Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

basio

basio

Y gwir amdani yw fod ymddygiad o'r fath yn gwbl groes i Reolau'r Ffordd Fawr, sy'n dweud yn eglur y dylai'r carafaniwr fod yn ystyriol o yrwyr eraill, gan adael digon o le o'i flaen i geir eraill dynnu i mewn, a hyd yn oed aros i adael i geir basio os oes angen.

Ac ambell i gyngerdd ar nos Sadwrn i basio'r amser.

Dywedir bod Edward Vaughan yn ormod o ddyn i basio barn ar gaeau ei gymdogion llai llewyrchus.

Ar ryw brynhawn gwlyb fe'm rhoddwyd mewn ystafell ar fy mhen fy hun i basio'r amser gyda thwr o ddisgiau gramoffon.

Beth bynnag arall oedd ym meddyliau'r seneddwyr wrth basio deddfau o'r fath, y mae'n amlwg eu bod am ysbeilio'r Gymraeg a'r Wyddeleg o unrhyw statws cyfreithiol ac i wrthod unrhyw le iddynt ym mywyd gwleidyddol Cymru ac Iwerddon.

Pawb yn sugno fo drwy welltyn o gwpan a'i basio fo o un i'r llall.

Bellach, rwyf newydd basio pentref lle mae criw o bobl fel pe baen nhw'n codi tŷ gwiail mewn modd cydweithredol.

Fe sy'n dal record ceisiau Cymru o hyd gyda 28 ond mae Neil Jenkins bellach wedi hen basio ei record e o gapiau.

Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol felly basio penderfyniad fod angen Deddf Iaith Newydd a pharatoi'r ffordd tuag at ddeddfwriaeth newydd; a hynny cyn diwedd ei dymor cyntaf. Beth alla i ei wneud?

Gan iddi basio'n syth drwodd, doedd 'na ddim posib astudio'r fwled ond fe gawson ni hyd i ddarnau bychain o'r metel ar y siaced.'

Wrth i ni basio drwy'r ysgol fawr i'r ystafell ddosbarth, gwelwn John Jones yn sefyll ar ganol y llawr a'i ddwylo ar ei ben.

Arholi'r sawl a fynnai basio'n gapten neu fet yn Lerpwl oedd gwaith Towson, ac yr oedd gando ddiddordeb mewn datblygu astudiaeth wyddonol o fordwyo.

Aeth Badshah at J. W. Roberts i Sylhet i ddweud fod Nolini, un o'r genethod a fagwyd gan Pengwern, yn honni ei bod hi, wrth basio'r ystafell ymolchi ym myngalo Pengwern tua 9 o'r gloch y nos, wedi gweld y cenhadwr hwnnw'n cusanu Philti.

'Rwan 'ta, Owain, beth am ganu "Dacw Mam yn Dwad" i Guto i basio'r amser nes inni gyrraedd y caffi?' Roedden nhw wedi canu 'Dacw Mam yn Dwad' dair gwaith a 'Mi welais Jac-y-Do' ddwywaith pan welodd Carol yr arwydd oedd yn datgan fod y gwasanaethau nesaf ymhen deunaw milltir.

Gwasgodd ei droed yn ddyfnach ar y sbardun, a wyliodd Gareth mewn anobaith wrth i'r nodwydd basio'r nawdeg a thynnu am y cant.

Yn awr, ni allaf byth basio y siop arbennig hon yng Ngraigy-Don heb feddwl y dylid fod yna rhyw fath o arwyddbais uwch ei phen yn dweud 'By Appointment To The Prime Minister' yn union fel mae rhai ar strydoedd Llundain yn honni 'By Appointment' i'r teulu Brenhinol.

Wedi i ddwy fuwch a dynewad a llo fod yn y beudy trwy oerni'r hirlwm, erbyn dechrau Ebrill, mi fyddai'r tamaid awyr fyddai i'w weld trwy'r drws o'r beudy dros ben y domen yn mynd yn llai ac yn llai a'r llwybr i basio rhwng y drws a'i godre yn mynd yn gulach ac yn gulach.

Daetha 'run ohonyn nhw'n agos i'r bib, ac yr oeddwn i ar fin taflu'r cwbl - fuo fi 'rioed yn chwannog i bys, yn wlych nac yn stwns - ond pwy ddigwyddodd basio ond Wil Robaits.

Roedd llywodraeth De Affrica newydd basio deddf yn dweud na fedrai pobl liw fyw ochr yn ochr â phobl wyn.

Wrth basio'r lle, roedd arnaf ofn siarad gair, a chlustfeiniwn i geisio clywed cri rhai o'r trueiniaid o'r tu mewn; ond, wrth gwrs, heb glywed yr un smic.

Dylid tynnu allan mewn da bryd a sicrhau fod yr uned mewn llinell syth wrth basio.

Meddyliwch am yrru o Fachynlleth i Ddolgellau, a rhes o garafanau yn ymlusgo o'n blaenau, yn cadw'n glos at ei gilydd heb adael lle i neb basio.

Y cof nesaf yw fy mod wedi aros gartref yn y Gaiman ddydd Nadolig, efo Anti, tra'r oedd Mama wedi mynd i Drelew gyda'r plant lleiaf i basio'r W^yl efo Nain.

Mae e'n wael - pan ych chi am basio'r bêl mae'n gallu hobo i bob cyfeiriad, meddai.

Trueni na fedr Simon basio'n well gan ei fod yn gryf ac yn benderfynol wrth ymhyrddio ganol y maes.

Roedd canlyniad yr ymdrech mor amlwg - symud bwyd o gefn hofrennydd i'r blaen a'i basio trwy gadwyn ddynol i storfa'r gwersyll.

Yn aros iddi ymddangos bob hyn a hyn wrth basio bylchoedd rhwng y tai ar ein stad ni.

Wedi i ni basio swyddfa dollau'r Almaen yn ddi-rwystr, cawsom ein hunain yn gyrru rhyw hanner milltir hyd nes cyrraedd swyddfa'r ochr Gomiwnyddol.

O hynny hyd at doriad dydd y bore wedyn, 'roedd trenau'n rhydd i basio trwy Lanelli heb ddioddef nemor mwy na sgrech sarhaus neu garreg trwy'r ffenestr.

Darnau o sgyrsiau pobol eraill mewn gwirionedd achos rhyw ran o frawddeg wrth iddyn nhw basio ydych chi'n eu glywed gan amlaf.

Felly, rhaid canmol gwaith ein Haelod Seneddol, Mr Dafydd Wigley, am iddo gyflwyno mesur yn Nhþ'r Cyffredin ddechrau Gorffennaf eleni, mesur a fyddai, o'i basio gan y Senedd, yn ffurfio Deddf Iaith newydd.

Gwenai ar bawb wrth basio ac 'roedd yn amlwg 'i fod wedi cael cryn dipyn gormod o Siôn Heiddan.

Yn yr un modd, pan fo gallt ar i lawr, newidiwch yn ddigon buan.Cofiwch y byddwch angen llawer iawn rhagor o le wrth basio car arall.

HEULWEN: Mi ddylsen nhw basio cyfreth gwlad 'da dipyn o ddannedd iddi hi i stopio'r fandalieth 'ma unweth ac am byth.

Fodd bynnag, credwn yn gryf y dylai'r Cynulliad weithredu o'r cychwyn cyntaf fel corff sydd yn dymuno ennill yr hawl i basio deddfwriaeth gynradd.

Ar ôl imi basio arholiad y Bwrdd Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, 'roeddwn i'n meddwl bod fy holl ofidiau ar ben, oherwydd tasg go fawr oedd arholiad y Bwrdd.

Gwelais ef a chil fy llygad wrth ei basio, a bu raid i mi stopio'r car, a gyrru'n ol ryw ddeg llath i wneud yn siŵr.

Ond yn rhyfedd iawn nid yw'r anwybodaeth hon yn rhwystro Saeson i basio barn ar werth y diwylliant Cymraeg.

Nid yn unig y mae merched yn well na bechgyn am basio arholiadau ond maen ymddangos bod dynion yn crio, neu wylo, mwy na merched.

Ers rhai blynyddoedd sylwais ar fy nghyfeillion, o basio'r deugain, yn rhuthro allan i loncian neu farchogaeth beic, a chael cryn ddifyrrwch o'u gweld yn eu trowsusau bach yn ceisio rhoi taw ar lais amser.

Cafodd hwnnw ei gadw dan glo, yng nghist galed y pericarp fel y cai ei basio yn gyfan drwy berfedd yr aderyn a'i fwrw i'r pridd yn rhywle arall.

Gwthiais y gwelltyn i'r twll a'i sipian yn braf, yna'i basio ymlaen i Bigw.

Rhonciodd y llong yn waeth nag arfer yr ennyd nesaf, a chlywais lais dyn yn gweiddi'n dorcalonnus yn un o'r cabanau 'roeddwn newydd ei basio.

Gan nad yw'r Cynulliad â'r hawl i basio deddfwriaeth gynradd, pwyswn arnoch i fynnu fod senedd Westminster yn neilltuo amser penodol i drafod Deddf Addysg gyfochrog i Gymru fydd yn gweithredu barn y Cynulliad Cymreig.