Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bachgen

bachgen

Decllath i ffwrdd, rwy'n gweld bachgen bach â choesau cam yn cydio'n sownd wrth sgert ei fam.

yr un teimlad ag a gâi wrth fynd i siopa 'da Janet i waelod Heol Eglwys Fair, wrth syllu ar y lamp fawr ar ffurf bachgen du'n dal gole yn y caffe crand gwyn 'na, a phawb yn wyn yn y siope, a'r tegane a phopeth, a'r bobl yn y llyfre - ar wahân i'r goliwogs - Jolly Wogs ...

Plygodd y bachgen i lawr unwaith eto, a phan oedd y belen eira yn dechrau ymdoddi yng ngwres ei ddwylo, anelodd hi at ben un o'r milwyr.

Bu bron i'r bachgen â thorri allan i wylo.

Croesodd ei choesau siapus a hoeliodd ei llygaid ar wyneb y bachgen.

"Glywsoch chi?" meddai bachgen y siwt lwyd.

Ufuddhaodd y bachgen a derbyniodd y gosb.

Prawf trawiadol o'i ddiddordeb yn yr ieuenctid, ac o'i ynni diorffwys, oedd ei waith yn lansio'r cylchgrawn, Gwybod: Llyfr y Bachgen a'r Eneth.

Mae'n gwybod gormod,' Edrychodd Mwsi yn gas ar y bachgen.

Yr olaf o bump ohonom oedd bachgen o'r enw Joni Bach Castle Hall, hogyn bychan, tenau iawn.

Dyma iti wats, rho hi am dy arddwrn,' ac er mawr syndod i'r bachgen taflodd wats arddwrn hardd ar y gwely.

Gallai'r bachgen weld ei wyneb yn y golau gwyrdd a deflid gan y degau o ddeialau bychain.

Sut y gallai un bachgen ymladd?

Bwytewch y bacwn rwan, hogiau: os rhedwn ni allan o fwyd cawn fwyta'r cogydd." Ynghanol y chwerthin, llithrais i mewn i gael gair â'r bachgen oedd yn paratoi'r bwyd, roeddwn yn gweld posibilrwydd o ' tribal feud' yn mynd ymlaen tra byddem yno.

Sicrach - er nad cwbl sicr - ydyw fod bachgen arall addawol o dref Llanrwst ei hun, sef Edmwnd Prys, wedi bod yn ddisgybl gydag ef wrth draed caplan Gwedir y dyddiau hynny: yr oedd Prys ryw flwyddyn yn hyn na Morgan.

Ac er mwyn y bachgen a'i peintiodd o y gofynnais ichi sgwennu erthygl am yr arddangosfa i'r Gwyliwr.

Yr IRA yn ffrwydro bom yn Warrington ac yn lladd bachgen 4 oed.

Mae'n rhaid bod golwg wedi dychryn ar fy wyneb, gan yr âi rhai o'r bechgyn yn fwy hy arnaf, a llawer yn gweiddi, "Roi di gweir i mi?" Yn sydyn, cododd un bachgen ei law, a thaflodd fy nghap oddi ar fy mhen.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi cael cwynion am y bachgen.

Mam hwnnw mewn côt croen dafad tu ôl i'r gwydr, yn syllu a rhythu wrth wylio'i bachgen bach gwyn hi'n nofio'n ofnus ar hyd a lled Pwll yr Ymerodraeth, a dau lamhidydd bach du'n nofio o'i amgylch ac ar 'i draws, er mwyn cadw golwg arno fe!

Llwyddodd i wneud ffrindiau a bachgen gan ei bod yn gwybod gymaint am bel-droed.

Daeth bachgen o dde India, o'r enw D.

Bachgen ifanc iawn oeddwn i pan gyfrannodd y bobl hyn eu pytiau yn y llyfr (oddieithr y mwy diweddar ohonynt) ac arwynebol iawn, ar y gorau, oedd f'adnabyddiaeth i o gymeriad neb y pryd hynny.

Tynnodd ei lun a cheisio canfod oedd gan y bachgen deulu yn dal i fyw yn lleol.

Un syniad yw eu bod nhw i gyda wedi marw o'r pla; un arall yw eu bod nhw i gyd wedi ymuno â `byddin y plant' o dan arweiniad bachgen o'r enw Nicholas o Cologne.

Gyda'r geiriau dramatig yna y disgrifiodd un o gystadleuwyr Blind Date sut y bun rhaid iddi daflu ei hesgid at y bachgen ai henillodd er mwyn gwneud iddo wrando.

Bachgen tawel arall a ddaw i'm cof, un a fu'n gweithio gyda ni fel un o'r myfyrwyr yn ystod yr ha', oedd un o ardal Nanhoron a ddaeth yn fardd y Goron.

Ni chlywodd y traed ysgafn y tu ôl iddi nes i lais bychan dorri ar draws ei bwrlwm a gofyn iddi'n wylaidd: 'Ble mae Mam, Miss Beti?' Stopiodd yn y fan a rhyw hanner gweld bachgen bach penfelyn tlws yn sbio'n ymddiriedol i fyny ati.

Y bachgen cyntaf i ennill Bathodyn Aur y Profion Medrusrwydd oedd R.

byddai 'n amhosibl cerdded yn erbyn y lli, ond wrth fynd i mewn yn ymyl y bont byddai 'n symud ar draws y cerrynt ac os câi ei ysgubo, yn nes at y bachgen yr ai ai ai on !

Efo Mr a Mrs Roberts yn Park Street y lletywn, a'm cydletywr oedd Elfed Davies, bachgen ifanc a oedd â'i fryd ar y weinidogaeth.

bachgen, ddim mwy na naw neu ddeg oed, fe dybiai, yn gafael yn dynn a 'i ddwy law mewn dyrnaid o frigau digon bregus yr olwg arnynt, a 'r rhan fwyaf o 'i gorff bychan yn cael ei chwipio 'n gyson gan ruthr y dyfroedd o 'i amgylch.

Ar ddiwedd wythnos o boen meddwl y mae'r bachgen yn sylweddoli na fydd ef fyth yn fynach nac yn offeiriad.

Ddydd Sul cafodd bachgen Palesteinaidd 14 oed ei saethu'n farw gan filwyr Israel wrth ymyl croesfan i Lain Gaza.

'Capelulo' oedd enw ty ei dad am ei fod yn debyg i dy o'r un enw yn Nwygyfylchi, a buan iawn y bedyddiwyd y bachgen yn Twm Capelulo gan bobl y dref.

Oddi wrth Mr Richards, ar 'i ben blwydd, deudwch wrtho fo.' Cymerodd y bachgen y llyfr ac edrychodd ar y teitl.

Effeithiodd y ddau ragrithiol hynny yn fawr ar feddwl y bachgen chwe mlwydd oed, fel nad ysgydwodd yn llwyr byth oddi wrth yr argraff roisant arno.

Roedd bachgen o'r enw Doby, ryw ddwy flynedd yn hyn na'r gweddill ohonom, yn gofalu am ledger mawr â'n henwau ni ynddo.

Cyn agosed fyth ag a allai i ymyl uchaf y ddalen, yn ei iaith ei hun, dododd Mr Kumalo o Swasiland yn yr Affrig ei adnod, fel bachgen bach yn y seiat, a rhoes y Saesneg yn wylaidd rhwng cromfachau ar ei hôl: God is Love.

Dywedodd wrthyf un tro, fod ei fywyd bore oes i'w gael yn Y Pentre Gwyn - cyfnod y chwaraeon, y potsio, yr hel priciau yn y goedwig, y cyrchu dwfr o Ffynnon Dolafon, ac mai darlun ohono ef sydd yn 'John Ty Pell', ac yn Y Golud Gwell fel 'Arthur Puw,' sef y bachgen y byddai pobl yn gofyn i Betsi Puw - 'Ai eich bachgen chwi ydyw,' pryd yr atebai yn swta - 'Y fi sy'n ei fagu o'.

Bachgen dwad oeddwn i, a Bowen Bach oedd fy llysenw.

Mae awdurdod Pendaran Dyfed ym mater enwi'r bachgen yn amlwg, a chan fod Teyrnon a Phendaran Dyfed ill dau'n cael meithrin y bachgen, mae'n debyg fod cysylltiad arbennig rhwng Pryderi a Phendaran Dyfed.

Mae Justin, bachgen 13 oed, wedi cael ei adael ar ei ben ei hun ar fferm ei ewythr Mac a phan fo'r arth grisli, sydd wedi lladd anifeiliaid ffermydd cyfagos, yn lladd anifail sydd yn annwyl iawn i Justin, mae o am ddial.

'Mae o gen i, Robaits,' meddai'r gŵr, ac yna ychwanegodd yn flin gan ysgwyd Siân nes bod pob asgwrn yn ei gorff yn teimlo'n rhydd, 'Busnesa, aiê?' Roedd ei lais fel taran wrth iddo godi'r bachgen oddi ar y beic fel petai yn ddim mwy na doli glwt.

Syfrdanwyd y crwydryn a dychrynodd drwyddo wrth weld y bachgen bach annwyl o'i flaen yn tynnu cleddyf o'i wain i'w fygwth yntau.

Os bachgen, byddai llwyddiant mawr yn dilyn, os merch, aflwyddiant.

'Rydw i'n deall dy fod ti eisiau ymuno â'r giang?' 'Ydw.' 'Be 'di dy enw di?' 'Dei.' 'Dy enw llawn di?' 'David William Lewis.' Ac yna rhag i Bilo sylwi ar lythrennau cyntaf ei enw, ychwanegodd yn sydyn: 'Dei neith.' Cythrodd Bilo'n sydyn i wddw'r bachgen a'i ysgwyd fel cath yn ysgwyd llygoden.

A gafodd bachgen erioed well siawns i fod naill ai'n eithriadol o grefyddol neu'n eithriadol o groes i hynny?

Ai hwn ydy'r bachgen?

'Oedd e'n effro?' gofynnodd y bachgen.

Y bore hynny, roedd o'r pwys mwyaf pa un ai bachgen neu ferch alwai gyntaf yn y tū.

'Faswn i'n hoffi cwrdd â'r bachgen, y bachgen sy'n gwitho 'da chi, Mr Huws.' byrlymodd ar ei draws.

Arhosodd Mathew yn ymyl y gwely am ryw hyd gan obeithio y byddai'r hen ŵr yn deffro unwaith eto iddo allu ei holi ynglŷn â'r bachgen.

Roedd hi wedi dweud wrtho am adael llonydd i hwnna heddi - byddai'r bachgen yn ddigon amharod i fynd nol i Benderin fel yr oedd hi!

Mi ddôth y dyn llyfr bach ata i ar ddiwedd yr oedfa bore Sul a dweud wrtha i yn blwmp ac yn blaen na chawn i byth fynd yno wedyn am fy mod i'n rhoi oel ar fy ngwallt.' O drugaredd, 'roedd gan y bachgen hwnnw gryn dipyn o synnwyr digrifwch ac fe ddaeth yn bregethwr poblogaidd iawn ac yn un o arweinwyr 'i enwad - er 'i fod o'n dal i roi od ar 'i wallt.

'Bachgen ardderchog oedd o, a'i enaid ar dân dros Gymru a'i phethau.'

Daeth y bachgen tawel hwnnw yn un o feirdd enwocaf y genedl.

'Rydw i'n cofio un bachgen oedd yn y coleg gyda mi.

Felly, bachgen o'r wyrcws oedd fy nghymwynaswr, a minnau wedi fy nysgu mai bechgyn drwg oedd yno.

Y Stori Mae stori Dafydd yn troi o amgylch y prif gymeriad, Dafydd: bachgen ifanc hoyw, sy'n dianc o awyrgylch gyfyng a chul ei dref enedigol ym Mhontypridd i geisio rhyddid yn ninas Amsterdam.

Y mae'n gofiant i un bachgen glandeg, un 'Cymro gwlatgar', a gollwyd ar faes y gad ymhell o'i gartref.

Clywodd yr Orsaf Achub am drafferthion y bachgen nes ymlaen yn y prynhawn.

Y wedd fwyaf amheuthun ar y gerdd hon yw'r darlun a roddir o'r bachgen bach.

A pham y cosbai heb gael prawf fod y bachgen yn euog?

Pan oeddwn i yn ifanc fe fyddai dau neu dri bachgen yn canu ar hyd y tai ar noson ola'r flwyddyn i groesawu'r un newydd.

Canu?" Chwerthin yn uchel wnaeth y bachgen.

Yn sicr, nid bachgen drwg oedd John Jones.

Soniais am y bachgen Doby.

Y mae David Ellis ei hunan mewn dau englyn ac un llythyr yn cyfeirio at dri bachgen hoff o'r ardal a fu farw yn y Rhyfel - tair addewid a dorrwyd.

Wrth drwsio setts ar stryd yn Glasgow ryw bnawn, digwyddodd weld bachgen a merch ifanc yn dod i lawr y stryd ac er mawr syndod iddo eu hadnabod fel dau o Benmaenmawr.

Roedd yr anghyfiawnder yn amlwg i'r bachgen ifanc, ac aeth ati i geisio gwneud ei fasg ei hunan gyda darn o blastig a chortyn.

'Roedd y bêl yn dod trwodd, dyma Roger yn dod allan a jyst tynnu'r bachgen i lawr.

Beth wyddoch chi am y bachgen sy' ar goll?

'Llanfair.' meddai'r bachgen.

Mae gwaith anodd o'n blaen ni.' Aeth y tîm achub i safle ar y clogwyni a oedd yn union uwchben y bachgen.

Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .

Mi aeth trigolion Glan Aber, Porth Tywyn, at yr heddlu i gwyno am y bachgen, sy'n cael ei alw'n lleol yn Dick Turpin.

Y tro arall oedd gweld Miss Parry, Neigwl Ganol, o Glwb Llangian yn dod i mewn a bachgen ysgol yn gyd-gynrychiolydd.

bachgen da iawn.

Roedd y bachgen yn gwneud setts yn Furness a'r ddau newydd briodi'r bore hwnnw a dod i Glasgow am y diwrnod.

"Y gaeaf hwnnw fe ddechreuodd hi fflyrtan gyda'r cowmon newydd, bachan ifanc digon teidi o'r North 'na rywle bachgen cryf, yn eitha golygus, ac yn weithwr da.

"Rwan, dim o dy lol di," meddai'r bachgen, ac ar y gair, agorwyd drws yr ysgol yn sydyn, a daeth Mr Roberts allan.

Yn y Vita Cadoci fe adroddir enfances y sant a diddorol yw sylwi bod anifail, sef buwch, yn cael ei gipio oddi wrth y dyn a fydd yn athro i Gadog y nos y genir y bachgen, amgylchiadau sy'n peri inni feddwl ychydig am Bryderi a Theyrnon.

Y mae yna rai sydd wedi derbyn graddau prifysgol am lawer iawn llai nag a gyflawnwyd gan Huw Jones - bachgen o Fôn yn wreiddiol a fu am ddeng mlynedd yn was ffarm cyn troi at y weinidogaeth.

Ni bu dim plant o'r briodas, a'r bachgen a gafodd ofal tadol Morgan oedd ei nai, Evan Morgan, mab ei frawd hynaf.

Ni chymerodd yr un ohonynt sylw o'r bachgen.

Wedyn dyna Kevin Jones, bachgen pymtheng mlwydd oed o Surrey, a gafodd ei anafu mewn damwain trên ond a anwybyddodd ei boen ei hun er mwy helpu a chysuro eraill.

'Tybed ai' ti yw'r bachgen a gafodd yr Afal Aur?'

Fe agora i e.' Gwthiodd Paul, y bachgen hynaf, y lleill i'r ochr a gafaelodd ym mwlyn drws y wardrob.

Dyma, er enghraifft, benillion a gyfansoddwyd gan lanc cyn iddo gyrraedd ei ddeuddeng mlwydd oed, bachgen o'r enw T. G. Jones o Bontypridd,

Ceir swyn serch arall sy'n dweud y gall bachgen ifanc ennill cariad merch wrth roi darn o wm cnoi iddi ar ôl iddo ddweud cyfrinach ei gariad wrth y gwm.

Bu'n rhaid iddo gyfaddef mai ef oedd y bachgen a gafodd yr Afal Aur, a chollodd y crwydryn arno'i hun yn lân o glywed hynny.

Mae bachgen pedair oed a menyw sy'n gweithio yn y gegin yn Ysgol Fabanod Ynysboeth yn Abercynon yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Galwodd eto a daeth y bachgen allan o'r buarth ar gefn y ceffyl gwinau tal.

Dau fachgen 10 oed yn llofruddio bachgen dwy oed, James Bulger, yn Lerpwl.

Yr oeddwn fel bachgen bach wedi cael beic newydd am y tro cyntaf.

Gwasanaeth Diolchgarwch: Dosbarth Tryfan oedd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Diolchgarwch eleni, a chyflwynwyd hanes Jeffrey Kirni, bachgen bach croenddu o Kenya sydd yn cael ei noddi gan yr ysgol.

Rhoddid dwy gneuen ar raw, un i gynrychioli'r bachgen a'r llall y ferch a gosod y rhaw ar y tân.

Edrychodd y tri bachgen ar ei gilydd.

Mae hyn yn mynd a ni ymhell iawn oddi wrth y wyddoniaeth bendant, sicr a di-newid mae'r lleygwr a'r bachgen ysgol mor aml yn ei amgyffred.