir hedfan i Krako/ w bob dydd o Heathrow, ac er nad yw'r maes awyr yn fawr iawn, mae'r adeiladau yn welliant sylweddol ar y sied a gofiaf.

Roeddwn i'n eistedd yn y tywyllwch ar haenau o sachau bwyd ym mol awyren a ddefnyddiwyd flynyddoedd ynghynt, yn ôl y peilot Americanaidd, i gario arfau i'r Somaliaid.

Roedd yr awyren ddeng mil o droedfeddi lan a chyn hir roedd y ddau ddyn yn plymio tua'r ddaear ar gyflymdra o gan milltir yr awr.

Pan laniodd yr awyren mewn cae ar gyrion Mogadishu, a phan agorodd ei safn fecanyddol yn araf er mwyn i'r gwaith o ddadlwytho sachau bwyd a newyddiadurwyr ddechrau cyn y saethu, roedd yr olygfa yn un yr oeddwn innau wedi'i gweld ar sgrin y teledu.

Buom yn tin droi yn y fan honno gan golli'r awyren gyntaf, ond roeddem yn y maes awyr mewn da bryd i ddal yr un nesaf am unarddeg o'r gloch.

Anfonodd am brif ddyn y maes awyr a dweud wrtho am dynnu pedwar o bobol oddi ar yr awyren er mwyn gwneud lle i ni.

Bu'n rhaid i'r awyren fechan lanio ar borfa ddwywaith yn ystod y daith.

Awyren!!!' Distawrwydd.

Roedd criw yr awyren yn mynd i orffwys am bedwar diwrnod yn Istanbwl - ond aros yn Iran wnaeth Aled.

Gwelem Mekong o'r awyren fel llinell arian yn llifo drwy'r wlad; mewn rhai mannau mae'n dair milltir o led ac yn ddigon dwfn i longau o'r môr mawr i hwylio i fyny cyn belled â Phnom-Pen .

"Y mae angen dynion ifanc da fel ti i yrru'r Spitfires." Awyren newydd sbon oedd hon.

Cyn i'r penglogau gael eu claddu aeth hi mewn awyren i Ganada.

Siarad hefo'r BBC i roi'r newyddion diweddaraf am y ddamwain awyren Americanaidd.

Cafodd y dyn y tu ôl i'r ddesg em paciau er mwyn eu llwytho ar yr awyren - gafaelodd yn ein cêsus a'u towlu y tu ôl i'w ddesg.

Mae'n nhw'n ymylol ac eto maen nhw yng nghanol ein bywydau, labeli tuniau bwyd, sigarennau a thybaco, poteli gwin a diod, pacedi powdwr golchi, tocynnau bws, trên ac awyren, arian papur, bondiau.

Un arwydd o hyny oedd yr holl bobl busnes oedd ar yw awyren yn teithio yn ôl ac ymlaen oddi yno.

Ffwrdd â ni am yr awyren, a chyn cyrraedd Karachi, euthum at Bholu a chyda gwên gofynnais iddo beth oedd pwysigrwydd y sach.

Mae Airbus yn mynd ymlaen i adeiladu awyren fwya'r byd, efo'r adennydd yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru.

Roeddwn i ar yr awyren o Buenos Aires i Drelew ac fe eisteddodd dynes ganol oed o'r enw Silvia wrth fy ymyl.

Craffodd hithau tua'r awyr fel petai'n ceisio gorfodi'r awyren ddychmygol i ymddangos uwch ei phen.

Tan yr eiliad olaf, hyd nes i mi gamu ar y gangway i'r awyren, dywedwn wrthyf fy hun: Cansla, telegram tri gair ac fe fyddi di'n rhydd o'i afael!

Gan fod ganddi docynnau awyren, a chan ein bod ninnau'n gadael ar y dydd Iau, gwnaethpwyd trefniadau i ni gasglu Siwsan a'r plant o'u cartref yn gynnar yn y bore a'u hebrwng yn ôl i Gymru.

A hefyd doedd taith bedwair awr mewn awyren lawr o Toronto i Calgary a sesiwn ymarfer yn dilyn - a honno ddim yn un dda - fawr o help chwaith.

Teimlai fod yr awyren yn disgyn yn gyflym ac yntau fel pe bai'n cael ei adael ar ôl yn yr awyr.