Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

babyddol

babyddol

Ni allaf feddwl am unrhyw wlad arall yn y Gorllewin oddi ar yr unfed ganrif ar bymtheg, ddim hyd yn oed wlad Babyddol, lle y tra-arglwyddiaethwyd mor llwyr ar y gair printiedig gan weithiau crefyddol ag y gwnaed yng Nghymru'r ganrif ddiwethaf.

Er ei fod yn offeiriad yn yr Eglwys Babyddol, yr oedd yn ŵr priod, fel llawer iawn o offeiriaid eraill yr oes yng Nghymru.

Er taw fel Mwslim y cafodd Menem ei fagu, bu'n rhaid iddo dderbyn y ffydd babyddol fel un o'r amodau o fod yn arlywydd.

Buaswn irmau'n ateb y pwynt cyntaf a ddyfyrmwyd o'r Llythyr ynghylch Catholigiaeth trwy fynnu bod gwadu ymhoniadau ysbrydol a gwleidyddol yr Eglwys Babyddol a herio ei hawdurdod cyn hyned ac mor Ewropeaidd â'r Eglwys Babyddol ei hun.

Tra bod Natalie yn mynychu dosbarthiadau meithrin mewn ysgol babyddol leol, mae Adam mewn ysgol breifat - yr ysgol orau ym Methlehem - ac yn cael addysg ardderchog, yn ôl ei fam.

Fe'i penodwyd yn un o'r ymwelwyr brenhinol i fwrw golwg tros yr Eglwys a sicrhau fod yr esgobaethau a'r plwyfi'n dilyn cyfarwyddiadau'r llywodraeth ac yn newid yr hen drefn babyddol.

Yr ydych yn tybio mai traddodiad Cymru yw'r grefydd Gatholig, am mai hi oedd ein crefydd pan oedd ein llenyddiaeth a'n diwylliant ar ei orau; felly am eich bod yn gwybod gwerth traddodiad yr ydych yn tueddu (a siarad yn gynnil) i ddywedyd mai ennill fyddai i Gymru fyned yn Babyddol.

Yn y Traethawd dadleuai Newman nad oedd yr erthyglau, o'u dehongli'n gywir, yn wrth-Gatholig nac yn wrth-Babyddol.

Ar ei dechrau yr oedd y deyrnas yn babyddol ac ar ei diwedd yn brotestannaidd.

Hefyd yr oedd awdl Gwenallt yn Babyddol ei syniadaeth a'i delweddaeth, ac ofnai llawer ar y pryd, W. J. Gruffydd, er enghraifft, fod Catholigiaeth ar gynnydd yng Nghymru.

Yr oedd hyn yn tueddu i fod yn nodweddiadol o'r hen drefn babyddol pan oedd uchel swyddogion yr Eglwys hefyd yn weinyddwyr yn y llysoedd ac yng ngwasanaeth y Goron.