Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

benderfynol

benderfynol

Fel petai'n benderfynol o ddymchwel ein darlun cyfeiliornus fe sgrifennodd Saunders Lewis un o'r nofelau mwyaf telynegol a luniwyd yn Gymraeg.

Doedd llawer ohonyn nhw ddim hyd yn oed yn Gristnogion a doedden nhw byth yn tywyllu drws yr eglwys, ond roedd pawb yn benderfynol y buasen nhw'n adeiladu'r eglwys orau y medren nhw.

Pob un yn benderfynol nad oeddynt am weld Michael Stoten, gŵr o Kensington a Chelsea, yn cael ei benodi yn Gyfarwyddwr Addysg dros-dro y sir.

Daliai Jock a minnau i gadw llygad arni, a'i gweld yn dod i lawr, yn benderfynol ond ychydig yn arafach.

Dyma'r tro cyntaf i Hector aros mewn gwesty, ond yr oedd yn benderfynol o fod yn hyderus ac yn siŵr o'i bethau.

Rydym yn benderfynol o fod ar flaen y gad o ran technoleg cyfathrebu newydd, yn ddigidol ac arlein.

Tuag wyth o'r gloch y nos, fodd bynnag, symudodd yr awdurdodau'n benderfynol i ddymchwel teyrnasiad y picedwyr.

Ar y cyfan cânt eu portreadu yn ddynion gyda grym ewyllys cryf, yn benderfynol, yn ddewr, yn llawn o hunan ymddiriedaeth a hunan-gadwedigaeth.

Mae Doreen a Hazel yn ei hannog i gyfaddef y gwir, ond mae Sab yn benderfynol o roi tro arni.

Gafaelodd yn benderfynol yn y dwrn pres, a'i droi.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

'Roedd Mrs Mac yn benderfynol o gael erthyliad ond llwyddodd Glan i'w pherswadio fel arall ac yn 1994 ganwyd ei thrydydd plentyn, Daniel.

Maent wedi cau amdanat ac yn benderfynol o'th ddal yn gaeth.

Gwêl y genhedlaeth iau lai o'r gwirionedd, am eu bod mor benderfynol i roi'r bai ar ei gilydd, ar amgylchiadau, ac ar y Gors.

Pan ddaeth Catherine Pierce yma gyntaf i aros 'roedd fy nhad mor benderfynol a dieflig am gadw'i hen wraig fel y penderfynodd werthu'i stoc.

Roedd Mr Smith yn benderfynol" o sicrhau na fyddai cael dau fwletin am 10 o'r gloch yn arwain at ostyngiad yn nifer y gwylwyr.

Roedd Ann Clwyd yn benderfynol o weld beth yn union oedd yn digwydd i'r Kurdiaid, ac roedd yn awyddus i ohebydd o ITN a minnau gyd-deithio â hi.

Trueni na fedr Simon basio'n well gan ei fod yn gryf ac yn benderfynol wrth ymhyrddio ganol y maes.

Ymateb sydd yma i'r rhai hynny sydd yn benderfynol o edrych i lawr ar bawb, ac sy'n grediniol eu bod yn byw bywydau gwell nac eraill.

Ond roedd hi'n ferch benderfynol, ac yn lle tewi gwnâi fwy o sŵn, a'i hymdrech i gael ein sylw yn fwy taer.

Ond nid dyna'n nod - nid swydd grŵp ymwthiol yw ein gwir amcan sylfaenol - ond bod yn blaid benderfynol a gwydn.

Roedd perchnogion siopau wedi gosod baneri a rhubannau y tu allan i'w siopau ac yn benderfynol o wneud y gorau o'r digwyddiad.

Bid siwr, mae'r cwmni yn benderfynol i wthio'i nwyddau i ganol y plot!...

Anghenraid cyntaf y gymdeithas genedlaethol Gymreig yw gwladwriaeth; ni ellir ei chreu'n heddychlon heb weithredu gwleidyddol cwbl benderfynol.

Bydd fy ngwaith yn helpu Paul yn siwr o'i frifo a gwneud iddo feddwl fy mod yn benderfynol o bwysleisio'r diffyg ffafr y mae ynddo ar y foment.'

Unwaith y mae Dad wedi penderfynu ar rywbeth, does dim troi arno, Un felly ydi o erioed, meddai Nain Ffred; yn benderfynol fel mul, rêl penci.

'Roedd yn benderfynol o setlo'r hen foi mawr unwaith ac am byth.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Yr oedd llawer o gerddoriaeth cyfoes Ewropeaidd bryd hynny wedi'i drochi mewn euogrwydd - 'roedd straen cymdeithasol ar y cyfansoddwyr - cyfrifoldeb y cyfansoddwr tuag at ei gymdeithas, a 'roedden nhw'n benderfynol o brofi hynny.

Brysiodd Idris hefyn yn ei flaen er gwaetha'r demtasiwn i godi'r teganau, yn gwbl benderfynol y byddai'n fwy gofalus o hyn ymlaen.

Yn wir nid gormod ydi dweud i'r rhan fwya o'r chwaraewyr gael eu synnu gan ei agwedd hollol benderfynol a sicr.

Mae Mr Evans yn benderfynol o wella ar berfformiad 1997.

Roedd e'n benderfynol nad oedd ei ddamwain yn mynd i'w atal rhag parhau â'i hobi - dringo mynyddoedd.

Dyw'r mesur ddim yn farw eto, a ry'n ni'n benderfynol o godi ymwybyddiaeth pobol o'r hyn sy'n digwydd." Dywedodd bod yr agwedd negyddol hon yn ymestyn at bobol gyda phob mathau o anabledd, nid anabledd gorfforol yn unig.

Ond mae'r chwaraewyr yn dal mewn ysbryd da ac y mae wedi profi iddyn nhw ac i bawb arall mor benderfynol y mae'r rheolwyr i gael disgyblaeth yn y garfan ar bob lefel.

Dywedodd Huw Lewis un o arweinwyr y cerddwyr, ' Hyd yn oed os yw'r prinder tanwydd yn golygu fod llai o bobl yn gallu teithio i Gaerdydd i ffarwelio â ni, ac hyd yn oed os collwn ni ein cerbyd wrth gefn, fyddai yn ein gorfodi i gario ein holl baciau ar ein cefnau, yr ydym yn benderfynol o fynd yr holl ffordd i Lundain.

Rydym yn cydnabod yr anawsterau wrth herio'r status quo ond yn fodlon cymryd cyfrifoldeb i geisio newid y drefn ac yn benderfynol o lwyddo. 02.

Costiodd y ddau ryfel yn ddrud i'r llywodraeth ganolog, a oedd yn benderfynol o amddiffyn undod gwladol Ethiopia, yn arbennig am fod Massawa, un o'i hunig ddau borthladd, ar dir y gelyn yn Eritrea.

A pham eu bod mor benderfynol o barhau yn y gyfundrefn Seisnig?