Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.
Roedd Siad Barre eisoes wedi difa'r hen drefn o lywodraeth yn Somalia, drwy danseilio grym yr hynafgwyr ymhob llwyth - a phan ddiflannodd yr unben, fe adawodd ar ei ôl wlad ar chwâl.