Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

baich

baich

Chei di ddim mynd o gwmpas yn cario baich pechodau'r byd ar dy ysgwyddau, mewn sefyllfa lle nad oes bai arnat ti o gwbl, pr'un a wyt ti am wneud hynny ai peidio.

I lawer iawn o bobl anghrediniol, baich yw amser.

'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.

Mae rheolaeth leol ar gyllid a dyletswyddau cynyddol o ran gweinyddu ac asesu'n gosod baich aruthrol ar brifathrawon sydd bellach â'r cyfrifoldeb statudol o gyflawni'r holl ddyletswyddau hyn yn eu hysgolion nhw.

Yn cynorthwyo'r golygydd, felly, ac yn rhannu'r baich ag ef, mae dau neu dri is-olygydd, neu ymchwilwyr fel yr arferid eu galw.

Ymhob pentre' mae gweddwon sy wedi colli'u plant yn awr yn gorfod ysgwyddo'r baich o adeiladu'r economi heb lawer o ddynion i'w helpu.

Fe steddes i yn y gader am funud, yn union ar ol rhoi baich o goed yng nghefen y grat i sychu, ond fe ofynnodd ifi godi ar unwaith a dod i iste ati hi ar y soffa.

Heb amheuaeth yr oedd y Gynhadledd wedi gosod baich trwm iawn ar ysgwyddau'r cefnogwyr i gyd.

Tra bod Kevin Keegan a Mark Hughes yn ail-asesu tactegau yn dilyn y gystadleuaeth, y wers i'w dysgu yn ôl cymdeithasau pêl-droed y gwledydd Celtaidd yw mai y ffordd ymlaen yw rhannu baich y trefnu.

Baich gwŷr llys Aber oedd gwarchod gwlad wedi'r cwbl.

Gweithiai JE yn ddiwyd a thawel gan gano pen trymaf y baich ei hunan bob amser.

Trwy ryw ryfedd wyrth, ni anafawyd ef ond dyna diwedd ar arbrawf arall i ysgafnhau baich ffermwyr ucheldir Ceredigion!

Bu darllen John Cage yn fodd i ysgafnhau'r baich a gwneud cyfansoddi yn rhywbeth difyr.

Dros y blynyddoedd aeth baich gofalu am weithgareddau drama'r Eisteddfod yn gynyddol drymach a theimlodd Emyr Jenkins, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar y pryd, y dylid ysgafnu rhyw gymaint ar lwyth gwaith ei Drefnwyr yn y De a'r Gogledd.

Jenkins, gynnig rhannu baich y dysgu ac felly ddatrys problem amserlen y prifathro.

Y mae'n bwysig i bob un sydd yn gweithio dros ffyniant iaith a chymdeithas gael eu gweld yn ysgwyddo baich yr anghenus yn y gymdeithas honno.

Y mae baich y prysurdeb mwyaf yn disgyn ar ysgwyddau golygydd y rhaglen.

Rydw i yn cario baich o amheuaeth ac o dywyllwch drwy fy oes, yn rhan annatod o'm ffydd a'm gobaith, ond gyda hynny yn aros gyda'm dewis a cheisio gwneud y pethau sy raid.

Ac wele, ymhen amser, daeth y grym trydan i ryddhau'r mulod o'u baich beunyddiol, a pherchnogion y trenau a werthodd y mulod am hyn a hyn o arian.

ond, os gohirir mwy o gemau bydd yn rhaid ysgwyddo'r baich yn hwyrach yn y tymor.

Yn ail, dydi gwadu baich yr ymgyrhcu dros yr iaith ddim yn dileu y baich hwnnw'n syth.

Parhad o'r ymosodiad hwn ar gredo Cymdeithas yr Iaith yw mynnu nad 'brwydr' yw'r un dros y Gymraeg bellach, ac nad 'baich' o urhyw fath ydyw.

Mae rhai pobl yn beirniadu'r rhieni hyn yn llym, heb sylweddoli baich y cariad y bu'n rhaid iddyn nhw ei aberthu, rhag i'w plant farw o newyn.

(ff) Mae Cristnogion weithiau yn gwneud baich mawr o arweiniad y fath faich nes eu parlysu.

'Ro'n i'n gweld Laura Elin o'r Felin a Hywal y mab yn mynd yno bora a baich o bricia dechra tân ar gefna'r ddau." Gwelodd JR yr annibyniaeth y bu'n hiraethu cymaint amdano yn diflannu o dan ei drwyn, a hynny cyn iddo ef i gyrraedd.

Wrth ystyried y pethau hyn, cododd baich mawr ar fy nghalon dros y bobl hyn - baich a wthiodd y chwilfrydedd arwynebol, a'm hofnau naturiol o'r neilltu.

Profasom y baich.

Dylid osgoi rhoi'r baich i weithredu dwyieithrwydd ar y bobl sy'n dewis siarad Cymraeg.

Mi fyddai llywodraeth Geidwadol yn lleihau baich y trethi busnes ac yn lleihau'r Adran Diwydiant a Masnach gan wneud arbedion o £400m.

Ond wedi dychwelyd i'w lety ymfwriodd yn fwy angerddol nag erioed i'w lyfrau, a rhyfeddu bod cymaint o hwyl i'w gael yn y gorchwyl o'i gymharu a'r baich a fuasair'r pwnc iddo pan oedd yn llencyn ysgol.

Yr hyn wnaeth Cymdeithas yr Iaith oedd troi'r baich hwn o fod yn un anioddefol i fod yn her.

Ysgafnhau a wna'r galwadau ar weithwyr naw tan bump erbyn diwedd y prynhawn a phrin fod yna'r un maes lle na rennir baich y gwaith yn weddol gyfartal.

A gan mai gwaith pur anodd yw gosod unrhyw gyfrifoldeb yn gryno ar gefn pwyllgor mawr ac amrywiol rhaid i'r baich yn y pen draw syrthio ar gefn un dyn, yr ysgrifennydd cyffredinol.

Y Diddanion oedd yr unig lecyn golau yn Nhrysorfa'r Plant ac am Y Cenhadwr, ofer fu'r ymdrech erioed i ddod o hyd i ddim ynddo i ysgafnhau y baich o grefydd oedd yn pwyso arnon ni.