Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

benderfynodd

benderfynodd

Dyn a chryn ddychymyg ganddo debyg iawn a benderfynodd fod tri phlwyf Llangwyryfon, Llanrhystud a Blaenpennal yn dod at ei gilydd ar ynys fechan yng nghanol Llyn Eiddwen, ac nid yw ffin Lledrod ym mhell o'r un uniad chwaith.

Mae grŵp bychan o feini hir yn Langon ac yn ôl llafar gwlad yr ardal honno, criw o ferched ifanc ydynt a benderfynodd fynd i'r cae i ddawnsio yn lle mynd i'r eglwys un dydd Sul.

Naill ai ni chlywodd Nain neu fe benderfynodd nad oedd hi eisiau clywed.

'Roedd pethau'n mynd yn esmwyth iawn ym mherthynas Teg a Cassie ar y dechrau ond dechreuodd pethau fynd o chwith yn gynta pan ddaeth Steffan i chwilio am ei fam - 'doedd Cassie 'rioed wedi cyfadde wrth Teg fod ganddi blentyn cyn priodi - ac yna pan benderfynodd Beryl, mam Cassie, adael y gogledd a dod i fyw at ei merch i'r Deri.

Wedi sawl blwyddyn yn y mynyddoedd fe benderfynodd ffoi o Cwrdistan, a gan fod ei frawd eisoes wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd fe ddaeth Kamarin, hefyd, i brifddinas Cymru.

Roedd o efo'i dad, yn rhyw lefnyn pedair ar ddeg oed, pan benderfynodd hwnnw agor y stafell.

Ar fore hynod o braf yn y Brifddinas, fe benderfynodd Plaid Cymru agor yr ymgyrch yn yr awyr agored.

Mae yna lawer o sôn wedi bod yn ystod y misoedd diwethaf ynghylch cynlluniau Stereophonics i fod yn grwp mwy acwstig ei naws ac fe gadarnhawyd hynny i rhyw raddau pan benderfynodd Kelly Jones fynd ar daith acwstig o amgylch Lloegr … ac America wrth gwrs.

Yn ôl eu harfer dros y blynyddoedd daeth dros ddwy fil o bobl i'r theatr eto eleni, y tro hwn i rannu atgofion John Davies - yr hen lanc canol oed a benderfynodd symud i fyw i lety wedi marw ei fam - wrth iddo werthu ei ddodrefn "o law i law% i berthnasau a chydnabod.

Ar ôl marwolaeth Glan arhosodd Cassie a Teg yng Nghwmderi i helpu Mrs Mac i redeg y Deri Arms a phan benderfynodd Mrs Mac adael am Tenerife yn 1997, prynodd Teg a Cassie'r Deri.

Roedd hyd yn oed y rhai a benderfynodd mai crefydd arall oedd eu crefydd hwy yn gwneud yn fawr ohono.

Mr Jones oedd Cadeirydd y pwyllgor a benderfynodd cael gwared ag un gair bach sydd wedi codi ffrae fawr yn yr ardal.

Daeth marwolaeth Damilola Taylor ar ei ffordd adre o'r ysgol yn ddiweddar ag atgofion yn ôl i mi am yr adeg pan benderfynodd y ferch hynaf ei bod yn dymuno cerdded i'r ysgol ac yn ôl ar ei phen ei hun.

Roedd TNS ar y blaen 3 - 2 pan benderfynodd y dyfarnwr stopio'r gêm ar hanner amser y cyfnod ychwanegol oherwydd cyflwr y cae.

Ynghanol hyn i gyd llwyddodd Llew i ailbriodi yn 1997 gyda Rachel Price a thorrodd ei galon yn 1998 pan benderfynodd Rachel nad oedd y briodas yn gweithio.