Dichon ei fod yn gwybod mwy o ganeuon a baledi Cymraeg na neb a adwaenem, a daliodd i'w canu yn y tafarnau ac ar hyd yr heolydd hyd y diwedd .
Gwyddys hefyd fod canu baledi yn weithgarwch poblogaidd ymhlith rhai o drigolion y dyffryn, a'r rheini'n aml yn wŷr a brofodd ddyddiau gwell, megis Evan Nathaniel, brodor o'r Alltwen yn wreiddiol, a fu'n crwydro'r cymoedd yn canu a gwerthu baledi.