Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beirniadaeth

beirniadaeth

Yr oedd y ffordd y trefnwyd ymgyrch y Cyfamod yn gwahodd beirniadaeth o'r fath.

Cyflwyniad i'r defnydd o ysgrifennu mewn dysgu pynciol,- pwrpas, dulliau o drefnu a pharatoi, beirniadaeth AEM ar arferion athrawon a sut y gellir grymuso'r dysgu.

Ategir beirniadaeth Gruffydd o Ewropeaeth Saunders Lewis gan Tecwyn Lloyd yn ei fywgraffiad meistraidd.

Yn ei beirniadaeth hithau o waith Fishman, dywed Martin- Jones fod Fishman yn trafod 'dewis' iaith yn helaeth yn ei astudiaethau o gymunedau dwyieithog, tra'n honni yr un pryd mai normau'r gymuned sy'n pennu'r iaith a siaradir ym mhob sefydliad cymdeithasol.

Cawn Kate Roberts, yn ei beirniadaeth, yn eu rhybuddio i gofio y gallai gormod ohonynt dagu'r arddull a rhwystro'r darllenydd rhag

I chi a mi heddiw mae'n ddrama hen ffasiwn iawn, yn llawn cymeriadau stoc, ond nid yw heb ei rhinweddau, a'r peth pwysicaf yn ei chylch yw ei bod yn llawn beirniadaeth gymdeithasol ar draha landlordiaid, rhagrith rhai crefyddwyr a pharchusrwydd cyfoglyd y dosbarth canol Cymreig newydd.

Eu beirniadaeth arni yw ei bod yn rhy bendant a bod y dystiolaeth drosti yn fregus.

Cymorth beirniadaeth E Lewis Evans, y mae M Wynn Thomas yn edmygus iawn ohono, ysgolhaig a gweinidog Annibynnol a ddeallodd yn gynnar ba mor astrus oedd ei arwr; a chymorth beirniadaeth Hugh Bevan ar ei ôl, yr hwn yn Morgan Llwyd y Llenor a astudiodd yr awdur fesul llyfr yn ogystal ag yn gyffredinol.

Bydd y tîm pêl-droed cenedlaethol yn ceisio ateb beirniadaeth a sicrhau pwynt o leia yn y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl yn Warsaw, heno.

Beth oedd oblygiadau'r 'Llythyr' o safbwynt beirniadaeth lenyddol?

Y mae iddo dair rhan: y modd yr enillir Enid (a hanes hela'r carw purwyn yn arweiniad tuag ato); adran gysylltiol lle'r â'r arwr a'i wraig i'w teyrnas eu hunain ac ymserchu yn ei gilydd i'r fath raddau nes ennyn beirniadaeth a chrechwen y llys; a hyn eto'n arweiniad at wir thema'r 'rhamant', ymgais Geraint i'w brofi ei hun, neu'i wraig, mewn cyfres o ymladdfeydd sy'n cyrraedd uchafbwynt yn 'chwaraeon lledrithiog' y cae niwl.

Dyma bellach fynegi mewn beirniadaeth yr hyn yr oedd amryw yn anelu ato.

Tawelwch sydd wedi bod ym Mhrydain ers i'r grwp ganslou taith Brydeinig llynedd, ac ers hynny, mae Cerys wedi wynebu beirniadaeth yn y wasg am ei sylwadau am gyffuriau, a chyhuddiadau o ymddygiad rhagrithiol - yn bloeddio canu am ba mor ddi-enaid yw bywyd Llundain, ond eton cael ei sbotion gadael y Met Bar bondigrybwyll gydag amrywiaeth o ser.

Buasai'r stori%wyr Cymraeg - a Daniel Owen yn eu plith - yn dadlau bod eu gwaith hwy y tu hwnt i bob beirniadaeth foesol.

Yn Iwerddon, fe fu gwrthwynebiad, beirniadaeth, a gwatwar y sianel newydd-anedig.

Gwnaed yr adroddiad yn sgîl beirniadaeth Pwyllgor Seneddol ar Faterion Cymreig o safon dyluniad tai newydd yng nghefn gwlad Cymru gan Gwmni Chapman Warren ar gyfer y Cyngor.

Beirniadaeth lenyddol yn trafod y traddodiad barddol.

O ganlyniad, y mae eu beirniadaeth ar yr eglwysi'n aml iawn yn blentynaidd a thwp - heb sôn am fod yn greulon o annheg.

Y mae'r BBC wedi dangos diddordeb o ryw fath yn ein polisi a'n beirniadaeth; cafwyd cyfarfod gyda Aled Glynne, ond yr oedd ar y cyfan yn anfodlon derbyn ein beirniadaeth.

Ond, yn lle derbyn hyn fel beirniadaeth ar eu diffyg arweiniad eu hunain, mae Ceredigion yn adrodd hyn, mewn dull sgorio pwyntiau, fel cyfiawnhad dros gau ysgolion.

Er caleted ei beirniadaeth ohono ni bu erioed yn ddall i'w alluoedd a'i egni a'i gampau eithriadol.

Doedd dim ôl beirniadaeth ar eglurhad y meddyg ifanc: `Ond mae'n iawn i bobl gael gwybod', meddai.

Trodd ati, fel petai'n gallu synhwyro ei beirniadaeth, a phan siaradodd roedd mymryn o gerydd yn ei lais.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y tair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy anfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon, prif weithredwr y cyngor, ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Ychwanegodd ymhellach ddwy reol gyffredinol ynglŷn â safon beirniadaeth a natur cyfalaw i'r pwyllgor eu hystyried ymhellach.

O sylwi fel y trodd bopeth a ddywedodd yn 'Safonau Beirniadaeth Lenyddol' â'i wyneb i waered yn 'Swyddogaeth Celfyddyd', mae hynny'n sicr o fod yn wir.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y dair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy ddanfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon (Prif Weithredwr y Cyngor), ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Tystia i eiriau caredig Saunders Lewis a beirniadaeth galonogol WJ Gruffydd yn Eisteddfod Manceinion fod yn sbardun iddi.

Mae pob beirniadaeth yn anorfod bersonol, yn ei chyfyngu ei hun i farn un person arbennig.

Mae Enid yn syrffedu ar y bywyd hwn - 'nid oes dim gasach gennyf na hynny', meddai - ond ni allai gyfaddef hynny i Geraint ac ni all ychwaith adrodd iddo anesmwythyd a beirniadaeth ei wŷr.

Ond er cydnabod anorfodrwydd goddrychedd beirniadaeth, mae rhai nodweddion sydd heb fod, hwyrach, yn wrthrychol mewn ystyr wyddonol, ond sydd eto mor gyson gyffredin i weithiau sydd wedi eu profi eu hunain yn abl i oroesi pob barn a chwaeth a mympwy, nes mynnu eu lle fel anhepgorion.

Ond er mor syml y rhediad mae'r manylion a gynhwysir a'r awyrgylch a gre%ir yn cyfrannu at ddatblygiad y stori oherwydd trwyddo rhed llinyn beirniadaeth o gymeriad Geraint yn ei ymagwedd a'r math o ddifyrrwch sy'n mynd â'i fryd.