Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bedyddwyr

bedyddwyr

Pan ddarllenodd Joshua Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, yn Athenae Oxonienses fod Penri'n Ailfedyddiwr, cododd ei ddychymyg ar ei aden.

Yr oedd y Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn cymedroli eu cynulleidfaoliaeth trwy ffurfio cyfarfodydd chwarter a chymanfaoedd neu trwy ymestyn awdurdod y rhai oedd eisoes mewn bodolaeth.

Er ei fod yn Fedyddiwr ac er bod achos gan y Bedyddwyr bron am y ffordd a'i dy, nid oedd yn cymryd nemor ran ynddo.

Er mai Bedyddwyr oedd teulu tad Euros, dewisodd fynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr, enwad ei fam-yng-nghyfraith a fynychai Gapel Hermon, Treorci.

Roedd Derfel am beth amser yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr, ac yn aelod o gylch llenyddol blaenllaw a oedd yn cynnwys Ceiriog a Chreuddynfab.

Yr oedd dau goleg y Bedyddwyr (yn Hwlffordd ac ym Mhont-y-pŵl) hefyd wedi rhoi lle rhyngddynt i dri estron ond nid yw hynny'n gymaint o ryfeddod, efallai, ag yn hanes y Methodistiaid oherwydd yr hen gysylltiadau niferus rhwng Bedyddwyr Cymru a Lloegr.

Yn amser y Diwygiad, mewn sgwrs a Pitar Wilias, un o wyr amlwg y pentra, ynglyn a chrefydd, fe ddwedodd Rondol wrtho, 'Dwi ddim yn ama na fedrwn i arwain fy hun i ymuno a'r Bedyddwyr pe bawn i'n gwybod y cawn i drochfa mewn cwrw' 'A finna' meddai Begw.

Dewiswyd Miss Eleri Lloyd Jones i gynrychioli'r Eglwysi bedyddiedig Cymraeg ar ymwleliad a Jamaica, El Salvador a Nicaragua fel rhan o Ddathliad Daucanmlwyddiant Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr.

Teimlwyd brig y llanw yng nghwrdd gweddi'r bobl ieuainc yn Nghapel Horeb [y Bedyddwyr]...Yr oedd yr hwyl a'r gwres mor nerthol fel y penderfynwyd treulio y prydnawn mewn gweddi, yn hytrach na chynnal Ysgol Sul.

Yr oedd Christmas Evans yn un o'r dynion a gyfrannodd at wneud y Bedyddwyr yn rym yn y wlad, ac nid y Bedyddwyr yn unig.

Ymhlith Bedyddwyr y De ceid gwrthwynebiad o fath gwahanol i'r dylanwad Efengylaidd a'i Galfinyddiaeth.

Er hynny, yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr at ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn dod fwyfwy o dan ddylanwad y Diwygiad Efengylaidd ac yn mabwysiadu dulliau efengylu a oedd yn gyffredin iddynt hwy a'r Methodistiaid.

A dyna gychwyn y Bedyddwyr Albanaidd.

Dilynwyd yr esiampl hon gan y ddau brif enwad arall, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr.

Araf ar y cyntaf oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr i'w chofleidio ond ni buont yn hir cyn sylweddoli ei mantais fel cyfrwng addysg.

Ymhlith y Bedyddwyr gwelwyd adwaith yn erbyn y dylanwadau Efengylaidd.

Diddorol yw nodi fod cyfartaledd uwch o staff colegau'r Annibynwyr yn Aberhonddu a'r Bala wedi'u haddysgu yng Nghymru'n unig ac na chafodd unrhyw athro gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ei addysg yng Nghymru'n unig mwy na staff colegau'r Bedyddwyr yn y De ddwyrain.

Y rhaniad sylfaenol, meddai Cradoc, yw hwnnw rhwng saint a phechaduriaid, nid y rhaniadau rhwng Eglwyswyr, Presbyteriaid, Bedyddwyr ac Annibynwyr.

Yng Nghaerfyrddin y bu'r Academi Bresbyteraidd trwy'r ganrif ddiwethaf ac fe'i cefnogid nid yn unig gan y Bwrdd Presbyteraidd yn Llundain ond gan Undodwyr, Annnibynwyr a Bedyddwyr Cymru.

Bob yn ail flwyddyn cynhaliwn Cymanfa Ganu yn eglwys y Bedyddwyr yn y Ddinas pryd y bydd y capel yn orlawn.

Llangollen oedd cartref cyntaf Coleg Bedyddwyr Gogledd Cymru.