Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barodd

barodd

Mae'n ffaith bod yn Hong Kong heddiw nifer sylweddol, ymhlith y boblogaeth o bum miliwn a hanner, sydd heb allu siarad Saesneg; dyna gadarnhad o ffyniant yr agwedd herfeiddiol a barodd i'r llywodraethwr Robinson ganrif yn ôl awgrymu bod amharodrwydd Tseineaid Hong Kong i ymseisnigeiddio yn 'rhyfeddol, os nad gwaradwyddus'.

Tân ym moliau Gwylliaid a barodd iddo golli Meirionnydd ac Ardudwy a sefydlu tylwyth Llywelyn ap Maredudd yn y mannau hynny...

Roedd yn ŵr golygus iawn a dechreuodd carwriaeth rhyngddynt a barodd dipyn o helynt.

Gwelsom hyn yn digwydd droeon a thro yn ystod y gêm yn erbyn De Affrica a maen elfen a barodd loes imi.

Yr angen enbyd am ragor o Feiblau yng Nghymru a barodd iddo awgrymu ei sefydlu a'r peth cyntaf a gyhoeddwyd ganddi oedd y Beibl Cymraeg, gyda Charles yn olygydd iddo.

Roedd hi fel yr eiliad pan fydd rhywun yn deffro o hunllef, o fonolog a barodd ddegawdau ym mharc gwallgofdy.

Roedd yn ūr golygus iawn a dechreuodd carwriaeth rhyngddynt a barodd dipyn o helynt.

Grym gweddi a chyffyrddiad y Crist byw a barodd i'r salwch ymadael yn llwyr â'r corff.

Collodd, bum ffrâm i bedair yn erbyn Graeme Dott, mewn ffrâm olaf gynhyrfus a barodd 35 munud.

A'r angen hwn a barodd i Charles deimlo fod yn rhaid wrth gynllun ymarferol i argraffu beiblau Cymraeg ar raddfa fawr a'u cynnig am bris rhesymol i'r tlodion.

Gellir canfod yn y newid mawr a ddigwyddodd yn y lleoedd y bu+m i'n byw ynddynt mai brwdfrydedd a chefnogaeth y rhieni gan mwyaf a barodd fod ysgolion Cymraeg ynddynt bellach.

Yr hyn a barodd syndod i mi oedd y ffordd yr aed ati i godi'r dref newydd.

Effeithir popeth gan y pwyslais newydd ar 'enaid': mae'r profiadau a barodd i'r bardd arddel Iesu fel dyn wedi troi'n foddion iddo ei goleddu bellach fel ymgorfforiad o Gariad ac fel esiampl i'w efelychu.

Dwy flynedd yn unig barodd Colin Lee yn rheolwr Wolverhampton Wanderers.

Yr un modd, diniweidrwydd a barodd iddo gyhoeddi Y Gymraes (neu 'Merched Cymru', yn ôl y pennawd gwreiddiol), ei lenwi â chynghorion doeth ynglŷn â moes a buchedd yn unol â gwerthoedd y dosbarth canol parchus, a chredu y byddai'n apelio at ferched cyffredin.

Trwy ymuniaethu â dyn a chymryd arnoi'i hun holl etifeddiaeth ei bechod a'i gondemniad, cyflawnodd Crist waredigaeth gostus a barodd ei gymodi â Duw.

Nid oedd yn anodd i'r darllenydd craff gyferbynnu'r estheteg a barodd dramgwydd i Gruffydd yn ei adolygiad a 'Gwrthryfel ac Adwaith' yn yr un rhifyn o'r llenor, lle y traethwyd y gred mewn 'Gwrthryfel cynhyddol yn erbyn awdurdod....twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn':

Cythruddodd yr athro beth wrth weled y wen, a'i geryddu mewn modd a barodd i weddill y dosbarth hyd yn oed anesmwytho.

Ei groeso i'r Chwyldro Ffrengig a barodd i Edmund Burke sgrifennu ei Reflections.

Yr hyn a barodd y gofid mwyaf i Elisabeth ai thad-cu oedd bod byddin y Senedd yn cyrchi i Frycheiniog am fod Brenhinwyr Dyffryn Wysg yn bygwth codi a chipio Aberrhonddu.

Ac fe enillodd Pencampwr y Byd ffrâm a barodd am 47 o funudau - oes iddo fe.

Darganfu'r ffordd i'r ystafell fwyta lle y gorfu iddo rannu bwrdd gyda phar ieuanc nad oedd ganddynt fymryn o ddiddordeb ynddo, ond a barodd iddo ddyheu am gwmni merch brydferth.

Dim ond ryw hanner awr barodd y sesiwn y tu ôl i ddrysau cauedig a roedden nhw'n falch o'i chadw'n syml ac yn fyr.

'Rhaid i ti brofi dy hun yn ddyn, trwy deg neu trwy drais.' 'A sut y byddwch chi'n gwybod os bydda i wedi llwyddo?' Pryder ac nid dewrder a barodd iddo ofyn y cwestiwn.

Ac ymhellach, beth a barodd i Simwnt Fychan ddisgrifio plasty newydd un o'i noddwyr yn 'gyflawnder cyfiawnder' a 'derwen o wladwriaeth' os nad ei gred fod cynhaliaeth lawer amgenach na bwyd a llety i'w chael ynddo?

Agor meysydd dysg - dyna sylfaen dyneiddiaeth, a dyna yn y pen draw a barodd orseddu'r ieithoedd brodorol.

Yn ail pan ddaeth Elfed i Fwcle, fe'i gosododd ei hun ar lwybr a barodd iddo dreulio'i oes yn byw mewn dau ddiwylliant a dwy iaith.

Mae'n amlwg mai diwedd y cynnwrf a'r gobaith a oedd yn rhan o wleidydda'r myfyrwyr ar ddiwedd y chwedegau a barodd y loes fwyaf iddo.

Cyfuniad o'r ystyfnigrwydd a'r dymer a barodd iddo droi'n eglwyswr am gyfnod.

Oddi ar 1988 caniatawyd sawl datblygiad newydd a barodd tanseilio amryw o gymunedau Cymraeg eu hiaith oherwydd gwendidau Cylchlythyr 53/88.

Rhesymau addysgol a roddodd y Pwyllgor am ei fwriad i gau'r ysgol a nododd yn ei ddatganiad nad ystyriaethau ariannol a barodd iddo wneud y penderfyniad.

Mae'n anodd esbonio beth a barodd imi ysgrifennu'r llyfr hwn yn fy henoed, ac eto bu'r ysfa a'r dyhead ynof ers blynyddoedd i groniclo gwaith dwylo'r gorffennol yn y cylchoedd hyn, ac i ddarganfod mewn dogfen a chofnod ôl yr ymdrechion i wella amgylchiadau bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Ond glaw a gafwyd, cenllif a barodd i'r ddau garlamu'n ôl i'r pentref a Dilys yn colli sawdl ei hesgid wrth faglu ar y ffordd garegog.

Y drefn a barodd fod tren a thacsi a bws yn cribinio darn gwlad o blant, a'u cludo ddegau o filltiroedd i honglaid o ysgol bell i fwrdd.

Ac a fydd yno rywun ar ôl i sôn wrthynt am yr 'hen ffyddlondeb' a ddangoswyd iddynt yn yr 'anial cras' ac a barodd iddynt anghofio'r cyfyngdera' 'wrth foliannu nerth ei ras'?

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ysgogodd mynyddoedd Gilfach Goch ddarn arall o sgrifennu a barodd dipyn mwy o gyffro trwy'r byd nag a wnaeth Huw Menai: Yma, yn How Green was My Valley Richard Llewellyn, wele gynnig myth a allai gymryd lle admabyddiaeth uniongyrchol o draddodiad.

Aeth Arthur Compton gam ymhellach yn ei lyfr The Human Meaning of Science: " Gwyddoniaeth a Thechnoleg barodd i ddyn fagu'r nodweddion sy'n ei wahaniaethu oddi wrth yr anifail".

Twf anferth y wladwriaeth a'r technegau modern a barodd fod yn rhaid gweithredu'n effeithiol os yw'r genedl i fyw.

Gwnaed hynny'n eglur mewn cyfweliad teledu â newyddiadurwr o'r Eidal, a barodd am ddeunaw awr!

Nid balchder barodd i Bantycelyn ganu, "Dyn dieithr ydwyf yma," ond gwyleidd-dra.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Dywedid mai cael rhyw afiechyd mawr pan yn ifanc a barodd y dull o fyw rhyfedd a gymerodd.

deallwyd mai gofynion y profion darllen a'r angen i sicrhau ystod priodol o ddeunyddiau darllen a barodd i'r asiantaeth gynllunio ar sail pedair haen, ond wedi rhoi ystyriaeth ddyfnach i'r deunyddiau ochr yn ochr â'r haenau, barn y gweithgor oedd y dylid ystyried eto a ellir asesu darllen mewn tair haen.

Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.

Yn nhyb llawer, hwn yw'r mewnwr gorau yn y wlad, ond gorddweud yw hynny: gall amrywio'i chwarae cystal - rhedeg pasio a chicio, ac mai ei gic ef i'r gornel a barodd y trafferth i Gastell Nedd pan sgoriodd Andrew Morgan drydydd cais Llanelli.