Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barrau

barrau

Daeth Myrddin at y barrau haearn yr oedd Geraint erbyn hyn yn ceisio'u tynnu'n rhydd â'i holl egni.

Roedd yna ryw rym yn peri i Geraint gydio'n dynn â'i ddwy law yn un o'r barrau haearn oedd o'i flaen.

Yn sydyn, dyma law arw'n dod i fyny ac yn cau'n dynn am y barrau.

Sylwodd Geraint fod yna ffenestr, neu yn hytrach fwlch bychan a barrau haearn yn ei gau, yn y wal rhwng yr ystafell lle'r oedden nhw a'r nesaf ati.

Gelwid y broses o gynhyrchu'r platiau yn dwymad, ac yr oedd yn rhaid rowlo'r platiau mewn pum part fel rheol, y tew (sef y barrau haearn tew), y senglau, y dyblau, y pedwarau a'r wythau.

Pwysodd yn nes at y barrau haearn a sibrwd: 'Bedwyr!' Pesychodd y dyn, ac ysgwyd ei wallt hir o'i wyneb, ond ni ddaeth ateb.

Edrychodd ar y muriau trwchus, y drws deuglo a'r barrau cedyrn y tu allan i'r ffenestr a gwelodd mor anobeithiol ydoedd.