Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

balch

balch

"Yr offeiriedyn balch, anwybodus, anghristionogol yn Rhydychain neu Lanbed, sydd yn ry fonheddig i ddarllen un gair o'r ysgrythyr, nag i wybod dim oll o gynhwysiad y llyfr hwnnw; - Methodistiaeth yw hyny yn ei olwg; ac y mae ef ei hunan, a'i deulu gartref, lawer o raddau yn rhy genteel i fod yn debyg i Fethodistiaid...".

Gwaeddodd rhywun arnaf y dydd o'r blaen a balch oeddwn o weld Buckley unwaith eto.

Dyn tal, union ei osgo a balch ei gerddediad.

Collais y cyfle i weld y cynhyrchiad ar lwyfan, felly balch iawn oeddwn o gael gwylio telediad ohono.

Yr oeddem yn ddigon balch i'w gweld ac yn teimlo ein bod wedi cerdded yn ddigon pell am un diwrnod, ac ar wahân i hynny wedi gorfod ymegnio'n bur drafferthus ar ôl llesteiriant y twnnel.

De Iwerddon yw gwir gartref hurling, ond mae traddodiad balch a chryf yn Antrim a Derry, hefyd.

Balch hefyd oedd deal fod Len (Williams) gartref ar ol rhai wythnosau o driniaethau yn Lerpwl.

Er mor gryf y bywyd Cymraeg hwn ni buasai, er pan ymgorfforwyd Cymru yn Lloegr, draddodiad balch o wrthsefyll y sefydliad Seisnig mewn unrhyw amlygiad ohono.

Bydd hynafgwyr balch a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd yn eu gwisgoedd Cenedlaethol a'u bronnau wedi eu haddurno â rhesi o fedalau.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

Sut bynnag, pan welodd ei hun yn sefyll yno, gwelodd ddyn trwsiadus, balch a hapus.

Oblebid darlunnir ef ynddynt bron yn ddiethriad fel brenidn balch a ffôl, gormeswr ac ysbeiliwr ar y saint.

Balch iawn oeddwn nad oedd rhaid i mi gysgu mewn pabell ond yn ddigon blin wrth feddwl y byddwn ynddi hi y noson wedyn.

Balch oedd o gael y defaid yn ddiogel a throi i mewn gyda'r nos at y tân a golau cynnes nwy calor a lampau olew.