Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bedwen

bedwen

Ar Galan Mai ers talwm byddai'n arferiad addurno bedwen dal a dawnsio o'i chwmpas.

Byddai gosod bedwen wedi ei haddurno â rhubannau coch a gwyn i bwyso yn erbyn drws y stabal yn amddiffyn y ceffylau rhag eu rheibio.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

Ar lan y môr heli ni thyfodd erioed Na bedwen na gwernen na draenen ar droed, Nac unmath o goedydd ond llwyni o frwyn; Dan gysgod y rheini daw defaid ag žyn.

Pan ddaeth Calan Mai fe godwyd bedwen o'r lle y'i plannwyd a'i gosod yng nghanol tref Llanidloes.