Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beio

beio

Mae'r clwb yn beio'r oedi yn y cynllun i adeiladu pentre chwaraeon ym Mae Caerdydd.

Nid plentynnaidd, eithr anonest, oedd beio'r Gweinidog dros Gymru am na rwystrodd ef y mesur.

Rhaid cyfaddef nad ydym yn cael cnwd trwchus ers rhai blynyddoedd bellach ac mae'r sawl sydd yn barnu eu bod yn gwybod, yn beio'r effaith tū-gwydrol y mae llygredd y Ddaear yn ei gael ar y tywydd, am hynny.

Fe gafodd pawb sioc pan briododd e Luned - er nad oedd neb yn i beio hi am gadw tŷ iddo fe.

Ond mae'r Gyfraith i'w beio lawn cymaint, os nad mwy, nag unrhyw faes arall.

Ta waeth, doedd gan yr Arabiaid ddim amynedd a'r fath ffolineb - a phwy all eu beio nhw a hwythau'n byw tan haul tanbaid y Dwyrain Canol.

'Roedd Nerys yn beio ei hun am y ddamwain a throdd at y botel am gysur.

Y mae'n beio'n rhannol feirniaid a chynhalwyr eisteddfodau'r gorffennol na ddigwyddodd hynny.

Eisioes mae dwsinau o swyddi cydrannau ceir wedi cael eu colli yn ne a gorllewin Cymru a chwmnioedd wedi beio cryfder y bunt.

Fel sy'n digwydd yn aml, gwna esgusion lu dros ei ymddygiad yn bersonol ac yn breifat gan ei beio ei hun yn aml.

Roedd yn anodd beio Iran am y dioddefaint.

Mae'r trefnwyr yn beio'r tywydd garw a diffyg cefnogaeth yr awdurdodau lleol.

Gadawyd fy mam ar ol ar aelwyd y Thomasiaid am fod ei thad yn ei beio hi am yr amser difrifol o galed a gawsai ei mam wrth ei geni hi.

Mwy o gerydd na dim arall, fel petai hi i'w beio am nad oedd y ffôn yn gweithio.

Yr oedd Pengwern, yn ôl yr un llythyr, 'yn chwerw, yn beio J.

Digwyddiadau fel sylweddoli fod dy gariad di yn caru rhywun arall ac ar waethaf pob peth, ei fod yn mynd i' d'adael di am y person hwnnw." "Marc, bydd yn rhesymol..." "Rhesymol yw derbyn wedyn fod yn rhaid cael halen ar y briw - mai dy ffrind gorau di yw'r ferch arall yn y darlun." "Wrth gwrs, os oes angen beio unrhyw un, rwy i'n fwy euog na neb.