Yn ôl yr hen Asteciaid; duw'r aer, Quetzalcoatl - leciwn i ddim bod yn fam iddo fo yn gweiddi arno fo o ben drws cefn tū am i swpar - ddaeth â hadau'r goeden Cacao o Baradwys i'r ddaear.
Ond a ydyw unrhyw Baradwys yn hollol berffaith?
Ac i baradwys wen brenhines y weirglodd y camasom o'r tywyllwch.
Y mae'r syniad o Baradwys mor aml â blas, a gallu dyn, a'i ddychymyg i feddwl a breuddwydio am y lle perffaith iddo ef ei hun.
O, na yn wir, mae'n rhaid i Baradwys barhau am byth, oherwydd fyddai bywyd byth yr un fath ar ôl profi perffeithrwydd.
Mehefin gwlyb ar ôl Mai oer - bydd yr hydref yn baradwys i'r ffermwr.
Roedd ardal y Sahel, sydd yn union i'r de o'r Sahara, yn arfer bod yn baradwys i'r adar ar ôl croesi'r fath ddiffeithwch, ond mae ardal y Sahel erbyn hyn yn brysur droi yn ddiffeithwch ei hun ar ôl prinder glaw am flynyddoedd.
Wel, cawn weld hanes y Baradwys Pythefnos yma!