Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barhaus

barhaus

Cerddi ychydig yn fwy cofiadwy i mi oedd y rhai am y Gymru gyfoes.Mae Croesawu'r Cynulliad yn felys chwerw ei naws wrth i'r bardd gymharu sefyllfa o lawenydd yn ein gwlad ni a sefyllfa boenus barhaus Iwerddon.

Dydi rhywun ddim isio codi cnecs yn barhaus ar yr aelwyd; rhwbath am heddwch ydi hi fel rheol, yntê?

Ni all anifail tir gael gwared ag amonia fel hyn yn barhaus; rhaid iddo yn gyntaf drosi'r nwy i rywbeth arall nad yw'n wenwynig, megis wrea a ysgerthir trwy'r arennau.

Cofier fod Mawrth ymhellach oddi wrth yr haul na'r Ddaear ac o'r herwydd mae tymheredd arwynebol Mawrth oddeutu rhewbwynt dŵr yn barhaus, er mai'r unig dystiolaeth bendant sydd ar gael o fodolaeth dŵr arni yw yng nghyffiniau ei dau begwn.

Disgwylid i'r pen-cantor breswylio'n barhaus yn y clas-eglwys.

Yr oedd amryw o adeiladau'r gofaint yn rhy gyfyng i gael ceffylau dan do i'w pedoli, a gallai'r gof felly fod i mewn ac allan yn barhaus, bydded y tywydd y peth y bo.

Anaml y gwelid ef yn sefyll yn bwyllog yn ei unfan, am y byddai'n gwingo'n barhaus.

Yn ogystal â dimensiwn y dderbynfa, a dimensiwn y swyddfa, lle mae disgwyl i bersonau ymateb i aelodau o'r cyhoedd yn eu dewis iaith, y mae angen cydnabod fod yn y sector cyhoeddus ddimensiwn y stafell ddosbarth, lle disgwylir ymateb personol gan bersonau sy'n gweithio wyneb-yn-wyneb â'i gilydd gan ymateb yn barhaus i ddewis iaith ei gilydd.

Yn ôl y bardd Waldo Williams yn y gerdd "Anatiomaros," fe lifa Cariad Duw o wythi%en mewn craig yn barhaus i'n cynnal: .

Rydw i â 'ngolwg yn barhaus ar betha 'mhlentyndod y dyddia hyn.

Geilw'r Pwyllgor am gadw addysg yn wasanaeth barhaus i blant, pobl ifanc ac oedolion, sy'n atebol i'r gymuned gyfan, sy'n cydnabod ei hanes a'i thraddodiadau ac sy'n fyw i'w dymuniadau a'i hanghenion ar gyfer y dyfodol.

Cyfuniad yw o ddeialog naturiol, ymson a llafarganu, sydd yn galluogi'r awdur i dynnu sylw yn barhaus at y ffordd y mae agweddau gwahanol ar fywyd ei gymeriad yn cyd-wau a chyd-daro.

Ond ei rhinwedd mwya' oedd ei bod hi yno'n barhaus.

Merch fach Huana oedd hi, yn mynnu herian y ddau fachgen yn barhaus.

Y mae modd adnabod tri chyfnod o addysg: cyfnod addysg cyn- statudol, cyfnod addysg statudol, a'r cyfnod addysg ôl statudol sy'n cynnwys addysg bellach, addysg uwch ac addysg gymunedol barhaus, a'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu Cymraeg gan oedolion yn brif ystyriaeth ynddo.

Arnbell dro fe ddywedai hanes yr heicwyr a'r dringwyr a ddeuai'n barhaus at ddrws ei fwthyn i ofyn am gysgod neu ddwr poeth--"Tydw' i'n trystio'r un diawl ohonyn' nhw, wyst ti.

Roedd meddyliau fel hyn yn dyfod inni'n barhaus ac yr oedd gennym amser iddynt ddyfod gan nad oeddem yn gweithio yn ystod y cyfnod hwn.

Swyddogaeth PDAG yw cynnig arweiniad i'r system ar sut i hwyluso'r fath ddarpariaeth gyd-lynus, ar gyfer plant yn eu blynyddoedd cynnar trwy'r system statudol a'r colegau, i'r addysg barhaus ar gyfer oedolion yn eu cymunedau.

Anogwyd aelodau'r coleg i offrymu gweddi%au'n barhaus dros enaid y Brenin Edward I, yn ogystal ag eneidiau ei hynafiaid a'i ddisgynyddion.

Awdl ragorol am y ddeuoliaeth ym myd natur, am y frwydr barhaus rhwng goleuni a thywyllwch.

Yn sgil y system bresennol, mae'r drefn o fonitro cynlluniau iaith yn aneffeithiol ac yn anymarferol i'w chyflawni, a chanlyniad hyn oll yw fod rhaid cwyno yn barhaus neu fodloni ar wasanaeth anghyflawn ac annigonol yn aml.

O hynny ymlaen, roedd hi'n frwydr barhaus i reoli rhagfarnau.

Cyfeirient yn barhaus at 'rywbeth' arall ar wahân i grefydd fel cyfrwng i sefydlu trefn amgenach.

Mae'n amlwg o brofiad fod hynny'n digwydd yn barhaus yn y byd gwyddonol cydwladol.

Ac o glywed am achosion yn cael eu dirwyn i ben yn barhaus, onid aeth gwerthiant tai Capel ac addoldai yn gryn fusnes erbyn hyn?

Mae'n amlwg oddi wrth ei holl gynnyrch, er gwaethaf ei barch at reswm, at drefn, at ffurf mewn bywyd a chelfyddyd, nad pleidiwr llythyren farw'r ddeddf ydyw o gwbl, oherwydd mae'n barhaus yn herio'i gymeriadau i gamu y tu hwnt i gylch cyfyng eu harferion traddodiadol a gweithredu'n greadigol er mwyn meddiannu gwirionedd uwch.

Erbyn hyn daw'r newyddion yn barhaus am fandaliaeth a diffyg parch at ddyn ac eiddo.

Mewn bywyd beunyddiol, yr ydym yn gorfod cyfarfod â sawl un i ryw berwyl neilltuol mor barhaus nes ein bod yn anghofio cwrdd â'r dyn fel person; fel dyn a dim arall.

Nid deddf ar bapur yw polisi ond rhywbeth sy'n cael ei adolygu'n barhaus yn sgil profiad ymarferol.