Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

benbaladr

benbaladr

Yr oedd y peth yn digwydd nid yn unig yn Eifionydd ond trwy Gymru benbaladr.

Roedd y canlyniadau'n cadarnhau fod cefnogaeth gadarn ac eang i'r iaith drwy Gymru benbaladr, ynghyd ag awydd i weld cynnydd mewn defnyddio'r Gymraeg yn gyffredinol.

Nid yng Nghymru'n unig y cafwyd y math yma o amgylchiadau cymdeithasol a'u canlyniadau alaethus ar addysg - dyna oedd profiad cyffredin bron pob un o'r broydd ffatri%ol neu lofaol trwy Loegr benbaladr, a hynod o debyg oedd y geiriau a ddefnyddid yn adroddiadau'r arolygwyr ysgolion i'w disgrifio hwythau - broydd fel swydd Stafford a'r 'Black Country' drwyddynt draw, a rhannau o swydd Durham a siroedd gogledd Lloegr, ac wrth gwrs, trefi mawrion a dinasoedd Lloegr.

Roedd y ddwy garfan yn ymateb, wrth gwrs, fel ag yr oedd deallusion Ewrop benbaladr, i'r 'newyddfyd blin' yr esgorodd y Rhyfel Mawr arno.

Felly dyma Beelzebub yn anfon cythreuliaid trwy Gymru benbaladr i ladd ar enw da'r Cymry, i ddifenwi Ymneilltuaeth, a moesau'r merched, a'r heniaith a'i llenyddiaeth (tt.