Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

baco

baco

"Siop bapur newydd a baco'n unig oedd hi pan gychwynnais weithio yma i Huws a Roberts.

Cyllideb Lloyd George yn siomi'r Torïaid: cyflwyno 'supertax' o 6d ( 2 1/2c ) i'r rhai a enillai dros £5000 ac ychwanegu at dreth alcohol a baco i dalu am wasanaethau lles.

Roedd eraill ar eu ffordd i'r wlad lle bydden nhw'n treulio tair wythnos yn cynaeafu dail baco.

Baco gydag arlliw brandi ceirios arno neu Curly Cob, yn gymysgedd o faco pur, gyda baco sawr licris?

Prin iawn, bellach, yw'r siopau sy'n dal i werthu baco rhydd ac yn ei bwyso allan bob yn owns ar glorian fechan hen ffasiwn.

Meddai Eirlys: "Mae pobl yn dod o bobman i brynu baco yma am eu bod yn fwy hoff ohono na'r stwff sydd wedi ei bacio'n barod, er ein bod yn gwerthu hwnnw hefyd.

AR ôl cyrraedd sgwâr Rhuthun, dilynwch yr arogl baco.

Ar ôl yr ymgyrch gyntaf honno ynglŷn â'r iaith, daeth o bob cythrwfl fel march rhyfel yr Ysgrythur, ond bod y mwg o'i ffroenau ef yn fwg baco ac yn fwg bygylaeth.

Mae llwch blynyddoedd wedi caledu ar ymyl y sgertin yng nghartref y ddiweddar Mrs Hughes, nes ei fod 'fel edau baco' ('Cathod Mewn Ocsiwn').

Rwy'n hoffi arogl baco." Taniais y sigaret a chwythu llond ysgyfaint o fwg i'w gyfeiriad ac fe'i gwyntiodd fel daeargi wrth dwll llygoden fawr.

"Wrth brynu baco rhydd mae pobl yn cael mwy o ddewis, yn cael y cyfle i drio pethau gwahanol, ac yn bwysicach fyth maent yn arbed arian." Mae'r math yma o faco yn rhatach bydded rhywun yn ei ddefnyddio mewn cetyn neu ar gyfer ei rowlio.

"Y mwyaf ffein yw'r baco y cyflymaf mae'n llosgi.

Ac rydw i fod i dalu £200 am fod mor haerllug â dewis cyffur saffach na'r alcohol a baco mae'r ynadon yn eu cymeryd.

Meddai gŵr sy'n teithio o Ddinbych i Rhuthun yn unswydd i brynu'i faco: "Mae'n rhatach i mi ddod yma i brynu baco rhydd a gwario punt ar betrol na phrynu sigarets wedi'u pacio." Mae'r dewis yn rhyfeddol a gellir eu cymysgu fel y mynnir.

Diolch i'r brenin nad oedd neb yn cnoi baco!

Gyda'r arian fe lenwid howldiau'r llongau â baco, cotwm, siwgr a rwm a chludo'r rhain yn ôl i Lerpwl a phorthladdoedd Prydeinig eraill.

Gellir cael darnau brasach ar gyfer cetyn ac rydym hyd yn oed yn gwerthu Twist sef y darnau o baco a gaiff eu naddu a'u torri gyda chyllell gan yr ysmygwr." O ystyried nad yw Eirlys Williams yn smocio ei hun mae'n gryn awdurdod ar gyfrinachau'r mwg.

Dyn oedd Gruffydd Parry a rannai ei grystyn olaf â thlotyn yn llawen dros ei Feistr, a bydd llawer a'i hadnabu yn ei nerth a'i ysbrydolrwydd llachar yn barod i'm blingo'n fyw am i mi chwythu'r whiff annuwiol yma o fwg baco dros bêr-arogl ei enw, mi wn.

Dywed Eirlys mai'r baco Light Shag a'r Mixed Shag yw'r rhai mwyaf poblogaidd ar gyfer eu rowlio.

Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.

Nid oedd yn ddiotwr ei hunan, ond roedd yn ysmygwr, ac mae ei flwch baco ar silff y ty yma ar hyn o bryd.

Galwai yma yn aml iawn a chan fod Edward yn defnyddio'r baco main arferai weiddi lathenni cyn dod i'r golwg, "Ydi'r hen faw hen faco 'na gen ti?" Llanwai ei getyn ar unwaith a châi flychiad o fatsys i geisio ei thanio gan ddefnyddio iaith nas defnyddid yn yr un Seiat ar ôl pob methiant.