Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bapur

bapur

"Siop bapur newydd a baco'n unig oedd hi pan gychwynnais weithio yma i Huws a Roberts.

Gallai argyhoeddi unrhyw Gymro fod Yr Ymofynnydd yn unigryw ac yn werth ei dderbyn a'i ddarllen, gan mai hwn oedd 'misolyn hynaf y genedl', heblaw'r ffaith mai hwn oedd yr unig bapur y gellid ei gyfrif yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur, ac yn hollol agored i bawb, heb erioed gau clo ei gloriau yn wyneb neb, boed Drindodwr, Undodwr, amheuwr neu anffyddiwr.

Fe roddodd ddarn o bapur yn fy nwylo a'r geiriau arno 'It gives me great pleasure to be here again in Wales'.

Dangosydd yw enw cemegwyr ar bapur litmws.

Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.

Gwelwn yn glir o'r siart uchod bod y siop bapur newydd/siop bentref yn allweddol i werthiant cylchgronau Saesneg yn hytrach na'r siopau llyfrau a siopau megis Smiths a Menzies.

Yr oedd y posteri i hysbysebu'r cyngerdd yn artistig tu hwnt; y cwbl ar bapur wedi ei ddwyn a'i smyglo i'r gwersyll.

A phan ddirywiodd ei iechyd, roedd bron yn gymaint o boen, hyd yn oed i'r 'nhw', â brad y siopwr o Brifweinidog a werthodd ryddid Tsecoslofacia am ddarn o bapur diwerth.

Rhwng canghennau coeden arall y mae tynnwr lluniau yr El Chubut wedi clwydo yn chwilio am y llun gorau i'w bapur.

Ar amrantiad rywbryd ar ddarn o bapur yn rhywle, digartrefwyd ardal gyfan.

Cyn cychwyn, roedd John Griffith - `Y Gohebydd' i ddarllenwyr Y Faner a phawb arall - wedi gosod ei fwriad ar bapur, gyda'i gymysgedd arferol o gyfeiriadau Beiblaidd, ebychiadau Saesneg, a Chymraeg cartrefol, byrlymus.

Chwarddodd Dan yntau wedi iddo ddarllen yr hysbysiad: 'Drwy i ddwr dorri i mewn a difetha'r stoc o bapur yn y seler, nid ymddengys Yr Utgorn yr wythnos hon.

Pan ymwelodd Mrs Thatcher a Rwsia fe groesawodd Mr Brezhnev hi, medden nhw, drwy ddarllen yn llafurus y brawddegau a oedd wedi eu rhoi ar bapur ar ei gyfer.

Caeodd y drws a sylwi ar dri llythyr a darn o bapur ar lawr y cyntedd.

Estynnodd Mr Puw ddalen o bapur o'r cwpwrdd a'i rhoi i Llio.

Ymlaen â hwy wedyn i swyddfeydd y wrdd Masnach yn Whitehall, lle rhoddodd Llywydd y Bwrdd, sef Sydney Buxton, restr o gwestiynau iddynt i'w hateb ar bapur - fel petaent yn ddisgyblion ysgol yn sefyll arholiadau!

Fel y gwyddost ti, mae 'na bapur arall yn y dre' 'ma, ond maen nhw wedi methu dwad â fo allan wsnos yma - pibell wedi byrstio yno a'r dwr wedi difetha'u papur nhw.

Amddiffynodd Hughes ei arddull cyn i'r cyhuddiad gael ei wneud ar bapur, beth bynnag: "...nerth ac anwadalwch, a dyfnder yr argyhoeddiad ar fy meddwl fy mod yn amddiffyn y gwirionedd, yn unig a bair i mi lefaru gydag eofndra a hyder, a lle y tybiaf bod genyf y gwir, yn y peth y mae y rhai a hoffaf wedi methu ei ganfod, cydnabyddaf y rhodd, a gostyngedig ddiolchgarwch a gau allan ymffrost", meddai.

Ychydig o ddatblygiad syniadol oedd yn y llythyron gyhoeddodd Hugh Hughes yn ei erbyn yn y Seren Ogleddol o'u cymharu â'i ysgrifau yn Seren Gomer bum mlynedd yn gynharach, ond cafodd le yn ei bapur ei hun i'w hegluro'n llawn ac yn fanwl.

Synnwn i ddim na fyddai plant heddiw yn mynnu cael eu cwnsela cyn - ac yn sicr ar ôl - gwneud y daith hir i'r siop bapur i ganfod eu canlyniadau a chael eu cywilyddio weithiau yng ngwydd gwlad.

Hysbysodd swyddog y tollau na chaem fynd ymhellach oni fedrem ddangos darn o bapur gan y meindars i brofi nad oedd ein ffilmio wedi torri unrhyw reolau.

Eisteddai'r hen ŵr yn ei hymyl, yn edrych ar ei bapur ac arni hithau bob yn ail.

Cymerodd eu harian heb ddweud diolch, a heb godi ei ben o'i bapur hyd yn oed.

Ond y bore hwnnw, pwy welodd o ond Seimon yn sefyllion y tu allan i'r siop bapur.

Yn wir, ymddengys y defnyddir mwyfwy o bapur yn sgîl dyfodiad Technoleg Wybodaeth, a hynny'n aml yn bapur ffres.

Anwybyddwyd realiti oherwydd nad oedd yn cyd-fynd a'r hyn a oedd yn ysgrifenedig ar bapur - sef yng ngweithiau cysegredig Marx a Lenin.

A'r ail gyfnod yr oedd a fynnai W J Gruffydd yn ei bapur i Urdd y Graddedigion, ac â Dafydd ap Gwilym yn fwyaf neilltuol; yn wir, iddo ef, Dafydd ap Gwilym oedd yr arwydd benodol gyntaf yn dangos ddyfod o'r ail gyfnod i lenyddiaeth Gymraeg.

Y mae Egin yn bapur newydd dyddiol â chylchrediad o ryw 50,000.

Ac mae Gruff yn dal i gwyno fod y peli bach yna o bapur arian bob lliw mae o'n eu darganfod yn y gwely yn 'i gadw fo'n effro'r nos ac yn mynd i mewn i'w byjamas o.

Mae honna'n un enghraifft o'r stôr o straeon sydd gennyf ar bapur ac ar fy nghof.

Nid mewn diniweidrwydd colomennaidd y mae darllen disgrifiad y lilith o fferm boed y disgrifiad hwnnw mewn papur newydd neu ar bapur ffwlsgap.

Pan gynhaliwyd gwyl genedlaethol yn Llanbed y tro diwethaf - yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984 - cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bapur o'r enw CYMRU 2000. Ein dadl ar y pryd oedd y gallasai cymunedau naturiol Cymraeg fod wedi diflannu ymron erbyn troad y ganrif, er y byddai dros 400,000 o unigolion yn dal i siarad Cymraeg.

Yn absenoldeb technoleg bu'n rhaid defnyddio darnau o bapur er mwyn cofnodi yr hyn a ysgogodd pobl i ymwneud â'r Gymdeithas yn y lle cynta'. Bu'r grwp yma hefyd yn edrych yn ôl ar brotestiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus - a chafwyd ychydig o chwerthin wrth glywed gan Siân Howys am y brotest waetha' a fuodd hi ynddi erioed - dim ond hi ag un dyn bach arall yr y stryd yn yr Wyddgrug.

Yn ystod blynyddoedd y rhyfel ei hun llwyddodd y Blaid i gyhoeddi, nid yn unig ei dau bapur misol yn ddi-fwlch, ond hefyd dri ar ddeg ar hugain o bamffledi.

Wedi llofnodi darn o bapur, meddai: 'Ewch, a pheidiwch â dod 'nôl yma byth eto.'

Fedrwch chi wneud silŵetau adar allan o bapur du i'w rhoi yn y ffenestr?

Yn ystod y pwl chwerthin a ddilynodd ffraethineb ysblennydd yr athro taflodd gip slei ar y ddalen bapur o dan y llyfr gwaith.

O ganlyniad, caiff y plant fwy o gyfle i'w mynegi ei hunan ar lafar ac ar bapur mewn amrywiaeth o foddau, gan gynnig deunydd crai i'w ddadansoddi a'i gywiro ......

Roedd ganddynt bapur newydd Cymraeg, "Seren y Dwyrain".

Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley bapur dwy-ieithog yn hawlio'r dreth leol oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, a Chymraeg y bil lawn cystal â'i Saesneg.

Tynnodd allan barsel taclus o bapur newydd.

Fe'i gwele~ yn dod a llwyddais i guddio r,~ poteli fel na fydde ganddo'r darlun yn ei bapur newydd y diwrnod wedyn danlinellu'r beirniadaethe cyson oedd yn y papure arn y GwyddelodSylwodd y dorf ar yr hyn wnes i ac fe ges i gymeradwyaeth aruthrol.

Gofynnodd yr aelodau am i bapur polisi ar fater Cyflogaeth a Datblygiad Diwydiannol gael ei baratoi a'i drafod cyn i unrhyw bolisiau gael eu cynnwys yn y Cynllun Lleol.

Cyfraniad pwysig oedd hwn o gofio mai golygydd oedd i bapur yr henoed a chylchgrawn yr Undodiaid, dau ddosbarth o bobl a dueddai 'gael eu damsgen dan draed', chwedl ef.

Mae hybu darllen yn rhan hanfodol o unrhyw strategaeth i hybu'r iaith ac nid oes unrhyw amheuaeth o werth darllen fel ffordd o feithrin hyder mewn pobl i ddefnyddio'r iaith ar bapur yn ogystal ag ar lafar.

Mae patrymau prynu cylchgronau yn eu hanfod yn wahanol i batrymau prynu llyfrau (y prynu rheolaidd pob wythnos, pythefnos, mis neu chwarter), ac felly mae'r elfen leol ar ffurf y siop bapur/bentref yn bwysig iawn.

Wedi i'r undebwyr nodi eu hatebion ar bapur, croesodd un o brif weision suful y Bwrdd yr heol i Downing Street, i hysbysu'r Prif Weinidog am safbwynt yr undebau.

Ysgrifennais ar ddarn o bapur 'Mae'n bleser mawr i mi fod yma eto yng Nghymru'.

Hoffwn ei arddull gartrefol, ac aeth i drafferth i ysgrifennu nodiadau ar bapur i mi.

Yn ogystal, rhith, i raddau helaeth, yw'r weledigaeth o "swyddfa ddi-bapur".

Ychydig oedd yn fodlon rhoi eu pwt ar bapur ond bu'n destun trafod ymhlith amryw gan gynnwys un dosbarth Ysgol Sul.

Crynodeb byr yw'r canlynol o'r newyddion a gefais wrth bori trwy ddau bapur newydd yn unig y bore yma: Bavaria - tân wedi'i gynnau'n fwriadol mewn tþ a oedd yn gartref i deuluoedd Twrcaidd.

Cyn inni ddechrau ffilmio fe gerddais o gwmpas ar fy mhen fy hun, ac, yng nghornel fy llygad, gwelais ddarn o bapur ar ochr un o'r tyllau mawr.

Yr ydych erbyn hyn, gobeithio, wedi dod yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r darnau'n symud, ac â'r ffordd o gofnodi ar bapur yr holl symudiadau mewn gêm.

Cyhoeddwyd rhai ohonynt--stori'r 'Pysgodyn Mawr' ac eraill yn Canrif y Chwarelwr, ond y mae llawer eraill nas rhoddwyd ar bapur eto.

Y mae nifer o brosiectau yn ymwneud â hyrwyddo darllen yn y Gymraeg ar waith, sef atodiad ieuenctid i Bapur y Cwm, sef y papur bro lleol, wedi ei gynhyrchu gan blant a phobl ifainc y Cwm.

Honnai mai hwn oedd 'unig bapur Crefydd Rydd yng Nghymru'.

Gwelwn fod meddwl Delwyn yn gweithio fel melin bapur.

Un bore, er enghraifft, darllenodd pobl Libya yn yr unig bapur newydd a ganiateir yn y wlad fod eu harweinydd wedi penderfynu newid enwau'r misoedd.

Anaml y mae'r fath beth yn digwydd ac fe ddywedir gan 'wyr y wasg' bod hynny'n arwydd o fodlonrwydd ac mai dim ond pan geir gwrthwynebiad ac anghytundeb y daw ymateb i bapur newydd gan mwyaf.

sylwodd debra fod rhywun yn eistedd yn sedd flaen y car, ond doedd hi ddim yn gallu ei weld e'n iawn am fod ei wyneb wedi ei guddio y tu ôl i bapur newydd.

Hynny a'r neges o gyfarch ar bapur tŷ bach 'wrth y bachan iaith Gymrâg 'cw yn y rhes gyferbyn ...

Trwy wyth mlynedd ymdrech Mrs Beasley, un Cymro arall yn y dosbarth gwledig a ofynnodd am bapur y dreth yn Gymraeg.

Sylwodd Joni mai The Sun oedd ei bapur yntau.

Rhyddhawyd hi efo darn o bapur yn ei gwysio i ymddangos yn Llys Ynadon Rhos Goch ymhen y mis.

Mae'r peiriant yn llyncu'r cerdyn ac yn poeri tipyn o bapur allan.

Yr hyn a wnaed oedd rhoi bwndeli o slipiau bach o bapur, a'r Cyfamod wedi ei argraffu arnynt, i gefnogwyr a'u hannog i'w dosbarthu a chael cenwau arnynt yn y gwaith, y siop, yr ysgol ac ati.

Dywedodd un o arweinwyr Cymdeithas y Gweision Rheilffyrdd yn Llanelli, sef Jack Bevan, gofalwr arwyddion o Hanner-ffordd, wrth bapur lleol: '...' .

Nid deddf ar bapur yw polisi ond rhywbeth sy'n cael ei adolygu'n barhaus yn sgil profiad ymarferol.

A mwy na ffromi: ysgrifennodd y papur gorau ar hanesyddiaeth a feddwn yn y Gymraeg, sef ei bapur ar 'Yr Apel at Hanes'.

Yr oedd yr ymateb i'r llythyr, yn ôl y golwg, yn siomedig dros ben; yn bersonol nid wyf wedi clywed iddo ymddangos mewn unrhyw bapur.

Ond, fel yr oedd fy nychymyg yn tynnu llun Paradwys ar ganfas fy meddwl, sylweddolais bod y trÚn yn arafu, a'm cyddeithiwr ar ei ffordd tua'r drws, ac wedi gadael ei bapur newydd ar ôl i mi.