Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beiciau

beiciau

Yn raddol, gwasgarodd pawb a gwthiodd Dilwyn, Rhian ac Ifan eu beiciau'n araf i ben y rhiw cyn dringo arnynt a theithio'n flinedig hyd bentref y Bont, heb ddweud gair.

Does dim eisie i neb arall ddweud dim chwaith.' Felly allan â hwy heb ddweud gair a cherdded tua'r beiciau yn y cwt.

Bob tro yr agorem ddrws ein gwesty yn Siem Reap fe'n cipiwyd i fyny ar amrantiad i ganol haid o feicwyr ieuainc stwrllyd a chanddynt foduron ar eu beiciau a cherbyd bach ynghlwm wrth bob beic i gludo teithwyr oddi amgylch.

Ymysg ei ddiddordebau mae rasio beiciau, ac mae wedi rasio ar lefel rhyngwladol yn cynnwys ras tri diwrnod yn Iwerddon, a rasio tra yn aros yng nghanolfan chwaraeon byd enwog Club La Santa ar ynys Lanzarote.

Daliodd ar y cyfle i godi ar ei draed a phoeri'n bwysig cyn swagro'n ffug-fuddugoliaethus i gyfeiriad y sied lle cadwem ein beiciau.

Norman Tebbit yn cynghori pobl i ddilyn esiampl ei dad a mynd ar eu beiciau i chwilio am swyddi.

Coffa da am y dispatch riders, Willie Owen (aelod parhaol o'r staff) a John Williams o'r Blaenau (rhan-amser) yn gwneud siwrneiau epig yn rheolaidd ar eu beiciau modur.

Mae yna alw mawr am docynnau i weld pencampwriaeth rasys beiciau modur fydd yn cael ei gynnal am y tro cyntaf y Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Pan welwn nhw felly'n ymfyddino, a Thalfan yn agosa/ u fel rhyw Urien Rheged i'm cyfarch a'm herio â chawod o regfeydd, hiraethwn am ddihangfa, a dychmygu fy hun yn neidio ar un o'r beiciau a phedlo nerth fy nghoesau nes cyrraedd diogelwch tangnefeddus y dref, y traeth neu'r foryd.