Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bentrefi

bentrefi

Mewn ardal wasgaredig fel hon ym mlaenau'r cymoedd, heb bentrefi yn ganolfannau cymdeithasol, roedd i'r ysgol a'r capel le pwysig.

Wrth ystyried mai rhestr o 'unigolion' hollol ar hap oedd i gychwyn, ac mai'r unig dasg gyfrifo angenrheidiol oedd mesur y pellter rhwng gwahanol bentrefi, mae'r algorithm genetig wedi medru esblygu, ac yn ei sgil, hunan-ddysgu y daith orau heb unrhyw ymyriad o gwbl.

Peryglwyd nifer o ysgolion oherwydd bod teuluoedd ifanc wedi gorfod symud o bentrefi at stadau tai cyngor yn y trefi neu i chwilio am waith.

Erbyn hyn, os oes dau neu dri o dai yn weddol agos at ei gilydd ar fin y ffordd, mae'n rhaid cael lamp drydan i gneitio drwy'r nos ar ddrysau caeedig a ffordd ddidramwy, ac y mae goleuadau'r man bentrefi'n llewyrch melyn yn yr awyr dywyll.

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Y diciâu yn gyffredin yng Nghymru ac yn cael ei alw y 'Welsh disease'. Haerwyd fod amodau byw yn un i bentrefi Môn yn 'worse than (those of) the native quarters of Shanghai'. Amcangyfrifid fod 450,000 o bobl wedi gadael Cymru yn ystod 'blynyddoedd y locustiaid' ers 1921.

Hi oedd modd cludiant popeth o gerrig i lwyth o ddodrefn ar adeg mudo ym mân dyddynnod y mân bentrefi.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol, cenedlaetholwyr Cwrdaidd a'u cefnogwyr yn ymgyrchu yn erbyn y llywodraeth Llafur Llundain a'i bwriad i roi cymorth economaidd i wladwriaeth Twrci adeiladu argae a fydd yn golygu boddi ugeiniau o bentrefi Cwrdaidd.

Mae polisiau tai a datblygiadau economaidd wedi ei gwneud yn anos i bentrefi barhau i gynhyrchu cenedlaethau newydd o ddisgyblion ysgol.

Fel pe baen nhw'n mynnu profi'r pwynt, mae nifer o fan bentrefi yn gwibio heibio'r ffenest fel rwy'n ysgrifennu, ar fy nghaith o Delhi i Calcutta yn y tren.

Aethom trwy nifer o bentrefi bychain amrywiol.

Gwerthwyd 20,000 o dai, 1000 o siopau, 250 o dafarndai ynghyd â theatrau, ffermydd a mân bentrefi.

Mae hyn wedi arbed llawer o bentrefi rhag y difrod a wnaethpwyd i lefydd fel Harlech, Gaerwen a Dinbych yn y 1980au.