Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barhaodd

barhaodd

Daeth diwedd y rhyfel heb i Hadad wybod dim am y peth oherwydd fe barhaodd gwrthryfel y Senwsi nes daeth rhyfel byd arall i wthio'r Eidalwyr o'r arfordir ac o'r oasisau yr oeddynt wedi eu meddiannu.

Yn draddodiadol Uladh (neu Wlster) oedd cadarnle'r Wyddeleg, ac fe barhaodd hyn wedi'r ymsefydliad Protestannaidd.

"Taith mewn dau dacsi, dau fws, dwy awyren ac un picyp a barhaodd 35 awr ac yr oeddwn wedi cyrraedd y Gaiman," meddai Dafydd.

Pedair blynedd a barhaodd hwn er hynny gan i long y cwmni suddo mewn storm enbyd gerllaw Lerpwl ac oherwydd hynny daeth terfyn ar yr holl weithgaredd.

O'r holl Geltiaid y Cymry yn unig a fedrai ddarllen eu hiaith - efallai eu bod yn unigryw yn Ewrop yn hyn - a chan hynny hwy yn unig ymhlith y Celtiaid a barhaodd i gynhyrchu llenyddiaeth gyfoethog.

Cychwyn y cylchgrawn heddychlon Y Deyrnas (a barhaodd hyd 1919).

Wedi ymdrech a barhaodd am flwyddyn, a chreu chwerwder mawr, daeth streic y glowyr i ben ym mis Mawrth.

Nid oedd dewis ganddynt ond cydnabod goruchafiaeth y picedwyr, gwarchod y ddau drên ynghyd â theithwyr y Cork Express a waharddwyd rhag mynd ymhellach, ac ymuno yn y canu a'r difyrru a barhaodd ar hyd y nos.

Ar wahân i leiafrif bychan (un o bob saith neu wyth) a barhaodd yn gadarn yn eu hymlyniad wrth y Ffydd, yr oedd y mwyafrif llethol yn 'faterolwyr rhonc', yn ôl Edward J.

Cafodd hwb gan ryfeloedd Napoleon, a barhaodd am bron i chwarter canrif.