Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

basa

basa

mi geuson nhw row wedyn - Mrs Robaits yn deud y basa hi wedi medru tagu i farwolaeth - ond doeddan ni ddim yn medru peidio chwerthin, roedd o mor ddoniol.

Pe bai Aled yn herio'i ewyrth, mi ŵyr mai ar 'i fam y basa'r diawl di-egwyddor yn bwrw'i lid.

Achos ella y basa fo'n dangos chydig bach mwy o ddiddordeb wedyn.

"O'n i'n gobeithio y basa'r sgerbwd wedi sefyll am ddyddia' ond mi hitiodd hen siel Almaenig o yn ei gefn a'i chwalu."

Ond Morys mi ddeudist y basa ni'n cael lle da fan hyn.

Ddaru hi fygwth y basa'n rhaid i ni gychwyn cerddad.

Mi fuon ni ar hyd lôn Bicall pnawn 'ma, a gweld bod 'na olwg go lew am gnau, a rhai wedi tyfu mor fawr nes basa rhywun yn meddwl yn siŵr eu bod nhw'n barod.

Mae'n ddigon posib y basa'n well gen ti fod yn frecwast i Caligwla na chael dy holi gan honna.

Mi ddudodd hi y basa'n rhaid i ni gyd gymryd twrn ar ei chario hi - un bob ochr, am ei bod hi'n drwm, a Defi John a Jim fuo raid neud gynta.

Fe fyddai'n meddwl heddiw, wrth weld cymaint o ysgariadau, y basa dôs go lew o hiwmor yn help i leihau'r tyndra.

Mi feddyliais wedyn y basa fo'n eitha peth pe taswn i'n cael pysan newydd tra oeddwn i yn y dre, ac mi es i mewn i ryw siop grosar i chwilio am rai.

Ond dwi'n saff, tasa hi wedi trio cerdded allan efo babi y basa rhywun wedi ei rhwystro."

'Sa fo wedi medru'n cicio ni allan, ein hel ni o 'ma'n basa?'