Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bachog

bachog

Er hynny, ceir yma ddechrau byrlymus i'r EP, gan arwain at gytgan eithaf bachog.

Beth wnanhw efo'r holl flaenoriaid - sylw bachog aelod ym Mhendref, oedd o'r farn mai uno'r capeli i greu un capel i bawb fydd yr ateg yn y diwedd.

Erbyn hynny nid angen athro oedd arnom ond "referee%, a gwnaeth Bob Edwards y gwaith hwnnw'n orchestol gan daflu ambell sylw neu gwestiwn bachog i ganol y stormydd geiriol.

Cafodd ambell un ei bigo gan yr awen yn un swydd i sgrifennu'n y llyfr, gan lunio penillion a gyfeiria at ryw ddigwyddiad arbennig yn hanes fy rhieni, neu at yr achlysur pan roddwyd y llyfr o'u blaen - ffordd i guddio'u personoliaeth eu hunain gyda chyfeiriadau bachog at rywun arall.

Ar y fersiwn Wyddeleg o Bacha hi Oma neu Blind Date - Cleamhnas - nid y merched syn rhoi cwestiynau bachog i'r bechgyn.

Gair eithaf bachog hefyd; yr oedd y cyfrolau i'w dychwelyd ar unwaith.

Mae yma sôn am fenter arwrol Sulyn, cyfraniad y papurau bro a sylw bachog mai Radio Cymru, efallai, ydi'r mynegiant cywiraf o'r traddodiad newyddiadurol Cymreig.

Byddwn yn trafod llawer gyda John Garn am gymeriadau Pen Llŷn a'u dywediadau bachog.

Roedd ambell i label yn arbenigo mewn un math o gerddoriaeth hefyd, - Elektra a'r canu gwerin protest yn y chwedegau, Stiff a'r caneuon bachog, ffwrdd-â-hi yn y siathdegau, Factory a'r don newydd o grwpiau 'difrifol' a ddaeth yn sgil canu pync.

Mae gan y grwp ddawn anhygoel, ac ‘rydw i'n parhau i synnu at y ddawn arbennig honno, sef eu gallu parhaol i gyfansoddi nifer fawr o ganeuon byr, bachog a syml.

Does dim dwywaith fod William Owen Roberts yn gallu trin geiriau, yn gallu dweud pethau bachog â'i dafod yn ei foch, ac yn deall rhythm a rhediad brawddeg.

Gallai gyfansoddi brawddegau bachog a byw, a gwyddai fod amser a lle priodol i ddefnyddio sebon a sgrafell.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.