Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

balet

balet

Diffinir y cae yn y cefn mewn strociau tew cyllell balet, y blaendir ag ysgubiadau lletach a mwy fflat, ac yna ar gyfer yr awyr gwaith brwsh yn sgrwbio'r paent yn fflat.

Mae'r das yn y canol yn cael ei diffinio'n llwyr gan strociau o baent, amrywiol eu lliw, wedi eu sodro'n dew â chyllell balet, ac yn gwthio'r ddelwedd tuag at yr edrychwr.

Ym 'Melin Adda, Amlwch' mae paent yr awyr wedi ei osod yn ffyrnig â chyllell balet nes bod y cymylau'n edrych fel petaent wedi eu cerfio, eu ffurfiau deinamig yn cau am y felin a'r beudai, yn gymheiriaid i ffurfiau'r tir.