Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

belydriad

belydriad

Er mai gwirion iawn fyddai dadlau nad oes yna unrhyw berygl yn deillio o'r defnydd a wneir o'r fath belydriad, dylid tanlinellu'r ffaith fod yna ochr arall i'r stori.

Gall dogn uchel o belydriad niweidio, a lladd, celleoedd, a chan fod canran sylweddol o'r radio-iodin yn ymgasglu yn y thyroid, celloedd y thyroid a gaiff eu heffeithio fwyaf gan y pelydrau.

Mewn llun optegol gwelwn belydriad sêr yn bennaf, ond yn y llun pelydrau-X gwelwn allyriad nwyon poeth iawn, ar dymheredd o filiynau o raddau Celsiws.

Dylid pwysleisio bod y lefelau o belydriad a ddefnyddir mewn gwaith therapiwtig o'r math hwn yn uwch o lawer na'r hyn a ddefnyddir mewn gwaith diagnostig.

Mae ein haul ni yn allyrru y rhan fwyaf o'i belydriad yn rhan weledol y sbectrwm.

Gyda'r holl sylw a roddir ar y cyfryngau i belydriad niwclear a'i effeithiau niwediol, hawdd iawn fyddai casglu mai dim ond gweithio yn erbyn parhad dynoliaeth a wna.