Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

benthyg

benthyg

Doedd hi ddim yn coelio mewn banciau felly doedd hi ddim yn bosib iddi newid sieciau, ond byddai'n rhoi benthyg yr arian heb feddwl ddwywaith am y peth.

Ond eto, mae'n ffaith fod llawer iawn o gwmniau a chymdeithasau sydd yn rhoi gwasanaeth benthyg arian yn gwneud hynny mewn modd cwbl anghyfrifol, heb ystyried amgylchiadau'r cwsmer na'i allu i ad-dalu.

Ar ddiwrnod cneifio yn Llannerchirfon ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf fe ganodd Selby Price, bardd gwlad hynod ffraeth o'r fro, fel hyn i'r gyllell y cafodd ei benthyg gan Nedi Pen-dre, Tregaron:

Yr oeddwn yn cael benthyg llyfrau ganddi, ac nid fi yn unig, ond amryw o bobl eraill.

''Fasa 'rhen dlawd yn medru hel y ffers 'tasa hi'n cal benthyg pynsiar gin y Paraffîn.' Daeth yn dro i'r wraig anwybyddu sylw'r gwr a cherddodd yn fân ac yn fuan i gyfeiriad y gegin allan.

Mae Densil John yn meddwl bod mwy o ymwybyddiaeth o broblemau y digartref erbyn hyn ond mae'r problemau'n dal i fodoli: "Mae Caerdydd yn ddinas sy'n benthyg ei hun i ddatblygiad ond pwy sy'n mynd i ddod i le sydd a llwyth o bobl yn crwydro'r strydoedd yn aml yn chwil?

Holwyd mudiadau gwirfoddol eraill i sefydlu pa rai o'u plith oedd yn rhoi benthyg cadeiriau olwyn.

Gwyddom hefyd pa mor barod yr oedd Evan Jones i roi benthyg arian i'w gwsmeriaid pan fyddai'r esgid fach yn gwasgu, yn ogystal a gadael i ddyled y 'llyfr siop' redeg am flynyddoedd.

Fe fu ambell filwr yn help ymarferol mawr yn benthyg lifrai i ddau ohonom gael teithio gyda nhw ac yn ein cuddio yng nghefn eu cerbydau ambell dro.

Gwêl y cyfarwydd ar un waith mai aeddfedrwydd benthyg neu etifeddol sydd iddynt, trefn gaboledig y Piwritaniaid o'r cyfnod cynt.

Croesawyd y rhodd o bedair cadair olwyn gan y Ganolfan Gofal Iechyd yn Llanelwy; mae'r pedair cadair bellach yn cael eu benthyg yn helaeth o bob un o'n pedair swyddfa.

Doedd gan Jabas ddim dewis ond angori yng nghanol yr afon a benthyg cwch rhwyfo i gyrraedd wal y cei.

Un tro roedd tîm Caernarfon braidd yn fyr a bu'n rhaid iddynt gael benthyg chwaraewr gennym ni.

Canfu ddial Ernest am iddo wrthod rhoi benthyg ei farch iddo.

Mae ef wedi rhoi benthyg llongau ` ac arian iddo.

Felly, cyfiawnder benthyg sydd gan y Cristion gerbron Duw.