Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bawd

bawd

Ni ddefnyddiai lein ond i gychwyn gwal neu adeilad er mwyn cael y mesur a'r sylfaen--a dyna hi wedyn; dibynnai'n gyfangwbl ar ei Iygad a synnwyr bawd a byddai pob gwal yn berffaith union.

Un...!" Poerodd Morfudd ar ei bawd a'i redeg yn gyflym ar hyd bwâu ei haeliau, o arfer yn fwy na dim arall, gan mai ychydig o flew a dyfai yno bellach.

'Roedd EJ eisoes yn y gwely yn chwyrnu'n dawel, a Debora yn ei llofft yn cysgu, ei bawd yn ei cheg fel arfer, a bysedd y llaw arall yn cydio'n dynn mewn darn o siol dreuliedig.

Kendall, darlithydd yng Ngholeg Addysg Wrecsam yn ddiweddarach, pan ddaeth Cwmni Collins ar y ffôn o Glasgow i'm sicrhau eu bod nhw wedi penderfynu addasu 'Collins' Happy Series', sef Tro yn y Wig, Llyfrau Pen Bawd a Llyfrau Bach y Wlad, yn gyfan i'r Gymraeg ac yn gofyn beth oedd yr archeb?

Felly, ar ôl y ddarlith a'r Disco a'r helcyd i gyd, dydw i ddim uwch bawd sawdl.

Fydd trigolion y Waen Winau ddim uwch bawd sawdl.

Dim ond pryfociwr mawr ydach chi." Cododd ei bawd a'i frathu.

Wedi'r adloniant mwynhawyd bwyd bys a bawd a baratowyd gan gwmni arbennig a phaned yn cael eu gweini gan aelodau'r pwyllgor.

Roedd 'i fraich dde'n estyn o'i flaen e a'r bysedd fel pe baen nhw'n crafangu am rywbeth, a'r bawd yn sefyll yn syth i fyny.

Nid Iolo oedd yr unig ysgolhaig yn y cyfnod hwnnw gyda dychymyg rhamantus oherwydd roedd hi'n ffasiynol i ddisgrifio ffosiliau megis y wystrysen Gryphaea fel 'ewin bawd y Diafol'.

Roedd Joni wedi cael cymaint o fraw fel na allai symud na bys na bawd.

Safai chwe thþr cadam, gydag wyth ochr i bob un, yn onglau muriau'r ddwy ran gyntaf ac o doeau'r tyrau hyn ymwthiai tyredau bychain yn wirion, fel bys bawd ar ben eich troed pan fydd y bysedd eraill wedi cau'n dynn.

Fe'i daliodd o flaen y gynulleidfa rhwng bys a bawd, a chyhoeddi, 'Ma' 'na ddigon yn y potal bach yma i lladd chi i gyd!' Er cywilydd imi, ni allaf ddwyn i gof beth oedd y meddyg yn ceisio'i brofi yn y bregeth honno, dim ond i'r ffiol fygythiol gadw pawb yn bur effro o hynny ymlaen.

'Na, na, dydw i ddim yn busnesa,' llefodd Siân wrth i law Mwsi gau fel bawd cranc am ei arddwrn a'i dynnu tuag at y fynwent.

Mae Bys a Bawd, sy'n fusnes teuluol a sefydlwyd ym 1955, yn arbenigo mewn llyfrau Cymraeg a Chymreig ac yn fusnes sy'n hollol ymrwymiedig i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.