Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

benbleth

benbleth

Bu deall y darlun hwn yn dipyn o benbleth i'r esbonwyr, a'r duedd fu edrych arno fel enghraifft o barodrwydd y mynaich canoloesol i weu chwedlau er hyrwyddo eu buddiannau eu hunain.

Gosodwyd ef mewn cryn benbleth ac yntau wedi rhoi'r gorau i swydd uchel yn y Gwasanaeth Suful yn Llundain i fyw ar dyddyn yn Eifionydd.

Fel y gellwch goelio, roeddwn i mewn cryn benbleth.

'Dy ateb di?' chwarddodd Gwawr wrth ddeall ei benbleth.

Mewn cryn benbleth daeth ataf.

Felly, yn ystod y saith mlynedd ar hugain yr oedd yr esgobion druain mewn cryn benbleth oherwydd yr awelon croes a oedd yn chwythu arnynt.

Yn ei benbleth i geisio rhyw lun o weld y ffordd, a than ei glwyfau, aeth Ifan Paraffîn yn fwy o dincar fyth.

Wrth gwrs, byddai'r esboniad hwn yn ateb rhai o'r posau oedd wedi peri cymaint o benbleth iddynt: pam roedd rhai pobl yn methu â'u gweld fel personau ond yn gweld effeithiau eu presenoldeb; pam roeddynt yn teimlo fel bodau ar wahân yn eu hen gynefin, yn fwy felly nag yr oedd traul y blynyddoedd yn ei esbonio; pam roedd agendor diadlam rhyngddyn nhw a'r bobl.

Ceisiodd hwnnw esbonio ei benbleth gan ofyn a oedd y ferch wedi cyrraedd rai eiliadau o'i flaen.

Wedi marw ei mam, yr oedd yr eglwys mewn tipyn o benbleth.