Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

batrwm

batrwm

Digon iddo ef oedd cyfuno'i ddamcaniaeth wleidyddol â gweithredu ymarferol ar batrwm diwygiadau amaethyddol George N.

Canu can y cor a wnaeth Elfed, a gwneud hynny'n argyhoeddiadol urddasol; a gosododd ei batrwm yn gynnar.

Mae cudynnau o gymylau porffor yn batrwm symudol trwy'r awyr.

Roedd un prif weinidog wedi mynd eisoes ac roedd dadlau yn y gwynt am batrwm y dyfodol.

Yr her i'r cwrs teledu, y Cwricwlwm Cenedlaethol neu i'r cwrs yn y dosbarth yw symud o batrwm i batrwm mewn modd cyfathrebol.

Fe fyddai taro ar batrwm, ar thema, yn gwneud y chwynnu yn yr ystafell olygu gymaint yn haws i'w stumogi.

Beth am batrwm ieithyddol Llanaelhaearn?

[Cynhwysir enghraifft o holiadur ar gyfer llunio Audit Staffio yn Atodiad ] Cyrsiau - audit a fyddai'n cynnwys gwybodaeth am y posibiliadau o ddatblygu gwahanol agweddau ar addysg Gymraeg yn yr ysgolion a'r colegau; Er mwyn sicrhau addysgu effeithiol byddai angen ymchwil i feysydd hyfforddiant a thechnegau dysgu ar batrwm yr awgrymiadau canlynol: - llunio cynllun hyfforddiant i gymhwyso athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg; - archwilio strategaethau dysgu er mwyn adnabod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg ar batrwm Ysgolion ar Waith a Primary schools: some aspects of good practice; - archwilio'r posibilrwydd o greu strategaethau dysgu gwahanol a newydd yn ôl y galw, ee grwpiau bychain, dysgu o bell.

Fel dyn gyda thorts egwan yn chwilio am gath ddu yn y nos, doedd dim ond un peth yn bosib' - dechrau wrth y traed, sylwi a chrynhoi argraffiadau, gan obeithio y byddai'r rheiny, fel kaleidoscope bach, yn ymffurfio'n batrwm o fath.

O ran hynny, nid yw ysgolion Cymry'n dysgu'r disgyblion fod Gaeleg a Gwyddeleg yn gymaint rhan o batrwm diwylliannol amryliw Prydain â'r Gymraeg a'r Saesneg.

Yr oedd disgrifiadau daearyddol yn rhan o batrwm cyfan hanes, ynghyd ag astudio enwau, hen olion, a hynafiaethau o bob math.

Yn ogystal ag ar y CD arferol, maen debyg y bydd nifer cyfyngedig o 500 o gopïau 7 o'r sengl yn cael eu rhyddhau, ac maen siwr y bydd hi'n werth i chi geisio cael gafael ar un achos mi fydd yna batrwm print teigar arnynt, Grrrrr.

'Rhaid edrych ar batrwm y chwarae.

Perthyn i'r pysgod gêm - yr eog a'r brithyll ac ati mae'r lasgangen (grayling) ond rhyfeddod y rhyfeddodau yw fod ei batrwm epilio a chylchdro'i fywyd fel y pysgod crâs!!

Ychydig a wn i am batrwm y ffurfafen ac ni fedraf enwi ond ychydig iawn o'r sêr.

Ychwanega ei fod wedi dwyn croes ein Harglwydd Iesu Grist ar ei ysgwyddau (sef llun neu batrwm ar ei darian yn ôl pob tebyg) am dri diwrnod a thair noson, a dyma'r enghraifft gynharaf o'r syniad am Arthur yn amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol.

Yn wir, yr oedd ei ddull o chwarae a'i ymddygiad ar y maes yn batrwm i fechgyn ifainc.

Ei batrwm oedd gweithiau fel The Children's Encyclopaedia yn Saesneg.

Doedd oes o gydfyw gyda ffermwr mynydd ddim eto wedi ei dysgu nad oedd llechu rhag curlaw yn rhan o batrwm ei lafur.

Yn wir un o gryfderau mawr y llyfr yw'r iaith - mae'n batrwm ardderchog ar gyfer gwerslyfrau ar unrhyw destun.

Yn sicr, mae'n batrwm sefydlog.

Maent yn batrwm i'r Cymry dienaid na welant yr un gwerth ynddi.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Arwynebol yw'r gwahanu rhwng cenedlaetholdebau gwleidyddol a diwylliannol, a nai%f dros ben yw'r cynllun 'uno gwladwriaethau' ar batrwm 'delfrydol' yr Alban a Lloegr.

Roedd y posibiliadau o gael hyd i waith yn dylanwadu'n drwm ar batrwm traddodiadol oedran plant yn aros yn yr ysgol.

'Roedd Mr Ted Roberts, siop Paragon wedi ysgrifennu llythyr yn batrwm imi, a chofiaf y rhan fwyaf ohono heddiw.

yn wir, ar adegau yr oedd yn amhosibl darganfod unrhyw batrwm i chwarae cymru.

Ffyrdd a newidiodd lawer ar batrwm cymdeithasol yr ardal oedd y rhain, gan rannu yr hyn a fu unwaith yn gymdogaeth hamddenol.

Honna fod ei batrwm ef o chwyldro, y 'Third Universal Theory', yn ffordd ganol rhwng rhwng cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth, ac yn well na'r un o'r ddau.

Ond wedyn ceisid llunio croes hardd ag iddi batrwm arbennig, fel rhai eraill sydd yn Llanddewibrefi ac yn Llanwnnws.

Unir aelodau'r gymundod hon gan eu hanes - sef y profiad o gydfyw am ddwy neu dair mil o flynyddoedd ar y penrhyn a alwn yn Gymru; a hefyd gan ffactorau eraill sy'n cynnwys eu traddodiadau, a'r iaith Gymraeg yn bwysicaf yn eu plith; gan batrwm diwylliannol unigryw; gan sefydliadau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol (yn arbennig eu tîm rygbi), ac, yn awr eto, gan rai gwleidyddol; a chan yr ymwybyddiaeth o'u Cymreictod.

Doedd dim byd i'w weld o'i le ar batrwm bywydau'r bobl yn eu pentrefi newydd: cynhaeaf digonol ac amodau byw cyfforddus.

Geiriau + brawddeg+llun lliw llawn, ar batrwm 'Chambers First Picture Dictionary'

Eto, mae'r patrwm yn wahanol i batrwm y sampl.

Iddo ef neges seml oedd yr Efengyl a gallai fod yn bur bigog ynglyn â diwinyddion a oedd yn sefyll yng ngoleuni gwrandawyr trwy hollti blew'n fympwyol."Take heed", meddai, "of sophisticating the Gospel." Fel y Ficer Prichard, credai Wroth fod gwerth mewn llunio penillion ar batrwm y cwndidau i wneud hanfodion y Ffydd yn gofiadwy i'w bobl.

Y lle cyntaf yn Eifionydd y dywedir iddo brofi ffrwydriad diwygiadol ar batrwm cyfarfodydd y De oedd Golan.

Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.

Y mae i'r plwyf hwn ei batrwm ffisegol yn ei nentydd a'i afonydd, ei ffyrdd a'i ffermydd, ei gloddiau a'i gaeau, ei bant a bryn, ei goed a'i ddrysni, ei lechwedd a'i wastadedd, ei wyndwn sych a'i rosydd corsiog.

Yna ewch at y patrwm llenwi a dewiswch batrwm i lenwi'r petryal.

Yn ddiweddarach perswadiwyd Roger Edwards i sefydlu cyfarfodydd llenyddol lle darllenid, y dadleuid, ac y cystadleuid, cyfarfodydd a fu'n batrwm i gyfarfodydd cyffelyb yn y wlad o gwmpas.