Yn anffodus, mae tegeirian y gwenyn yn fwy cartrefol yn Ne Ewrop a ger Môr y Canoldir nag yng Nghymru; ceir yno ddigon o'r gwenyn sy'n addas i'w beillio.
Oherwydd y dull hwn o beillio, nid oes angen neithdar ar degeirian y gwenyn ac nid yw ei baill ar gael i'r mwyafrif o drychfilod.
Tegeirian tal, cain ei wedd, o liw pinc tywyll ydyw, a'i arogl hyfryd o sbeis a mymryn o 'carnation' yn cryflhau fin nos er mwyn denu'r gwyfynnod i'w beillio.
Glyna'r plat ar amrantiad yn nhafod y gloyn, ac yna gwyra ymlaen er mwyn cyrraedd y man cywir i beillio blodyn arall.
Llwydda'r gwenyn gwryw i beillio'r blodyn yn ystod ei ymweliad.
Cluda'r gloyn y paill heb yn wybod iddo i flodyn arall a'i beillio.
Nid yw mor hoff o'r gogledd oer, ac yng Nghymru mae'n agos i derfyn ei ddosbarthiad; nid yw'r gwenyn addas i'w gael yma ac fe ddibynna ar hunan-beillio fel arfer i sicrhau hadau ar gyfer y dyfodol.