Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

baned

baned

Yn ardal Dolgellau hefyd, mae yna gyffro wrth i bobol edrych yn fanwl ar bob wyneb dieithr rhag ofn i Richard Gere neu Sean Connery alw heibio'r National Milk Bar am baned rhwng ffilmio golygfeydd o'r epig Arthuraidd, First Knight.

Cawn baned o goffi a mygyn tra'n disgwyl i'r glaw fynd heibio.

Tyd, mi gei baned gnesol a bechdan grasu ac mi ddoi di wedyn, fyddi di ddim yr un un.

Cawsant baned o de cyn troi am adra.

Tywalltais innau baned o de cryf iddi a rhoi dwy lwyaid o siwgr ynddo.

Cofiais y geiriau a sgrifennodd ar gopi o gerdd arall, ar sgio traws gwlad, a gyflwynodd imi dros baned yng ngwesty Filli, ar ol imi ddarllen iddo fersiwn Gymraeg o'i gerdd i'r Verstancla: 'In buna algordanza a nos tramagl' (coffa da am ein cyfarfod).

"Bobol annwyl!" meddyliodd yr hen wraig, gan dynnu'r cwrlid yn fwy clos dros ei chlustiau, "Pwy uffarn sydd yna yr adeg hon o'r dydd?" Gan mai ei bwthyn hi oedd yr adeilad cyntaf yn y pentref o gyfeiriad y môr, roedd Morfudd wedi hen arfer bellach â dieithriaid yn galw heibio i holi'r ffordd, neu i fegera am baned o de a chrempog.

Diolch am y baned a'r mins pei ar y diwedd.

Galw heibio pabell yr Undeb am baned a phrynu copi o'r Cyfansoddiadau buddugol.

Yn weddol fuan, dechreuodd rhai o'r rhieni gymryd diddordeb a'n gwahodd i'w hystafelloedd am baned a sgwrs.