Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

benderfyniad

benderfyniad

Amodau ariannol oedd y tu cefn i benderfyniad annisgwyl Alchemy i dynnu'r cynnig yn ôl.

Felly mewn ffordd roedd o'n benderfyniad hollol bragmatig, ond fel mae'n digwydd mae o'n bendant yn rhywbeth yr ydw i'n cael cic ohono fo, felly mae o'n gweddu i'r dim.

Yn hynny o beth, meddai un aelod amlwg, roedd penodi Elan Closs yn ddirprwy gadeirydd yn benderfyniad pwysig.

PENDERFYNWYD fod yr argymhelliad uchod i fod yn benderfyniad.

Mi fydd yn benderfyniad anodd i Robert ar ôl dweud yn yr haf falle bod ei yrfa ryngwladol e ar ben.

Mewn llythyr at y Cynghorydd Gerald Frederick Meyler, dywed Branwen Evans, Ysgrifennydd Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith, 'Mae'r Gymdeithas yn ymateb gyda syndod i benderfyniad y Pwyllgor Addysg.

Gwnaeth benderfyniad dewr.

ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn glynu at ei benderfyniad blaenorol y dylid rhoddi hawl i holl staff y cynghorau newydd i sefyll etholiad i fod yn aelodau ohonynt a phwyso am ddiddymu'r gwaharddiad sydd yn bodoli.

Rhaid plymio'n ddyfnach a rhoi'r cyfan i lawr o'i gwr os wyf i ddod i benderfyniad a ddyry imi ryw fesur o dawelwch meddwl.

Bydd disgyblion yn brin o benderfyniad a dyfalbarhad; byddant yn ddiofal wrth ddefnyddio iaith, yn darllen yn anfoddog ac ychydig o falchder a gymerant wrth gyflwyno'u gwaith.

Rhaid i mi wneud fy ngorau glas i ddod i benderfyniad synhwyrol, ac i'r perwyl hwnnw, da o beth fyddai bwrw golwg yn ôl a cheisio dadansoddi, mor wrthrychol ag y medraf, yr holl ddylanwadau a'm harweiniodd i'r fan hon.

Ni all y Cymry wneud unrhyw benderfyniad ynghylch bywyd Cymru.

'Fe alla i ddeall ei benderfyniad e ar ôl bod yn y swydd fy hunan.

Buasai cyfle i cynghorau cymuned roddi eu sylwadau bryd hynny, mewn da bryd i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud ei benderfyniad.

'Ond dyna benderfyniad y Pwyllgor, a fel dwedes i, rwyn meddwl bydd y Pwyllgor Cyffredinol yn cwrdd â'r clybie eto yr wythnos nesa.

Talcen uchel, llygaid byw a llwyth o benderfyniad.

Gwaradwydd o benderfyniad gan unrhyw gorff sy'n honni gweinyddu cyfiawnder.

Mae ei holl adwaith i'w amgylchfyd, fel y portreedir ef, yn arwydd pendant o'i benderfyniad i ddal ei dir ac o'i allu i ffynnu ymysg lladron a thaeogion.

Mae yna sôn y gall Grahame Henry ddechrau'i yrfa fel hyfforddwr y Llewod gydag ambell benderfyniad annisgwyl.

Ei gyfraniad mawr i lywodraeth yr Eisteddfod oedd ei allu i edrych ar broblem o sawl cyfeiriad, o safbwynt ariannol, o safbwynt trefniadol, ac o safbwynt celfyddydol, ac arwain ei gydgynghorwyr yn y diwedd at benderfyniad y byddai'r budd mwyaf ohono yn deillio i'r eisteddfodwr cyffredin.

Mae'r polisi hwn hefyd ar hyn o bryd mewn cul-de-sac, ond mae hygrededd ariannol y polisi hwn yn ddibynnol ar benderfyniad gan y Swyddfa Gymreig ar y fformiwla gyllido h.y. a ddylid dehongli 'ffederasiwn' fel un ysgol, neu fel nifer o ysgolion at bwrpas cyllido.

Dyna'r ymresymiad oedd tu ôl i'w benderfyniad ac, fel gwr dibriod, mae'n bosib nad oedd yn sylweddoli'r pwyse ychwanegol y bydde taith fel hon yn ei roi ar y gwragedd.

Roedd gwahardd y defnydd o hormonau hybu tyfiant yn benderfyniad i'w groesawu gan y diwydiant amaeth yn gyffredinol.

Yn wyneb y fath benderfyniad nid oedd yn syndod fod pobl wedi rhyfeddu pan glywsant y ffigurau terfynol.

Mae'n rhaid i'r Cynulliad ddod i benderfyniad yn yr Hydref (gw.

Roedd Gwenhwyfar yn synnu at bryder Medrawd, a'i benderfyniad i hela'r carcharorion coll.

Dim ond y cynhyrchydd sydd mewn sefyllfa i wneud y math yma o benderfyniad a dyna'n union yw sywddogaeth cynhyrchydd.

Ymddengys na fun benderfyniad doeth.

Yn awr, sut bynnag, yr oedd ganddo benderfyniad newydd.

Maen nhw wedi arwyddo cynnig yn y Tŷ Cyffredin i fynegi eu pryder sylweddol a'u dychryn" at benderfyniad Comisiwn y Mileniwm i roi £29m ychwanegol i'r atyniad.

Roedd penderfyniad Harry Hughes Williams i ddychwelyd i Fôn yn barhaol ar ddiwedd ei gwrs yn y Royal College - lle'r enillodd wobr Prix de Rome - yn benderfyniad dewr.

Mae llwyddiant y dulliau heddychlon yr wyf i yn eu harddel yn dibynnu ar ba benderfyniad y daw ein gormeswr iddo, pa arwyddion y bydd yn ei drosglwyddo i'r cyhoedd tu allan.

Mae cais cynllunio Cyngor Sir Clwyd i godi ffordd osgoi i'r Fflint, ar draws y gors yn aber yr afon Dyfrdwy wedi ei alw i mewn am benderfyniad personol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

"Mae'n anodd iawn gadael ond roedd yn benderfyniad a oedd yn rhaid i mi'i wneud o ac wedi'i wneud o roedd hi'n bwysig i mi aros efo'r syniad wedyn," meddai Gareth Lewis ynglŷn â'i ymadawiad dramatig â Pobol y Cwm.

Teimlodd Harri Gwynn droeon iddo fod o dan gwmwl oherwydd ei benderfyniad i lynu'n dynn wrth amodau'r cytundeb.

Mae'r Gymdeithas wedi gofyn i arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin am esboniad o benderfyniad syn y Pwyllgor Addysg, a gyfarfu ar Fawrth y 4ydd.

Mae disgwyl iddo fe gyflwyno ei benderfyniad newydd ar y mater rywbryd yn nes ymlaen heddiw.

Eto, os bu'r trafod a'r dewis ar sail yr hyn mae Graham Henry wedi'i weld yn ystod y tymor yma falle bod e'n benderfyniad digon teg.

Rhywle mewn ystafell ddirgel yn y Swyddfa Ryfel yn Llundain bu dynion yn gwyro uwch map o fynydd-dir Cymru, ac wedi astudio'r tirwedd a chyfrif erwau, daethpwyd i benderfyniad.

Darllen amdano yn y wasg oedd yr wybodaeth gyntaf a gafodd teuluoedd y Cwm am benderfyniad Dinas Lerpwl i foddi eu cartrefi a'u capel er mwyn creu cronfa enfawr o ddŵr i ddiwallu galw diwydiant Lerpwl, glannau Merswy a rhannau o Gaer am fwy o ddŵr.

Mae aelodau'r Cyngor yn dal i aros am benderfyniad boddhaol ar faterion cyllidol sy'n ymwneud â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac maent yn ceisio cael eglurhad ar fyrder.

"Mae wedi bod yn benderfyniad o weledigaeth gan y cyngor sir i ddarparu'r gwasanaeth hwn -- mae denu'r tri cynhyrchiad mawr fel y rhain mewn dipyn dros dwy flynedd yn profi'r potensial sydd yma."

Mae aelodau'r Cyngor yn parhau i aros am benderfyniad boddhaol ar y materion cyllidol hyn ac mae'n ceisio cael eglurhad ar fyrder.