Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

balchder

balchder

Nid oedd pawb o blith yr ymneilltuwyr o blaid addysg, beth bynnag, ac yr oedd y gred fod addysg yn creu balchder yn gyffredin yn eu plith.

Balchder oedd un o'r rhesyme am yr agwedd, oherwydd bydde ennill y cwpan yn uchafbwynt teilwng i flwyddyn y canmlwyddiant.

'Balchder aristocrataidd' awdur Gwaed yr Uchelwyr yw gwir wrthrych sylw Gruffydd, ni waeth pa mor amhersonol y cais fod.

Yr ymgais hon i gynnal balchder yw gwreiddyn yr hanes a ddefnyddiwyd gan Humphrey Llwyd - neu yn hytrach, yr hanes a amddiffynnwyd ganddo, yn wyneb ymosodiadau o'r tu allan.

Yn y Mabinogi fe gyferbynnir yr hen a'r newydd: balchder, rhyfeloedd a dial yr hen gymdeithas baganaidd yn erbyn gostyngeiddrwydd, amynedd, a chariad brawdol cymdeithas wedi ei selio ar rinweddau Cristnogol.

ac yn enwedig i ragfynegi balchder, cau allan ymœrost y rhai a dybiant eu bod yn ddoethion'.

Roedd hi'n llawn balchder, ac yn credu fod pob dyn ar 'i hôl hi.

Pawb yn dal ei anadl cyn gadael yn llawn balchder a hunanbarch.

Mae'n werth dyfynnu'r paragraff hwn oherwydd mae'n dweud mwy am y gwir bryder ynglŷn ag addysg academaidd ac uwchradd nag y mae cyfeiriadau Iolo Caernarfon (er enghraifft) at y Cwrdd Misol yn haeru mai 'hunan a balchder oedd wrth wraidd' dymuniad Dr Owen Thomas i fynd i Brifysgol Edinburgh.

Ond erbyn pedwar o'r gloch daeth balchder i'w gyrru o Grud y Gwynt.

Byddai balchder hwnnw wedi dy ladd.

Mae geiriau Richard Davies yma yn dangos yn eglur iawn paham y gellir galw'r corff hwn o hanes yn 'fyth': y mae'n dylanwadu ar yr ysbryd a'r dychymyg, a'i ddiben, neu ei rym arbennig, yw cynnal balchder a hunan-barch y Cymry.

Datblyga Pryderi'n ŵr hael a charedig, gŵr sydd weithiau'n adlewyrchu balchder a thuedd i weithredu'n fyrbwyll yr hen drefn, ond eto gŵr dewr a chywir sy'n barod i roi ei fywyd ei hun er mwyn diogelu ei bobl.

Dim ond am wythnos yr oeddwn i yno, ond dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi cwrdd â'r un Beiruti oedd yn meddwl nad oedd yna ddim gobaith ac mi roedd eu balchder nhw yn rheoli'r ffordd yr oedden nhw'n meddwl.

Awtomeiddir y diwydiant gyda'r ford mesur-a-pwyso a'r llinell gynhyrchu: 'Rhagor o fasgedi - row G', Dros nos gwelwn Tref yn magu asgwrn cefn a balchder personol yn ogystal a digywileidd-dra wrth dynnu sylw hafing y warden traffig (awdurdod) oddi wrth y lori gludo!

Collir arwyddocâd y syniad o bobl Dduw, os tynnir ef allan o'i gyd-destun yn niwinyddiaeth y cyfamod ac etholedigaeth Dyna a wneir pan geisir ei esbonio fel balchder cenedlaethol, a'i gymharu â'r teimladau o falchder a ddangosir gan bobloedd eraill.

Y peth sy'n destun balchder i mi yw fy mod yn fore wedi sylweddoli bod athrylith yn eich gwaith a'm bod i wedi dweud hynny nes galw sylw at y peth o'r diwedd gan eraill.

Yn y pumdegau, roedd Cuba'n chwilio am ddyn a allai adfer eu balchder cenedlaethol drwy herio'r Unol Daleithiau, dyn na fyddai'n cael ei lygru gan arian y Mafia.

Mae'r wasg yn Iwerddon newydd gyhoeddi gyda balchder i economi'r wlad dyfu 11% yn ystod 1999.

Yn ogystal ag edrych yn ôl mewn balchder ar ei hanes canolbwyntiodd y gerddorfa hefyd ar ddatblygu cynulleidfaoedd newydd.

Parodd eu hedmygedd hwy a'u balchder ohoni, yn arbennig wedi iddi ennill ysgoloriaeth i Ysgol Sir Caernarfon, iddi gredu yn ei gallu i gyrraedd unrhyw nod a osodai iddi ei hun.

Fedra i moi ddioddef e." Roedd hi'n gwybod yn iawn ar beth y cyfeiriai ond dewisodd ymddangos yn ddiniwed, "Balchder?" meddai.

Felly, nid balchder yn ei hynafiaid nac unrhyw awydd i sefydlu cyff breiniol iddo ef ei hyn a'i dylwyth o gyfnod Gruffudd ap Cynan ymlaen oedd yr unig fwriad a goleddai Syr John Wynn pan ysgrifennodd ei History of the Gwydir Family.

Wrth weld yr Ymennydd Mawr yn dynesu trodd y Cripil ei lygad chwith mewn rhyw gymysgedd addolgar o drueni a balchder i edrych arno.

Taranodd o'r newydd yn erbyn "Latin, Logic, a Gentility% a "balchder baboonaidd" yr Offeiriadaeth.

Ym marn yr adolygydd, gwendid dramatig oedd diriaethu syniadau o'r fath ar lwyfan yng Nghymru: 'Y mae eisiau llawer mwy o berswad nag a geir yma ar unrhyw gynulleidfa o wrandawyr fod rhinwedd yn y balchder aristocrataidd.' Proffwydodd, er hynny, fod y ddrama yn dynodi 'cam yn nhyfiant meddwl anghyffredin iawn, fel y caiff Cymru weled eto.' Yr oed y pegynnu rhwng Gruffydd a Lewis yn amlwg.

Rydw i'n fodlon anghofio amdano ond peidiwch, da chi â gwneud sioe o'ch balchder chi.

Dechreuodd balchder gorddi Pamela a phenderfynodd na châi neb dorri cwrls hardd ei genethod a'u gwneud i edrych fel plant oedd yn cardota ar y plwyf.

Mae'r arholiadau yn cael eu cynnal o dan nawdd Cymdeithas Ryngwladol i Athrawon Dawnsio ac ar y Noson Wobrwyo roedd saith deg o blant ac oedolion yn derbyn eu gwobrau gyda balchder.

Gweld urddas a balchder rhai o'r cenedlaetholwyr yn wyneb caledi ail-enedigaeth gwlad; sylwi ar siacedi lledr a bysedd modrwyog cyfoethogion y farchnad ddu; clywed recordiau Americanaidd yn dôn gron ddiddiwedd ar radio gyrrwr ein car.

Ac er mai cenedl sy'n dioddef brad ac ymosod arni yw cenedl y Brytaniaid, eto ceir digon o ogoniannau Brytanaidd yn yr hanes i swcro balchder y Cymry.

Nid balchder barodd i Bantycelyn ganu, "Dyn dieithr ydwyf yma," ond gwyleidd-dra.

Er hynny, yr oedd y llyfrynnau bach hyn , heb sôn am rai mwy uchelgeisiol, yn magu balchder yn y Gymraeg.

Roedd yn destun balchder yng Nghuba fod y wlad fechan wedi gwneud mwy i liniaru dioddefaint plant Chernobyl na holl wledydd y Gymuned Ewropeaidd.

Diau i'r balchder Seisnig newydd ddylanwadu ar yr uchelwyr ymhlith y milwyr Cymraeg.

Ac yn y rheolau sy'n dilyn, gwaherddir torri addewid, amharchu'r Saboth, glythineb mewn bwyta ac yfed, gwisgo dillad ffasiynol sy'n meithrin balchder, anlladrwydd a gwastraff.

"Mae'n dyled ni'n fawr i'n ffrindiau o'r Almaen," meddai, â balchder lond ei lais.