Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

belen

belen

Plygodd y bachgen i lawr unwaith eto, a phan oedd y belen eira yn dechrau ymdoddi yng ngwres ei ddwylo, anelodd hi at ben un o'r milwyr.

Ni elli wrthsefyll y llais sy'n dy alw ymlaen ac mae'n rhaid i ti ddilyn y Belen Olau.

Nid yw'r glud yn un cryf iawn, mae tua deg gwaith gwannach na bondiau cemegol arferol felly mae'n eitha' hawdd datod y belen protein o'i siap.

Sgrechiodd Meic Jervis mewn ofn wrth i'r belen ar ben y mes ruo i lawr tuag ato.

Mewn gwirionedd nid yw'r belen yn flêr, mae'r siap a'r ffurf wedi eu trefnu'n ofalus ac yn cael eu dal at ei gilydd gan gysylltiadau neu fondiau cemegol a elwir yn fondiau hydrogen.

Heno 'roedd hi nid yn unig wedi colli decpunt, a hithe, am unwaith, wedi mentro prynu chwe llyfr, ond 'roedd he hefyd wedi colli gobaith ennill y belen eira a oedd erbyn hyn wedi cyrraedd hanner canpunt.

Gwelodd y belen eira yn gadael llaw Jean Marcel.

Pan ddaeth ati ei hun gwelai belen wen gwallt ac wyneb pryderus ei thad yn plygu drosti ac yn dal ei phen yn ei ddwylo a chlywai ei lais o bell: 'Fy seren, o fy seren!

Oedwch yn y tangnefedd tawel ar brynhawn o aeaf fel y gwnaethom ni, i weld yr haul yn suddo'n belen eirias dros benrhyn Llyn, mynyddoedd yr Eifl yn borffor dywyll, a'r eira'n eisin pinc ar gopaon Eryri.

Trawodd y belen y darian gyda'r un grym ag y byddai pêl-droed o gic go hegar wedi'i wneud.

Roedd angen un rhediad oddi ar y belen olaf ond bowliodd Adrian Dale gapten yr ymwelwyr, Neil Smith, gyda'r belen honno.

Byddai'r belen filain yn malu pob gewyn yn ei gorff, tarian ai peidio.

Cafwyd diweddglo hynod gyffrous ar faes Thomas Lord wrth i Forgannwg fethu sgorior un rhediad oedd ei hangen oddi ar y belen olaf i ennill ei gêm yn erbyn Middlesex.

Rhuodd y belen bicellog drwy'r awyr fel jet, cynffon o wreicchion a fflamau'n ei dilyn.

Meddyliwch am y rhaff hir wedi ei hel yn belen braidd yn flêr ac fe gewch ddarlun digon teg.