Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beiriant

beiriant

Ar yr un pryd roedd yn beiriant, yn rhyw fath o stamp boglynnu.

Gallai unrhyw ddigwyddiad neu achlysur roi cychwyn iddo - gweld ci defaid yn gweithio neu fustych yn pori, ac yn enwedig sôn am beiriant golchi.

Er enghraifft, byddai rhai pobl yn dewis cadair olwyn beiriant gan ei bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd a rhyddid i symud na chael eich gwthio mewn cadair efo llaw.

Dyna'r dasg nesa.' Yr oedd ei frawddegau mor fyr â'i gamau, a'r geiriau'n cael eu poeri allan fel pe bai ei larings yn beiriant moto beic.

Mewn dipyn mi fydd gwasanaeth doctor yn PDH, mi fyddwch chi'n cerdded i mewn i beiriant, hwnnw yn dadansoddi eich salwch, byddwch yn rhoi punt mewn blwch, a bydd ffisig neu dabledi yn dod allan wedi ei bacio'n ddestlus a 'print-out' taclus i ddilyn i ddweud wrthych pryd i gymryd y moddion.

ond i gael dau beiriant i gysylltu a'u gilydd ar hyd pellter o wifrau telegraff, yr oedd yn rhaid i olwynion y peiriant derbyn fod mewn cytgord union ag olwyn y peiriant y pen arall.

Babi o beiriant na fedra hi ddim mynd o gwbwl heb i chi afael ynddi hi, ac os gollyngech chi hi ar ôl iddi gychwyn, syrthio ar ei hochor fel brechdan fyddai 'i hanes hi bob tro.

O flaen y lleidr gwelodd Debbie ddrws car yn agor a chlywodd beiriant yn cael ei danio.

pan oedd y ddau beiriant yn cydredeg yn union yr oedd yr olwynion lythrennau yn cyd-droi, yn union fel petai siafft solet yn eu cysylltu.

Cred y Gymdeithas fod perygl i'r Byd Addysg Gymraeg ddatblygu'n beiriant hunan-gynhaliol, a bod angen hybu'n bennaf y datblygiad hynny lle mae'r drefn addysg yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned yn hytrach na hybu'r defnydd o'r Gymraeg tu fewn i'r ysgol neu'r coleg yn unig.

Roedd hi'n dywyll, yn bygwth glaw ac mae milltir yn gryn ffordd i gerdded dan bwysau horwth o beiriant recordio.

'Dwi ddim yn credu bod yna beiriant llun-gopio yn stafell y Wasg ar hyn o bryd.

yr oedd dyfais newydd david hughes, er mor amherffaith, yn cynnig arf bwysig i'r consortiwm, gan ei fod cymaint yn well nag unrhyw beiriant arall, ac felly gallai roddi mantais fasnachol aruthrol i'r sawl a'i pherchenogai.