Mae'r awyrgylch yn ysgaf a golau.
Dyma wendid mawr y cyngerdd: roedd yr awyrgylch a'r canu yn wych ond trueni na fyddai'r trefnwyr wedi gosod sgriniau er mwyn osgoi yr holl wthio a stwffio yn ystod y perfformiad.
'Roedd yno rywfaint o'r hen awyrgylch bendefigaidd yn aros, a theimlem, rywsut, fod yr hen adeilad urddasol yn bendithio, ac yn estyn ei nawdd, i weithgarwch y penwythnos hwnnw.
Ar ôl cyrraedd, aem i gyfarfod y myfyrwyr meddygol Gwyddelig a blasu awyrgylch arbennig Dulyn hyd oriau mân y bore.
Gwrthodwyd gyda mwyafrif mawr gynnig am weithredu uniongyrchol yn wyneb gweithredoedd ymosodol, ac yr oedd yno awyrgylch o ddicter a rhwystredigaeth hawdd ei ddeall.
Yr oedd y gramaffôn a gawsai fy nghyfaill Williams yn gyfnewid am gerbyd modur aneffeithiol, yn byrlymu allan nodau prudd-felys "Y Sospan Bach," ac yr oedd aroglau dymunol dros ben yn trwytho'r awyrgylch.
Gellid gweld bod yna gysylltiad rhwng diffygion yr awyrgylch moesol a'r diffygion yn yr amgylchedd materol, a rhwng y rheini a'r gwasgu a oedd ar addysg i wneud iawn amdanynt, dyna arwain at un o'r themâu pwysicaf yn yr Adroddiadau.
Hawdd gweld fod y cyfan yn ddeunydd chwedloniaeth - hawdd suddo i awyrgylch Krishna a mabinogi'r hen India.
Mae ceir wedi'u gwahardd o'r canol erbyn hyn gan adfer rhywfaint o awyrgylch canol oesol y dre farchnad - cyn teyrnasiad y brenin glo a dyfodiad diwydiannau alcam, olew a dur i waelod Cwm Nedd.
Collid awyrgylch tyngedfennol y digwyddiadau pe na phwysleisid yr agwedd hon gan mor ganolog ydyw yn holl waith Saunders Lewis.
Magwyd Richard Davies, mae'n amlwg, yn awyrgylch a thraddodiad yr uchelwyr o barch tuag at leynddiaeth gynhenid Cynru a diddordeb mawr ynddi, megis rhai eraill o gyfieithwyr beiblaidd ei gyfnod; a William Salesbury, William Morgan, a John Davies, Mallwyd, yn eu plith.
Bydd yr awyrgylch Gymreig yn parhau yn Wellington yfory gyda Margot yn mynd a chriw o 40 i weld Ray Henwood o Abertawe yn perfformio mewn cynhyrchiad o Playing Burton yn cael ei gyfarwyddo gan Guy Masterson sy'n or-nai i Richard Burton.
Yn y pnawn roedd Meic Stevens yn perfformio ac er iddo fo ddweud ei fod wedi cerdded bob cam o Gaerdydd heb fy ffon yr oedd ei berfformiad yn gwbl bleserus - do, fe gafwyd y clasuron Dournanez a Môr o Gariad, ai lais rywfodd yn gweddu i awyrgylch yr Wyl.
Mae cyfrifoldeb arbennig ar gadeiryddion y pwyllgorau i greu awyrgylch fydd yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
A yw'r ysgol yn hybu addysgu ei disgyblion i gyd ac yn darparu awyrgylch dysgu sy'n cefnogi anghenion yr unigolyn yn academaidd ac yn ddatblygiadol?
Yr oedd Huw Huws yn bopeth gwrthwyneb i Anti Lw; yn smociwr trwm, yn fwytawr harti a di-lol, a gallai greu awyrgylch mewn amser, hwyrach mewn un noson, a yrrai'r foneddiges gymhenllyd honno ar ffo.
A'r awyrgylch yn llawer mwy cartrefol rhwng disgyblion ac athrawon.
Erbyn canol y bore yr oedd yr haul yn ei anterth, ac aeth awyrgylch yr iard yn drymaidd a chysglyd eithriadol, a'r tawelwch hefyd yn gwneud pethau'n waeth.
Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.
Mae'r awyrgylch sydd yma'n nes at ysgafalwch canu Dafydd ap Gwilym nac at nwydau tymhestlog Pantycelyn.
Mae'r peiriannau presennol at dwymo'r awyrgylch erbyn nos yn ddefnyddiol iawn, ond 'does dim allan o le i berson oedrannus, neu ffaeledig, gysgu yn ei ystafell ddydd os mai dyna'r ffordd hawsaf i gadw'n wresog.
Gwelodd Lisa, trwy ei lygaid ef, yr awyrgylch dlodaidd, y peiriannau llaw hynafol, ac amgylchiadau gwaith cyntefig y gweithwyr.
Ond eto i gyd i ddod lawr i Barc y Strade, mae rhywbeth unigryw ynglyn â'r awyrgylch lawr fan'na.
Gwahoddwyd cynulleidfaoedd Cymreig i ymuno yn awyrgylch Last Night of the Proms gyda chyngerdd a chyswllt arbennig i Lundain.
Trawyd Vera gan awyrgylch oer y tŷ ar unwaith.
Mae creigiau cochion yn arwydd sicr bod y graig honno wedi ei ffurfio dan amodau anialwch sych oherwydd fod y lliw coch yn dod o'r haearn sydd wedi rhydu yn yr awyrgylch sych.
Mae'r awyrgylch hiraethus a'r ffordd rwydd o drin paent yn cuddio cyfansoddiad delicet o ofalus lle mae llygaid yr edrychwr yn cael ei arwain mewn cylch o gwmpas y das.
Ym marn Lingen, o gofio'r awyrgylch a'r amgylchiadau y treuliai merched ifanc Cymru eu mebyd ynddynt, yn lle rhyfeddu at yr hyn y dywedai pobl amdanynt, dylasent sylweddoli y buasai'n syndod petaent heb fod felly.
Dichon nad yw awyrgylch y cyfnod presennol yn fanteisiol i ennill rhagor o ieuenctid i fod yn ymgeiswyr am y Weinidogaeth.
Peth arall oedd yn newydd i un a fagwyd mewn tref Seisnigaidd fel Y Rhyl oedd darganfod fod llenydda'n rhywbeth byw i'r rhai a fagwyd mewn awyrgylch gwbl Gymraeg.
Ffrwyth y cwbl yma oedd llwyddo i greu yn Ebeneser awyrgylch gynnes, deuluol.
Cafwyd ail gyfres haeddiannol o Peter Karrie Unmasked ac roedd awyrgylch bywiog wedi'i warantu gyda chymysgedd difyr ac annisgwyl o westeion megis Bernard Manning a Patrick Moore.
Mae ganddo hyder un a fagwyd ym mri ac urddas dau sefydliad arall" - yr unig un yn Siambr y Cynulliad i brofi rhin ac awyrgylch y ddau dy Llundeinaidd.
'Roedd yr awyrgylch yn drydanol - swn anfarwol.
Mae 'Gyda'r Nos Ar O^l Glaw' yn enghraifft ardderchog: yr awyr a'r tir, heb bobl nac adeilad yn y golwg, yn llawn symud ac awyrgylch; yr haul yn torri trwy dduwch cwmwl sydd fel talp o fynydd ar y gorwel.
Yn wir, fe fyddwn i'n dadlau fod awyrgylch yr holl gân yn wahanol i'r arfer, a hynny oherwydd yr un newid bychan yma.
Y Stori Mae stori Dafydd yn troi o amgylch y prif gymeriad, Dafydd: bachgen ifanc hoyw, sy'n dianc o awyrgylch gyfyng a chul ei dref enedigol ym Mhontypridd i geisio rhyddid yn ninas Amsterdam.
Yna'n sydyn dyma dref, gyda man ffatrioedd, ac mae'r awyrgylch ar unwaith yn newid ychydig.
Ond er fod teitlau amryw o'r rhain, fel y lluniau, yn cyfeirio at fannau penodol, cyfleu awyrgylch ac ymateb personol yw nod yr artist, yn hytrach na chofnodi'n union yr hyn a welodd.
Ei nod yn creu awyrgylch, nid darlunio pethau.
Awyrgylch hynod gyfeillgar a ffwrdd â hi oedd yno gyda'r offeiriad yn yfed cymaint â neb.
At hynny, roedd cyfle i fwynhau awyrgylch Krako/ w heb fod yno filoedd ar filoedd o dwristiaid, ac i gerdded mynyddoedd y Tatra heb fod sgi%wyr fel morgrug hyd y lle.
Roedd Parti Ponty yr ail yn hynod o boblogaidd, gyda pherfformiadau gan Big Leaves a Celt yn ychwanegu at yr awyrgylch bywiog.
Mae'r newidiadau wedi rhoi awyrgylch ysgafnach a hapusach i'r clwb, ac rydym yn gobeithio bydd y llwyddiant a gafwyd yn y gorffennol yn parhau.
Fel yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor, y nod yw fod awyrgylch cartrefol yn creu diogelwch hefyd.
Yn naturiol mae'r awyrgylch yn cael ei drawsnewid pan ddaw'r trafod i ben.
Y mae yna awyrgylch i'r trac gyda chyffyrddiadau tebyg i'r Gorkys syn ei gwneud yn gân hamddenol braf.
Gan greu awyrgylch nos Sadwrn, cyflwynodd DJ ieuengaf erioed BBC Radio Wales, Leanne Pearce (Precious) sy'n 20 oed, y rhaglen House Party.
Fe ddigwydd hyn pan fo'r awyrgylch mewn Gwasanaeth lacha/ u yn un sy'n peri i'm calon losgi ynof â chariad at yr Iesu.
Yr oedd awyrgylch dangnefeddus i'n gwaith y bore hwnnw.
Oherwydd yr oeddwn yn ddeg ar hugain oed cyn dechrau dysgu Cymraeg o ddifrif, a chan na chefais y fraint o gael fy magu mewn awyrgylch Cymraeg, nid oes gennyf mo'r reddf na'r hyder sy'n anhepgor i un a fynnai arfer iaith yn y modd mwyaf celfydd sydd, sef i wneud cerdd.
Beth bynnag, yr hyn a wnaeth argraff arnaf i oedd yr awyrgylch waraidd, braf - hefyd y cymorth oedd ar gael.
Archwilio themâu, eu hadlewyrchu, dylunio cymeriadau, creu awyrgylch, pwyso a mesur y math o theatr mae'r cynhyrchiad yn digwydd ynddi, creu byd newydd, cryno...
Fe gawsom wledd gan Agenda Nos Sadwrn gan brofi a blasu yr awyrgylch yn bur effeithiol.
Bu llawer o'r lludw hwn yn hofran yn yr awyrgylch am flynyddoedd lawer.
Gellir teimlo rhyw awyrgylch na ellir ei ddisgrifio â geiriau.
Mae'n wir y sonnir am dyrfa o filwyr, am gefnogaeth gref y chwarelwyr, ac am yr awyrgylch gynhyrfus yn gyffredinol.
I'r mwyafrif, yr oedd y Beibl yn llyfr cwbl ddieithr, a chyfaddefodd llawer o'r milwyr na wyddent fod dau Destament yn y Beibl cyn iddynt fynychu 'Awr y Caplan', sef yr awr neilltuedig a roddwyd i'r caplan i gwrdd â'r bechgyn a'r merched mewn awyrgylch anffurfiol.
Yn nwylo medrus Tony Jones, llwyddwyd i greu yr awyrgylch gynhyrfus briodol yn y rhan gyntaf ac i gael tensiwn rhwng y Ficer a gŵr y Tollau yn yr ail ran.
Bid a fo am hynny, yn yr awyrgylch yna 'roedd yn ddigon naturiol i mi fagu diddordeb mewn cantorion, ac fel yna fe gyrhaeddais fyd Opera.
I Merêd roedd holl awyrgylch y lle'n amheuthun - y symlrwydd cyntefig ac yn arbennig yr heddwch perffaith heb na cherbydau swnllyd na phobl drystfawr i'w ddifetha.
Yn wir, gellid disgwyl iddi ddod dan gyfaredd awyrgylch rhamantus y daith.
Abraham yn ei hen ddyddiau, yn planu coed, nid blodau....., Abraham yn planu coed, ac yn eu gadael i ofal Duw.' Dyna bennau'r pregeth: pregeth haws ei llunio yn awyrgylch nawdegau'r ganrif ddiwethaf nag yn nawdegau'r ganrif hon.
Ond er mor syml y rhediad mae'r manylion a gynhwysir a'r awyrgylch a gre%ir yn cyfrannu at ddatblygiad y stori oherwydd trwyddo rhed llinyn beirniadaeth o gymeriad Geraint yn ei ymagwedd a'r math o ddifyrrwch sy'n mynd â'i fryd.
Mae mwyafrif y cyffelybiaethau yn rhannau annatod o'r darlun ac yn ein galluogi i weld a chlywed a theimlo naws ac awyrgylch.