Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bechadur

bechadur

Trodd ambell i sant yn bechadur.

Fodd bynnag, er y cyfan a allwn ddweud amdano sy'n gadarnhaol, mae'n parhau yn bechadur - pechadur a gyfiawnhawyd gerbron y nef - ond un sy'n llawn amherffeithrwydd.

I bechadur fel fi sy'n disgyn yn fyr iawn o gael deg allan o ddeg, mae hyn yn newyddion da iawn.

Yn ystod y dydd, fe ddaeth Owen George Jones at yr hen frawd Robert Evans, Glan y Môr, ac fe ddywedodd wrtho ei fod yn ei deimlo'i hun yn bechadur mawr, ac wedi darfod amdano ym mhob man; ni wyddai am un lle i droi ato ond at Dduw trwy weddi, ac ni allai weddio ei hun.

tua'r un adeg ag y darganfu Theomemphus ei fod yn 'bechadur', fe ddarganfu Rousseau ei fod yn fab Duw, a Rousseau yn hytrach na Phantycelyn yw ffynhonnell y meddwl diweddaraf yng Nghymru...

Tros bechadur buost farw, Tros bechadur ar y pren, Y dioddefaist hoelion llymion, Nes it orfod crymu'th ben; Dwed i mi ai fi oedd hwnnw Gofiodd cariad rhad mor fawr?

Yr wyf yn bechadur mawr; maddau, Arglwydd, er mwyn y gwaed, maddau.'

Felly, peidiodd yr ymchwilydd gwyddonol â bod yn bechadur ac aethpwyd i fawrygu'r bersonoliaeth sofran a rhydd a allai astudio byd Natur heb gyfeirio at Dduw na dim o'r athrawiaethau nodweddiadol Gristionogol.