Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

belt

belt

'Roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn fel ffars Brian Rix; nhad yn neidio o'i wely, y tŷ'n ysgwyd, drws ystafell gysgu mam a nhad yn agor a chau, drws ystafell gysgu ni yn agor, yr ystafell fel bedd, Wili a Glyn yn y gwely mawr yn cuddio o dan y blancedi a finna yn y gwely bach un lygad ar agor yn gwylio'r digwyddiadau, a gweld nhad un llaw yn dal y 'long johns' i fyny a belt yn y llaw arall yn colbio'r gwely.

Roedd hi'n ôl yn y bwthyn yn Nhraeth Coch, yn ei ffrog gingham fioled a gwyn newydd, y ffrog a'r gwddw isel a'r belt llydan metalig o gwmpas y wasg a'r fflowns yn y sgert yn dod dros y pengliniau.

Mae caredig ferched Jeriwsalem yn arfer paratoi'r diod hwn a'i roi yn hael i'r rhai sy'n mynd i'w tranc." A synhwyrodd rhywrai o wragedd Bwlchderwin felly fod y cawr wedi rhoi un dan y belt i'r corrach?

Trwy drugaredd cafodd ei hesgidiau a'i belt pan ddaeth yn ei hôl.

Daeth plismones ifanc ati a gofyn am ei hesgidiau a belt ei jîns.