Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bedwar

bedwar

Fel y tîm o'r Alban, sgoriodd Llanelli bedwar cais - dau i'r capten Scott Quinnell ac un bob un i Dafydd James a Chris Wyatt.

Roeddwn ar y pryd wedi bod yn gweithio fel un o bedwar Cyfreithiwr Erlyn yn swyddfa'r Prif Gyfreithiwr Erlyn, Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin, ers rhyw ddwy neu dair mlynedd cyn i'r achlysur 'rwy am ei ddisgrifio ddigwydd.

Felly, dyma droi am yr harbwr yn bedwar digon hapus.

Yn wir mae yna bedwar Cymron well nar safon - David Park sydd dair yn well, Mark Litton ddwy yn well a Philip Price, un yn well.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth Porth Amlwch yn ganolfan adeiladu llongau bwysig, a hwyliai llongau o Borthaethwy i bedwar ban byd.

Cedwais yn agos i bedwar cant o'i lythyrau a chyfrifaf ef yn un o'r llythyrwyr gorau a welodd Cymru errioed.

Ffars y garreg las oedd testun Y Byd ar Bedwar (HTV/S4C) yr wythnos hon.

Yng nghanol y wal orllewinol roedd lle tân mawr gwag gyda sgrîn efydd o bedwar panel colynnog ac uwchben y lle tân roedd silff ben tân gyda chiwpids yn y corneli.

Ond ar gyrion Y Gaiman rhaid aros yn gyntaf am lymaid - a chân coeliwch neu beidio - yn Na Petko, a chyn bo neb yn sylweddoli bron y mae'n bedwar o'r gloch y bore cyn bo pawb ar y bws i ddychwelyd yn ôl dros y paith yn llawer iawn distawach nag yn ystod y daith i lawr.

Mae yna bedwar lliw yn y gwyrdd, dau liw gwyrdd - y chlorophyll a a b, sy'n gyfrifol am sugno ynni goleuni'r haul ac yn ei osod yn ddiogel yng nghyfansoddiad y siwgr a'r starch.

Bu'n rhaid i ni aros am bedwar mis cyn chwarae gêm nesa'r grwp.

Bu pobl yn byw yma ers yn fore iawn, ac y mae olion o Oes yr Haearn, bedwar can mlynedd cyn Crist, yn profi iddynt dderbyn eu cynhaliaeth o'r tir a'u hamddiffynfa yn yr hen gaerau a godwyd ar hyd a lled sir Aberteifi, a rhyw chwech ohonynt ar lannau Wyre o Ledrod i Lanrhystud ac un o fewn i'r plwyf, sef Caer Argoed.

Rhedodd tri neu bedwar o ddynion o'r cysgod ac wedi diffodd y peiriannau aeth y peilat o'i sedd ac agor y drws a neidio allan.

Nid yw yn dewis dangos i ni ddim o'r golygfeydd godidog sydd yn nodweddiadol o'r mannau hyn, ond yn hytrach bedwar cwt sinc - sydd, efallai, yn eu ffordd eu hunain yn fwy nodweddiadol.

Mae'n annheg, yn eu barn hwy, fod gan y Prydeinwyr bedwar cyfle - a ninnau, fel hwythau, yn un cyfundrefn wleidyddol.

Fel ymarfer darllen ar ôl hynny, rhoir rhestr o wyrthiau'r Beibl a chwestiynau ac atebion o'r Beibl, 'Disgrifiad Byr o Bedwar Chwarter y Flwyddyn', ac wedyn chwedlau dychmygol.

Fe guron nhw Grimsby neithiwr, 4 - 1, a maen nhw nawr bedwar pwynt ar y blaen i Bolton gyda thair gêm ar ôl.

O'r cwmwd aethom dros y bencydd a'r rhosydd yn fintai fechan o blant o bedwar cartref i'r ysgol, lle'r agorwyd inni feysydd a bydoedd newydd o oleuni.

Er gwaethaf apÍl gan eu harweinydd, Joe Gormley, y glowyr yn hawlio cyflog o £135 am wythnos bedwar diwrnod o waith.

Wel rwan yntê, dyma'r malwr yn mynd i ben draw'r bonc ac yn nôl wagen, peth rhywbeth yn debyg i focs sgwâr heb gaead arno ac un pen wedi ei dorri i ffwrdd, a'r bocs hwn wedi ei osod ar bedwar olwyn, ac yn dal rhywbeth o ddwy dunnell i ddwy dunnell a hanner o bwysau.

Mi ddywedon nhw fod yna rhai wedi cwyno amdano, meddai'r fam i bedwar.

Nid oedd enw awdur nac argraffydd ar y copi a welodd ef ond yr oedd iddi bedwar ar ddeg o benillion a chytgan.

Bu'n gryf a heini nes cyrraedd ei bedwar ugain, ac er gwanio o'r corff, arhosodd yn feddyliwr hyd y diwedd.

Bu'r cynllun newydd yn llwyddiant anghyffredin gan i bedwar ar hugain o aelodau newydd o gylch Glasfryn ymuno â'r Ysgol Sul.

Sonnid felly am waith y tri arall yn peidio a thalu, fel y dywedir bod dau a dau yn bedwar, heb ddisgwyl iddynt fod yn ddim arall.

Roedd o'n crwydro'r byd ar danceri olew ac yn anfon llythyrau yn llawn lluniau i mi o bedwar ban byd.

Mae nawr yn bedwar o'r gloch y prynhawn.

Sonia Watcyn am bedwar o frodyr - Richard, Watkin, William a Morgan Williams.

Yn wir, cymaint oedd ei ymroddiad yn ei faes a'i bwnc fel y cyflwynai bedwar os nad chwe llyfr newydd, a oedd yn cynnwys rhagor o luniau o'i waith, i bob myfyriwr ar gychwyn ei gwrs, a'r gost i gyd yn cael ei thalu ganddo ef ei hun.

Erbyn cyrraedd y Foryd roedd wedi cynefino â'r heli - ac am bedwar tymor bu'n pesgi ar larder fras yr Iwerydd.

Pan gynhaliwyd ei wasanaeth sefydlu ym Mwcle, daeth ei dad yno o Flaen-y-coed, ynghyd a thri neu bedwar o ddiaconiaid yr eglwys gartref.

Mewn cyfweliad dwyawr i'r Byd ar Bedwar, cyfeiriodd at Fidel fel El Tirano, y gwir Stalinydd olaf yn y byd.

Mae i bob Si bedwar electron allanol neu electronau falens ac mae'r electronau hyn yn gyfrifol am glymu'r atomau yn ei gilydd fel bod dau electron ym mhob un o'r bondiau rhwng yr atomau.

Mynychwyd y cwrs gan bedwar deg o ddysgwyr.

Gellir rhannu'r rhain i bedwar grwp o dechnegau.

Roedd yna bedwar, os nad pump diwrnod ers i Megan adael y neges, ac roedd hi'n anodd credu nad oedd Edward Morgan wedi bod gartref unwaith yn ystod yr amser hwnnw.

Cofiwch am ail raglen 4 Trac ar S4C bnawn Sul yma efo Ian Cottrell yn canolbwyntio ar bedwar grwp arall.

Ymhellach ymlaen heno ar Y Byd ar Bedwar bydd rhaglen arbennig i drafod yr economi gyda siaradwyr o fyd diwydiant a masnach yn mynegi eu barn.

Pe bai hwn yn eu gweld, dyna fyddai diwedd adroddiad Y Byd ar Bedwar o Iran - a'n rhyddid ni, o bosibl.

Roeddwn yn Ariannin, felly, i ffilmio gambl enfawr gan un dyn; roedd Y Byd ar Bedwar hefyd yn cymryd siawns o'r mwyaf.

'Bydd y rownd derfynol yn erbyn Alaves bedwar diwrnod wedi Cwpan FA Lloegr - mi fydd yn dipyn o ddiweddglo i'r tymor.

Adlewyrchiad o'r hyder newydd hwn ynglŷn â dysgu Hanes Cymru yw'r gyfrol Llunio Cymru Fodern gan Geraint Jenkins, sef y gyntaf mewn cyfres o bedwar gwerslyfr ar Hanes Cymru.

Pan egyr Iesu'r sêl gyntaf gwêl Ioan y cyntaf o bedwar ceffyl.

Stori briodasol fach dda yr ydw i yn ei hoffi yw honno am gyfaill yn gofyn i henwr dros ei bedwar ugain oed pam yr arhosodd cyhyd cyn priodi.

Mae'r adran newyddion yn arbennig o dda gyda thameidiau o bedwar ban byd.

Derbyniwn bedwar neu bump o enwau cleifion i weddi%o drostynt bob dydd am fis.

O flaen y pum cant a mwy o ymfudwyr a morwyr ar ei deciau, yn edrych gyda theimladau digon cymysg ar y tynfad yn prysur ddiflannu o'u golwg, roedd mordaith o bron i bedwar mis.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Y 'gang o bedwar', Shirley Williams, Bill Rogers, David Owen a Roy Jenkins, cyn-aelodau o'r Llywodraeth Lafur, yn ffurfio plaid newydd, y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol, yr SDP. Naw aelod seneddol yn eu dilyn.

Yr oedd i Forgannwg yr Oesoedd Canol bedwar cantref: Gorfynydd, Penychen, Breiniol a Gwynllŵg; ymestynnai felly o'r afon Dawy i Wysg.

Roedd y rhyfel wedi dechrau ers naw diwrnod pan gyrhaeddodd criw `Y Byd ar Bedwar' faes awyr Ben Gurion yn Israel.

Yr oedd yr hen gadair yn wag; ac wrth ei hochr, ar y pentan llydan, yr oedd y bibell, yn gymwys yn yr un fan ag y dodwyd hi pan ddefnyddiwyd hi ddiwethaf bedwar diwrnod cyn y noswaith honno.

Dechreuodd y gwaith ymchwil tua dwy flynedd a hanner yn ol ac am bedwar mis bu'n pori trwy ddogfennau a thystiolaeth.

Tybed a oedd Dafydd ap Gwilym yn disgwyl i un a gafodd bedwar plentyn ar ddeg ar hugain ymuniaethau â'i reddfau corfforol ef?

Am bedwar o'r gloch, mi fyddai'r dynion bach od yn barod am gwpanaid o de.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

Bedwar mis yn ôl 'roedd y llwybr igam-ogam o'r llidiart i'r buarth fel haearn Sbaen ond heddiw edrychai'n debycach i afon na dim arall a châi'r Mercedes moethus drafferth i deithio.

Yn ei rhan ganol, mae Afon Cefni'n llifo drwy bedwar llyn.

Caem de am bedwar.

Ac wedi hwylio am dridiau neu bedwar, ni allai Ibn gofio'n iawn â'r criw i gyd yn dechrau anesmwytho ag anniddigo oherwydd eu bod yn gorfod dognrannu'r dŵr yn ofalus, fe benderfynwyd eu bod am angori llong nid nepell o'r lan, lle gellid gweld tŵr eglwys uwch y coed.

Roedd criw yr awyren yn mynd i orffwys am bedwar diwrnod yn Istanbwl - ond aros yn Iran wnaeth Aled.

Erbyn hynny, roedd newid sylfaenol wedi digwydd yn agwedd rhaglen `Y Byd ar Bedwar'.

Noson gymdeithasol braf a chyflwynodd pob gwlad bedwar munud o ddawns.

Rown i'n un o bedwar a fu'n gollwng gollwng coffin Madog i'r pridd ac rwy'n cofio taflu cipolwg ar Luned wrth i fi neud hynny a gweld 'i bod yn dra deniadol mewn du.

Llythyr gan rhywun o'r enw Verghese yn fy ngwadd i a phedwar reslwr arall i fynd yno oedd y tro cyntaf i mi glywed am y lle Byddaf yn cael llythyrau o'r fath o bedwar ban y byd yn rheolaidd gan bob math o bobol.

Byddai'r cylchgrawn hwn a gyhoeddid gan enwad bychan yn cyrraedd cartrefi dros bedwar ban y wlad gan gymaint croeso a gawsai'r golygydd eisoes ar aelwydydd Cymru, drwy gyfrwng y radio a'r teledu, fel colofnydd wythnosol Y Cymro, a golygydd papur cenedlaethol yr henoed.

'Cystal i ti ddeall dy fod yn edrych ar bedwar arbenigwr yn y fan yma,' meddai.

Rhyw bedwar dosbarth - plant o gwmpas y pump i naw oed.

Heddiw dau neu dri pherson yn unig sydd a'u gwreiddiau yn yr ardal, a phrin bedwar neu bum teulu yn unig sy'n siarad yr iaith.

Am bedwar o'r gloch 'roedd cyfarfod gyda phenaethiaid y coleg gyda baner goch ar y wal i groesawu'r ddwy ohonom i Goleg Athrawon Yiyang, a phrif olygydd papur newydd y coleg yno i dynnu lluniau ohonom.

Tu hwnt a thu yma i'r pentref gwelir ffermydd a thyddynnod y fro, ac enwau arnynt sy'n bedwar cant oed.

Cymerodd bedwar diwrnod i garej ddod o hyd i'r creadur ym mherfeddion y cerbyd ac yn ystod y pedwar diwrnod hwnnw tynnwyd y Myrc yn ddarnau ond i ddim pwrpas.

Fel rhywbeth arbennig a gwahanol i'r cynrychiolwyr fe drefnais fod ryw bedwar ar ddeg ohonom i gael 'reception' mewn ystafell arbennig a ddaeth Margaret Thatcher atom i sgwrsio gyda phob un a'i bartner.

Ymhlith ein cyd-letywyr roedd Sean Connery (a oedd heb glywed am Y Byd ar Bedwar!), a Phrif Weinidog China; ac, am resymau perthnasol iawn i'r stori, fel y cawn weld maes o law, yr oedd yr Arlywydd Carlos Menem ei hun yn treulio noson yn y gwesty.

O'r 32 aelod yna, mae yna bedwar o'r rheiny sydd erioed wedi siarad Basgeg yn y Senedd, ac mae'r 28 arall yn ei defnyddio i raddau amrywiol.

Cymru yn gwrthod datganoli o bedwar i un mewn refferendwm a gynhaliwyd ar Ddydd G^wyl Ddewi.

SIR FORGANNWG: Canu'r to olaf o'r Gogynfeirdd i bedwar o noddwyr y sur a drafodir i ddechrau.

Gellir dosbarthu'r bobl hyn yn bedwar grŵp.

O ganlyniad, yr oedd yna bedwar ar bymtheg o Weinidogion, yn ogystal â dau neu dri athro yng Ngholeg Y Bala.

Bydd tri neu bedwar rhifyn yn ymddangos ar y papur bob dydd.

'Ydi'r wlad ar fin torri?' Heno ar y Byd ar Bedwar am bum munud i naw.

Roedd hi'n bedwar o'r gloch y prynhawn pan gyrhaeddodd Doctor Idris Treharne a'i deulu bentre bach Llangi%an, ar lan môr Bae Ceredigion.