Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barnu

barnu

Ac er y gellir barnu bod y dro%edigaeth ysbrydol yn un gonfensiynol iawn, y mae profiad o'r fath yn llawer llai dibynnol ar gyfundrefn resymegol y mae'n rhaid ei gweithio allan yn ofalus, ac mae hefyd yn nes at draddodiad y nofel Gymraeg y dylanwadwyd arni i gymaint graddau gan y cofiant.

Datganaf eto mai hanes fydd yn ein barnu.

Gellir barnu i ba raddau mae'r ysgol yn llwyddo i ddatblygu'r dimensiwn Cymreig a'r themâu trawsgwricwlaidd drwy ansawdd dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau disgyblion fel yr arddangosir hwy mewn gwersi ac yng ngwaith y disgyblion.

Rhaid cyfaddef nad ydym yn cael cnwd trwchus ers rhai blynyddoedd bellach ac mae'r sawl sydd yn barnu eu bod yn gwybod, yn beio'r effaith tū-gwydrol y mae llygredd y Ddaear yn ei gael ar y tywydd, am hynny.

Ac felly, nid wrth ei thlysni y mae barnu llwyddiant set.

Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg roedd rhai gwyddonwyr a naturiaethwyr wedi barnu fod a wnelo mudo o'r dyfroedd croyw i'r môr rywbeth â'r broses, ac yr oeddent wedi cysylltu'r sylw fod llysywod bach yn dod o'r môr i fyny'r afonydd bob gwanwyn â'r broses o symud i lawr i'r môr.

Mae'n amlwg fod yr ychen yn hynod o lonydd bryd hynny a barnu wrth y ffordd roedd yn dal y pen!

Mewn un dydd y daeth ei phlâu hi; o blegid cryf ydyw yr Arglwydd Dduw, yr hwn sy'n ein barnu ni.

Cawn un ag oll ein barnu gan hanes.

Gellid barnu hefyd iddo dderbyn magwraeth Gristnogol drwyadl.

Toc, clywn siffrwd traed yn tuthian ar draws y leino o'r tu ôl, ac yn sydyn dyma drywaniad yn serio drwy fy meingefn, ac ar yr un eiliad yn union y meddyg yn bloeddio 'Sori!' Rwy'n barnu mai honno oedd y boen corff fwyaf dirdynnol a brofais erioed.

Roedd yn bymtheg oed ac roedd ei fam yn barnu ei fod yn tyfu'n ddyn ifanc hardd, cryf.

Yr oedd cyfarwyddiadau Emli'n burion: tro ar y chwith wedi mynd heibio'r eglwys, yna, ymhen tua dwy filltir, dyma'r Tarw Du i'r golwg, lle pur boblogaidd a barnu wrth nifer y ceir a oedd yn ei fuarth.

Rhyfeddach fyth i dipyn o synig a oedd i raddau y tu allan i bethau oedd gweld cefnogwyr gweithredu uniongyrchol yn barnu mai cyflwyno a chadarnhau cynnig ffurfiol mewn Cynhadledd Flynyddol oedd y cam beiddgar cyntaf y dylent ei gymryd.

Y bennod yr ymddiddorodd Peate fwyaf ynddi (a barnu wrth y dyfyniadau mynych a gododd ohoni yn ei waith diweddarach) oedd y ddegfed, 'Soul-Making', lle y ceisiodd Murry dreiddio i seiliau metaffisegol estheteg Keats.

Anodd iawn yw barnu.

A dyna ddiwedd ar y sgwrs; doedd dim barnu i fod.

A barnu oddi wrth yr ohebiaeth, rhaid bod HR Jones wedi ymgymryd â llawer o'r gwaith golygyddol ei hun.

A barnu bod modd atgynhyrchu copi%au ohono'n gyfleus, anodd credu y buasai offeiriaid cyffredin yr oes ryw lawer yn gallach o'u cael.

Yn ychwanegol at hynny, gan ddefnyddio'r meini prawf gwerthuso perthnasol a nodir yn y Fframwaith, dylid barnu rheolaeth pob un o'r pum ffactor a ganlyn ac i ba raddau y mae rheolaeth briodol yn galluogi pob ffactor i gyfrannu at safonau ac ansawdd:

Eithr, hyd y gellir barnu, nid oedd yn ymglywed ag unrhyw groesdynnu.

Ceir pobl eithaf amlwg ac eithaf diwylliedig yn barnu nad oes dim mewn llenyddiaeth Gymraeg sy'n werth ei ddysgu na'i ddiogelu.

'Ef yw ystor cerddorion', 'prydyddion a faeth' medd Dafydd y Coed amdano, 'ei noblau yn fau' medd drachefn am yr 'hael cerddwriaidd', a Dafydd biau'r cyfeiriad tra hysbys at y llawysgrifau a oedd yn ei feddiant: yr Elucidarium, 'Ystoryaeu Seint Greal' (yn ol pob tebyg) ac annales, sef cronicl Lladin neu Gymraeg, fe ellid barnu.

Gan hynny, mae'r prif gynigion yn ymwneud â barnu effeithiau adennill ac asesu gwerth y safle i'r amgylchedd yn ei gyflwr cyn ei adennill.

''Dwi'n barnu'n bod ni ond na fedra' i ddim a bod yn siwr.

Ond nid oedd adroddiad y pwyllgor hwnnw'n ddigon ffeithiol i alluogi'r Pwyllgor Cenhadol yn Lerpwl i fedru barnu wrtho.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi barnu'n llym Araith y Frenhines heddiw (Mercher, Tachwedd 17), gan nad yw'n darparu Deddf Addysg benodol i Gymru.