Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bacio

bacio

Aeth yr awyren hebddo ac wedi ail-bacio'i fagiau roedd ar ei ffordd i dde-ddwyrain Twrci.

Meddai Eirlys: "Mae pobl yn dod o bobman i brynu baco yma am eu bod yn fwy hoff ohono na'r stwff sydd wedi ei bacio'n barod, er ein bod yn gwerthu hwnnw hefyd.

Daeth cyffro sydyn i'r pebyll; dadwersyllwyd mewn byr amser ac yn syndod o fuan roedd y cwbl wedi ei bacio ar gefnau'r camelod, a rheiny'n protestio yn eu ffordd arferol yn erbyn gorfod codi oddi ar eu pen-liniau.

"Help i ddad-bacio'r car 'ngwas i.

Mewn dipyn mi fydd gwasanaeth doctor yn PDH, mi fyddwch chi'n cerdded i mewn i beiriant, hwnnw yn dadansoddi eich salwch, byddwch yn rhoi punt mewn blwch, a bydd ffisig neu dabledi yn dod allan wedi ei bacio'n ddestlus a 'print-out' taclus i ddilyn i ddweud wrthych pryd i gymryd y moddion.

Wedi cael cefn y ddau aeth JR Jeremeia Hughes ati i ddad-bacio ei hoff drysor, a hynny mor dyner a gofalus a phe byddai'n fam ifanc yn diosg ei chyntafanedig.

Meddwl yr oeddwn i y byddai llawer cae arall eto yn etholaeth Mr Rod Richards yntau (dyweder), tua Colwyn Bê, sydd ag ychwaneg o le i bacio rhai o'r rheiny yno: i abersochio rhyw fymrn ar y lle.

Mi fydd gan gymunedau Cymru yr hawl i ddweud wrth John Walter Jones am bacio ei gês.