Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

basged

basged

Gwyddai oddi wrth yr ychydig lythyrau a ddilynodd nad oedd pethau'n argoeli'n dda i Lynges Prydain yn India'r Gorllewin - Eistaing, a'r Llyngesydd a'i holynodd, Comte de Guichen, yn gyfrwys, y morwyr a'r milwyr yn anystywallt, afiechydon yn rhemp a llong ugain oed fel y Cornwall yn gollwng fel basged.

Eironi mwyaf Ethiopia yw ei bod yn cael ei hystyried fel 'basged fwyd Affrica'.

Mi ddaethon ni â llond basged fawr o benwaig yn ôl yma efo ni, achos mae hi'n noson gneud pennog picl heno, medda' Anti Nel, iddi gael mynd â nhw allan i'w gwerthu fory.

Roedd ynunion fel cegin ffermdy - dresel, cwpwrdd tridarn, tan agored mewn basged haearn bwrw hanner ffordd i fyny'r wal, a goginiai gigoedd a physgod mewn dull barbiciw, crogai anferth o iau bren ar wal arall ynghyd a phob math o daclau gwneud menyn.

Gorweddai'r ast a'i chenau mewn basged wrth y tân.

Yn ei gôl roedd basged fawr a'i llond o'r teganau pertaf a welsai arnynt, ond doedd gan y bêl ddim munud i'w sbario gan mor gyflym y carlamai yn ei blaen.