Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

baeddod

baeddod

Yn ffodus i'r ffermwyr hyn, mae eira trwm Sweden yn y gaeaf wedi bod o ryw help iddyn nhw i ddod o hyd i'r baeddod, ac felly yn rhoi cyfle iddyn nhw i'w dal neu eu lladd nhw.

Felly dydi hi ddim yn syndod o gwbwl fod y mwafrif o'r baeddod yn byw ar ynys Morko oherwydd y ffaith syml fod yma goedwigoedd yn llawn o goed derw sy'n rhoi digonedd o fes i'r baeddod, ond hefyd fod yr arfordir yn lle da i'r anifeiliaid hyn ddod o hyd i bryd o fwyd ymysg yr hesg yno a hefyd wrth ddwyn wyau adar gwylltion sy'n nythu yn llu wrth ochr y mor.

Mae trwch yr eira - cymaint a hanner medr o ddyfn- der - yn rhwystro'r baeddod rhag crwydro'r wlad ac felly yn eu cyfyngu i un ardal arbennig.

Ond creaduriaid hynod o ddyfeisgar ydi baeddod.

Ar y llaw arall, mae naturiaethwyr y wlad wedi bod yn hynod o brysur yn achub y cyfle i astudio arferion y baeddod hyn.Er ei fod yn hysbys i bawb fod yr anifeiliaid hyn yn reddfol yn hoff o fes fel eu bwyd mewn coedwigoedd, sylweddolwyd yn fuan eu bod nhw hefyd yn hynod hoff o frwyn a hesg sy'n tyfu wrth ochr y mor.