Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beic

beic

'Ga'i Scaletrix, Trên drydan, beic mynydd, cit pêl-droed Cymru a chyfrifadur 'Dolig?

"Ac wedyn, rhaid i chi gael pump beic yn lle un beic," meddai'r dyn trwsio sosbenni.

A brysia!' ychwanegodd gan wthio ei frawd at y beic.

Fel plentyn 'roeddwn wrth fy modd yng nghwmni nhad, ac i Gerrig Duon yr awn ni efo fo bob cyfle gawn i, mynd ar ffrâm y beic ar draws 'camp Mona'.

mi fyddai'r dynion bach od yn mynd am dro ar gefn beic.

Wrth glywed curiadau cyson cacynaidd y moto beic bychan wrth iddo wasgu'r sbardun i'r pen er mwyn tynnu'r owns olaf o nerth allan ohono, hiraethai Dei am gael bod yn berchen moto beic go iawn, un ai un bychan nerthol, neu un mawr trwm a fyddai'n rhuo fel storm bell wrth wibio ar hyd y ffordd.

'Oedd fi'n methu gafa'l yn handls beic fi, Mf.

Un noson pan oedd ef yn teithio ar ei feic yng ngorllewin yr ynys, a hithau wedi mynd braidd yn hwyr, fe alwodd mewn siop yn rhyw bentre bach, i brynu lamp beic.

Dyna'r dasg nesa.' Yr oedd ei frawddegau mor fyr â'i gamau, a'r geiriau'n cael eu poeri allan fel pe bai ei larings yn beiriant moto beic.

Yr oedd yna lun plentyn mewn sgert neu drywsus pen glin a sana beic a thamishantar yn gorwedd ar ei fol ar lawr yn darllen ar gornel isaf cas glas y gyfrol a adwaenwn i o Nedw, Tegla Davies.

* "Petai yna bafin ar ochr y ffordd, a phetai'r dyn ar gefn beic wedi seiclo ar hwnnw, yna yn sicr fe fyddwn wedi ei osgoi..."

"Does dim digon o le i ni i gyd ar yr un beic, a rydym yn syrthio ar bennau'n gilydd byth a hefyd." Ar _l amser hir, dyma'r dyn trwsio sosbenni yn codi ei ben, yn agor ei lygaid ac yn dweud, "Wel, dyna ddynion bach od ydych chi.

Dringodd ar ei beic, ac yn ôl â hi i'r Bala, heb weld Debora'n troi'r gornel o gyfeiriad Pant Llwynog.

Bob tro yr agorem ddrws ein gwesty yn Siem Reap fe'n cipiwyd i fyny ar amrantiad i ganol haid o feicwyr ieuainc stwrllyd a chanddynt foduron ar eu beiciau a cherbyd bach ynghlwm wrth bob beic i gludo teithwyr oddi amgylch.

'Mae o gen i, Robaits,' meddai'r gŵr, ac yna ychwanegodd yn flin gan ysgwyd Siân nes bod pob asgwrn yn ei gorff yn teimlo'n rhydd, 'Busnesa, aiê?' Roedd ei lais fel taran wrth iddo godi'r bachgen oddi ar y beic fel petai yn ddim mwy na doli glwt.

Ac yn y fan fawr roedd pump cadair, pump gwely, pump beic, a phump cwpan mewn bocs.

"Ond rwy'n cael motor beic os wna i lwyddo.

Ac yn olaf dyma nhw'n mynd i siop feiciau ac yn prynu pump beic.

T.E. Lawrence ('Lawrence of Arabia') yn cael ei ladd mewn damwain â beic modur.

Yn unol ag athroniaeth Tebbit, aiff June - merch Mona a mam ddi-briod - ar gefn ei beic i Birmingham am gyfweliad ar gyfer joban croesawraig gyda'r cynllun Youth Opportunity.

Gwelais rhyw foi ar gefn beic, gweithiwr ar fferm mae'n siwr, a chodais fy llaw arno, yntau'n gwneud yr un fath arnaf i.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd ar gefn yr un beic a chyn iddyn nhw fynd ymhell iawn mi fyddai'r pump wedi syrthio'n bendramwnwgl ar y ffordd.

mam bach!' gwaeddodd Siân gan unioni'r beic i ruthro oddi yno am ei fywyd.

Ond dim ond un beic oedd ganddyn nhw, ac mi fydden nhw i gyd yn trio mynd ar gefn yr un beic.

Mae 'na ddigon o ddewis yn y catalog, a dim ond dau gant a hanner ydy'r beic bril 'ma.'

Edrychodd arno'i hun yng ngwydr y beic.

Aeth at y beic a'i godi.

Gwisgai drywsus ac anorac ddu - dillad oedd yn sgleinio fel y moto beic a safai ar ei stand yng nghanol y garej fel anghenfil mawr yn barod i lamu i'r nos.

Ond fyddai Bilo a'i fêts ddim yn clywed sŵn y moto beic, diolch am hynny; fe'i gadawyd wrth y moniwment mewn llecyn parcio o flaen y siopau, ac ar ôl cloi'r gadwen am yr olwyn flaen, cerddodd efo Cen i gyfeiriad stad o dai lle'r oedd cartref a garej Bilo.

Ond wrth frysio yno ar gefn ei fotor beic newydd, ac edrych ar awyren uwch ei ben yr un pryd, syrthiodd i ffos.

Yr oeddwn fel bachgen bach wedi cael beic newydd am y tro cyntaf.

Ychydig a wyddai'r diniweitiaid oedd yn crwydro'r wlad ar gefn beic i gasglu enwau ar ddeiseb i wrthwynebu rhoi adeiladau gwersyll y Llynges ym Mhenychain i 'Byclins' ar ol y rhyfel fod cytundeb yn bod cyn eu codi erioed rhwng Billy, a barchusodd i Syr William, a'r 'admirality', mai eiddo Butlin fyddai Penychain ar ol y rhyfel.

"Mae un, dau, tri, pedwar, pump ohonoch chi, ac felly rhaid i chi gael un, dau, tri, pedwar, pump beic.

Ac fe aeth ymlaen i ddarllen 'Adnabod' - a gwyddwn cyn iddo orffen mai honno oedd ei gân oedd yn mynegi'r hyn yr oedd ef yn dyheu amdano - sef gweld cariad ac ewyllys da yn bodoli rhwng pobl o wahanol genhedloedd.dyma Waldo'n gofyn iddo a oedd ganddo lamp beic i'w gwerthu.

Ers rhai blynyddoedd sylwais ar fy nghyfeillion, o basio'r deugain, yn rhuthro allan i loncian neu farchogaeth beic, a chael cryn ddifyrrwch o'u gweld yn eu trowsusau bach yn ceisio rhoi taw ar lais amser.

Y peth mwyaf twp heddiw oedd dwy ddarlith gan swyddog o Sgotyn, pryd y llongyfarchodd un o'r serjentiaid ar ei waith yn chwarae ffug-ddrama (rhedeg ar ôl ysbi%wr Almaenaidd ar gefn beic o Castellamare i Naples) a gofyn cwestiynau hurt iddo y byddai plentyn ysgol yn amharod i'w gofyn.

Dyn a'i olygon ar y pellteroedd y tu draw i lesni'r gorwelion, y crwydrwr cosmopolitan oedd dyn â'i law ar lyw beic, ond dyn o fewn ffiniau'i gynefin yn gwarchod gwinllan ei dadau oedd dyn â'i law ar lorp berfa.

Ac felly wedi i Owain lwyddo i weld moto-beic a phont a ffôn a methu'n lân â gweld car heddlu, rhedodd Carol allan o syniadau ac o amynedd.

'Roedd rhamant beic yn wahanol.

"A dim ond un beic sydd gennym i fynd am dro," meddai'r dynion bach od.